Deddf Cynllunio Gwlad a Thref, a deddfwriaethau eraill
Mae'n bosibl y bydd angen cael caniatâd i wneud gwaith dymchwel dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i diffiniwyd). Bydd gwahanol fathau o ddymchwel (e.e. cyntedd bach a warws mawr) yn arwain at wahanol reolau a gweithdrefnau.
Mae'r system gynllunio'n defnyddio dull rhagweithiol o drin adeiladu cynaliadwy, trwy flaenoriaethu'r angen i leihau gwastraff adeiladu a dymchwel a sicrhau bod cymaint o botensial â phosibl i ddeunyddiau sy'n rhan o waith dymchwel neu gynlluniau ailddatblygu gael eu hailddefnyddio neu'u hailgylchu. Bydd angen i unrhyw geisiadau sy'n cynnwys dymchwel gynnwys gwybodaeth a thystiolaeth ar y potensial ar gyfer ailgylchu deuyddiau. Gallai'r dystiolaeth gynnwys arolygon strwythurol. Mae darparu hysbysiad Deddf Adeiladu yn annigonol i gydymffurfio â gweithdrefnau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref.
Dylech hefyd wirio a oes angen unrhyw ganiatâd arbennig arall, e.e. caniatâd adeilad rhestredig neu drwyddedau rhywogaethau bywyd gwyllt.
Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn ein Nodyn cyfarwyddyd Rhif 22: Adeiladu Cynaliadwy (PDF) [19KB].