Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

What is the Childcare Offer?

30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi'u hariannu i rieni cymwys sy'n gweithio gyda phlant tair a phedair blwydd oed ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'n cynnwys cyfuniad o ddarpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) sy'n agored i bob plentyn tair a phedair blwyddyn a gofal plant ychwanegol a ariennir ar gyfer teuluoedd cymwys.

Faint o oriau gofal plant ydw i'n gymwys ar eu cyfer?

Uchafswm o 30 awr o addysg wedi'i yn y Blynyddoedd Cynnar a gofal plant cyfunol yw'r cynnig. Mae Cyngor Sir Powys, ar hyn o bryd, yn ariannu 10 awr o ddarpariaeth meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN). Golyga hyn y bydd rhieni priodol yn gymwys i dderbyn 20 awr o ofal plant ychwanegol yn ystod amser tymor.

Nid oes gofyn i rieni ddefnyddio eu hawliad blynyddoedd cynnar er mwyn cael mynediad at elfen gofal plant y cynnig. Fodd bynnag, bydd eu hawliad yn cynnwys yr oriau hynny boed os byddant yn eu defnyddio ai peidio.

Yn ystod y gwyliau, fe fyddwch yn gymwys am 30 awr o ofal plant am naw wythnos o'r gwyliau ysgol.

Darpariaeth Addysg  Blynyddoedd Cynnar y Cyfnod Sylfaen i blant teirblwydd a hŷn

Amser Tymor - Deg awr yr wythnos, Gwyliau - dim awr yr wythnos

Oriau gofal plant a ariennir ychwanegol ar gyfer teuluoedd cymwys

Amser Tymor - Ugain awr yr wythnos, Gwyliau - Tri deg awr yr wythnos

Pryd fydd fy mhlentyn yn dod yn gymwys i dderbyn y cynnig?

Os ganwyd eich plentyn rhwng:

  • 1 Ebrill a 31 Awst - Tymor yr Hydref wedi ei ben-blwydd yn 3 oed
  • 1 Medi a 31 Rhagfyr - Tymor y Gwanwyn wedi ei ben-blwydd yn 3 oed
  • 1 Ionawr a 31 Mawrth - Tymor yr Haf wedi ei ben-blwydd yn 3 oed

Faint o oriau o addysg ydw i'n gymwys ar eu cyfer?

Mae elfen addysgol y cynnig hwn yn amodol ar reolau Derbyniadau Ysgol arferol Cyngor Sir Powys. Rhaid i rieni ymgeisio am le addysg meithrin y Cyfnod Sylfaen.

Os hoffech wneud cais am le mewn lleoliad cyn ysgol, ewch i'r dudalen derbyn.

 

 

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu