Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod i wybod os oes angen Caniatâd Cynllunio arnoch

Ym mis Medi 2013, newidiodd y gyfraith ynglyn â'r hawliau datblygu sydd gan  berchnogion tai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu arweiniad i helpu perchnogtion tai i ddehongli'r newidiadau sef Cynllunio:  Arweiniad i Ddeiliaid Tai a Insiwleddio Waliau Allanol Solet: Arweiniad Cynllunio i Ddeiliaid Tai

Porth Cynllunio

Planning portal logo

A oes angen caniatâd cynllunio arnaf?

Y ffordd orau yw i ddefnyddio teclyn Ty Rhyngweithiol y Porth Cynllunio.  Mae'r canllaw gweledol hwn yn nodi'r hawliau datblygu sy'n cael eu caniatau ac yn esbonio'r gwahanol gyfyngiadau (Gwnewch yn siwr eich bod yn  dewis yr opsiwn i Gymru gan fod rheolau gwahanol mewn grym yn Lloegr). Nid yw'r hawliau hyn yn berthnasol i fflatiau a maisonettes.  Mae angen caniatâd cynllunio llawn bob tro ar gyfer aneddleoedd newydd.

Mewn rhai achosion mae hawliau datblygu a ganiateir yn fwy cyfyngedig e.e. os yw eich eiddo yn neu wedi'i leoli mewn ardal gadwraeth neu ardal Cyfarwyddyd Erthygl 4.

Gwybodaeth am hawliau datblygu cyfyngedig a ganiateir neu a ddiddymwyd

Dod o hyd i reoliadau cynllunio ac adeiladu ar gyfer prosiectau gwaith adeiladu cyffredinol

 

Cyrbiau Isel

Image of a dropped kerb

Efallai byddwch angen caniatâd cynllunio ar gyfer cyrbiau isel (e.e. mynediad o ffordd ddosbarth 'C' neu'n uwch).

Os bydd rhaid newid yr ardal rhwng yr anheddle a'r ffordd bydd angen i chi gael caniatâd gan ein Hadran Briffyrdd hyd yn oed os nad oes angen caniatâd cynllunio.

Gwneud cais am drwydded ar gyfer cyrbiau isel