Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hyfforddiant i Ofalwyr

Gofalwr yw unrhyw un sy'n gofalu am rywun sy'n sâl, eiddil, anabl, gyda phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau nad ydynt yn gallu ymdopi heb eu help. Mae'r help a gynigir ganddynt yn ddi-dâl. Mae croeso i ofalwyr fynychu amrywiaeth o hyfforddiant sydd ar gael dan y dudalen Gofal Cymdeithasol.

Os hoffech fanteisio ar hyfforddiant ond bod eich gwaith gofalu'n rhwystro hyn, gall Gofalwyr Powys a'r Uned Hyfforddi helpu trwy:

  • Dalu costau gofal arall trwy eich darparwr arferol neu Crossroad
  • Talu costau gofal plant trwy eich darparwr arferol neu un arall.
  • Talu costau teithio fesul milltir, neu gostau tacsi neu gar cymunedol os nad ydych chi'n gyrru
  • Bod yn hyblyg o ran pa rannau o'r cwrs y gallwch eu gwneud

Hyfforddiant gorfodol y mae gofyn i Weithwyr Allanol ei gyflawni'n unig yw'r hyfforddiant a restrir ar y dudalen hon.