Talu Ffioedd Cynllunio
Mae angen ffi i brosesu'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ac ymholiadau cyn cynllunio. Gallwch wirio cost ceisiadau cynllunio (PDF, 152 KB).
Gallwch hefyd wirio canllawiau am ddim ar y Porth Cynllunio am wybodaeth bellach.
Sut i dalu:
1. Porth Cynllunio Cymru
Pan yn gwneud cais drwy'r Porth Cynllunio, rhaid cyflwyno eich taliad yn uniongyrchol i'r Porth Cynllunio ar adeg cyflwyno. Os bydd ein tîm yn nodi bod angen taliad ychwanegol, byddwn yn eich hysbysu ac yn darparu cyfarwyddiadau ar sut i dalu'r ffi ychwanegol.
2. Ar-lein
Gellir talu ceisiadau a gyflwynir i'r Cyngor drwy e-bost neu drwy'r post yn ddiogel ar-lein trwy ein gwefan. Dyma'r ffordd gyflymaf o dalu am eich cais. Pan yn gwneud taliad ar-lein am gais cynllunio, mae'n hanfodol cynnwys cyfeirnod y cais cynllunio neu gyfeiriad y safle yn yr adran gyfeirnod.
Sylwch y gellir cyflwyno ymholiadau cais cyn-cynllunio a'u talu ar-lein drwy'r dudalen ganlynol: Cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio
3. Ffôn
Gallwch dalu â cherdyn drwy ffonio Gwasanaethau Cynllunio. Ffoniwch 01597 827161 (Saesneg) neu 01597 82 6000 (Cymraeg) rhwng 9am-12pm a 1pm-4pm Ddydd Llun i Ddydd Gwener.
Nodwch, wrth dalu, bydd angen eich rhif Porth Cynllunio 'PP' wrth law.
4. Siec
Rydym ni'n derbyn taliadau siec hefyd yn daladwy i Gyngor Sir Powys. Anfonwch eich siec i: Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.
Sicrhewch fod pob taliad siec yn cynnwys cyfeirnod y Porth Cynllunio neu gyfeirnod y cais, ynghyd â chyfeiriad safle cais a'ch manylion cyswllt.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau