Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a Thelerau ar gyfer Hyfforddiant

Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau.

 

Ceisiadau am Gyrsiau

I gadw lle ar eich dewis o gwrs, gall gweithwyr Cyngor Sir Powys ddefnyddio system hunanwasanaeth Trent trwy deipio enw cychwynnol y cwrs yn y blwch deialog chwilio.  Gall gweithwyr nad ydynt yn gweithio i Gyngor Sir Powys fynegi diddordeb mewn cwrs trwy ein system ar-lein.

 

Canslo Cyrsiau a Chostau

N i fydd unrhyw gostau canslo yn cael eu codi os byddwch yn rhoi gwybod i'r Gweinyddydd Hyfforddiant cyfatebol un wythnos cyn y cwrs. Ni fydd canslo cwrs oherwydd salwch yn arwain at gost. Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau fod cyrsiau'n cael eu cynnal yn unol â'r amserlen. Os oes amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth lle mae cyrsiau i'w canslo neu eu haildrefnu, gwneir pob ymdrech i roi gwybod i'r sawl sy'n mynychu mewn da bryd. 

 

Mynychu heb gadw lle

Mae gofyn i chi gadw lle i fynychu unrhyw gwrs yn y llawlyfr. Cyflwynir adroddiad yn rheolaidd gyda gwybodaeth gywir o ran y nifer sy'n mynychu pob sesiwn hyfforddi. Efallai y bydd presenoldeb mewn sesiwn heb gadw lle yn dderbyniol ar yr amod fod lleoedd ar gael, Noder: os yw'r sesiwn yn llawn, bydd yr hyfforddwr yn gwrthod yr hawl i chi fynychu.

 

Cyfrinachedd

Mewn pob digwyddiad hyfforddi, rydym yn disgwyl dyletswydd o gyfrinachedd wrth ddelio gyda phynciau anodd, emosiynol sy'n gwneud i ni feddwl. Rydym hefyd yn disgwyl i chi:

  • gydnabod a pharchu hawliau defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a chydweithwyr

  • cynnal cyfrinachedd proffesiynol

  • cynnal agweddau nad ydynt yn gwahaniaethu

  • cydymffurfio â pholisiau a gweithdrefnau'r Cyngor a/neu eich sefydliad.

 

Cyfarwyddiadau Cyrsiau

Bydd gwybodaeth a chyfarwyddiadau ar gyrsiau yn cael eu hanfon at y sawl sy'n cymryd rhan tua 2 wythnos cyn dechrau'r cwrs. Os na fydd digon o bobl yn mynychu cwrs er mwyn iddo fod yn werth ei gynnal, neu oherwydd sefyllfaoedd a all godi sydd y tu hwnt i'n rheolaeth, rydym yn cadw'r hawl i ganslo neu ohirio'r cwrs.
 

 

Ffioedd Peidio â Mynychu

Mae cyrsiau'n rhad ac am ddim oni nodir fel arall. Os na fyddwch yn llwyddo i fynychu'r digwyddiad, efallai y byddwch yn derbyn ffi o £100 am ddiwrnod llawn neu £50 am hanner diwrnod. Bydd hyn yn unol â disgresiwn yr Uwch Weinyddydd Hyfforddiant.


 

Gwerthuso Cyrsiau - Digwyddiad yn dilyn Cyrsiau

I werthuso ein hyfforddiant ymhellach, bydd yr Uned Hyfforddi yn cysylltu â'r sawl a fynychodd gyrsiau o fewn 3 - 6 mis wedi'r digwyddiad hyfforddi i sefydlu sut yr ydych wedi cymhwyso'r hyn a ddysgwyd o'r newydd o fewn eich gwaith ac i asesu sut mae hyn wedi effeithio ar eich rôl, tîm a gwasanaeth. Bydd yr adborth a dderbyniwn yn cael ei ddefnyddio i wella perfformiad gwasanaeth ac i werthuso

Sut wnaethom ni? Pa mor dda wnaethom ni? A oes unrhyw un mewn sefyllfa well o ganlyniad i'r cwrs?

Fel arall, gallwch roi adborth a chanmoliaeth nawr yma.

 

Ysmygu a'r Gweithle

Mae'r Cyngor yn ymroddedig i sicrhau fod ei eiddo yn gwbl rhydd o fwg i ddiogelu pawb. Ni chaniateir ysmygu o fewn nac ar eiddo'r Cyngor gan gynnwys ardaloedd cymunedol, swyddfeydd unigol, grisiau, lifftiau, ardaloedd gorffwys, toiledau, meysydd parcio swyddfeydd y Cyngor a meysydd parcio staff/Aelodau, depos a thiroedd. Gwaherddir ysmygu hefyd o fewn cerbydau sy'n eiddo i'r Cyngor ac yn cael eu gweithredu ganddo neu gerbydau a gaiff eu hurio neu sydd ar brydles ar gyfer busnes y Cyngor ar bob adeg. Nid yw cerbydau sy'n eiddo preifat (fel y maent ar wahân o gerbydau prydles) yn cael eu cynnwys yn y gyfraith ddi-fwg.  Os yw gweithiwr wedi cynllunio i rannu car gyda chydweithwyr ar daith sy'n ymwneud â'r gwaith, mae ganddynt hawl i wrthod lift mewn cerbyd lle mae'r teithwyr eraill wedi bod yn ysmygu neu'n bwriadu ysmygu ac i wneud trefniadau teithio eraill, di-fwg.