Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Pwy sy'n gymwys am y cynnig?

Who is eligible for the offer?

I gael mynediad at yr elfen gofal plant o'r cynnig, rhaid i rieni a gwarcheidwaid:

  • Bod â phlentyn sy'n 3 neu 4 oed
  • Yn byw yn Sir Powys
  • Rhaid i'r ddau riant / cyplau sy'n cyd-fyw fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant neu rhaid i'r rhiant fod yn unig riant mewn teulu un rhiant (gweler isod y cyfarwyddyd ar gyfer rhieni mewn addysg neu hyfforddiant)
  • Yn ennill isafswm wythnosol sy'n cyfateb i 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol
  • NEU fod yn derbyn budd-daliadau gofalu penodol, ar yr amod bod y rhiant arall yn cwrdd â'r gofyniad incwm (gweler eithriadau isod)
  • Yn ennill llai na'r incwm uchaf o £100,000 y flwyddyn y rhiant

 

Os ydych chi'n bodloni'r cymhwysedd uchod, fe allwch chi wirio'ch cymhwysedd a gwneud cais ar-lein am Gynnig Gofal Plant Cymru drwy gwblhau cais ar-lein.

Os yw rhieni wedi gwahanu ond heb fod yn rhannu gwarchodaeth gyfartal o'r plentyn, bydd y rhiant sydd â'r prif warchodaeth yn gymwys i dderbyn y cynnig (os yw'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd). Lle mae rhieni'n rhannu garchodaeth yn gyfartal bydd angen enwebu un rhiant fel y rhiant arweiniol ar gyfer y cynnig.  Dim ond un rhiant fydd yn gymwys i wneud cais am y plentyn hwnnw

Bydd angen i rieni, gwarcheidwaid, llys-rieni a phartneriaid sy'n byw gyda rhiant i ddiwallu'r meini prawf cymhwyster ar gyfer plentyn sy'n byw o fewn y cartref hwnnw i allu derbyn y cynnig.

Beth fydd yn digwydd os byddaf i neu fy mhartner yn colli ein swydd?

Petai rhiant ddim yn parhau i fod yn gymwys, bydd cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos yn cael ei ganiatáu ac yn ystod y cyfnod hwn, fe fyddant yn parhau i allu defnyddio'r cynnig.

Eithriadau i gymhwyster:

Mae rhieni sydd i ffwrdd o'r gweithle dros dro oherwydd salwch neu oherwydd absenoldeb rhieni (gan gynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhieni statudol a rennir neu absenoldeb mabwysiadu) yn parhau'n gymwys i dderbyn y cynnig gan eu bod yn cael eu hystyried i fod yn gyflogedig.

Lle mae un rhiant yn diwallu'r meini prawf cymhwyster a bod y rhiant arall yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol, fe fydd y plentyn hwnnw yn parhau i allu derbyn y cynnig:

  • Budd-dal analluogrwydd
  • Lwfans gofalwyr
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol
  • Budd-dal analluogrwydd tymor hir
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credydau Yswiriant Cenedlaethol ar sail anallu i weithio neu allu cyfyngedig i weithio

Ni fydd rhieni sengl a theuluoedd lle mae'r ddau riant yn derbyn y budd-daliadau uchod yn gallu manteisio ar y cynnig.. 

Gofalwyr sy'n deulu a ffrindiau (a adwaenir fel Gofalwyr sy'n Berthnasau) yw'r rheini sydd wedi derbyn cyfrifoldeb dros blentyn neu lysblentyn sydd ddim yn blentyn iddynt hwy oherwydd:

  • Nid oes rhieni gan y plentyn neu nid yw'r rhieni yn gallu gofalu am y plentyn;
  • Mae'n debygol mai'r awdurdod lleol fyddai'n gofalu am y plentyn fel arall oherwydd pryderon o ran lles y plentyn

Gall gofalwyr sy'n berthnasau gael mynediad at y cynnig cyn belled â'u bod yn diwallu'r meini prawf enillion er mwyn iddynt gael eu dosbarthu fel eu bod yn 'gweithio', gan fyw yn yr ardal gymwys a'u bod yn gofalu am blentyn sydd o'r oedran cywir i dderbyn y cynnig.

Canllawiau i Rieni mewn Addysg neu hyfforddiant

  • Gall rhiant mewn addysg neu hyfforddiant fod yn rhiant sydd naill ai: - wedi cofrestru ar gwrs gradd neu ôl-raddedig Addysg Uwch (AU) sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir drwy gyfrwng dysgu o bell - wedi cofrestru ar gwrs sydd o leiaf 10 wythnos o hyd ac sy'n cael ei gyflwyno mewn Sefydliad Addysg Bellach (AB). Mae hyn yn cynnwys cyrsiau a ddarperir drwy gyfrwng dysgu o bell. (Dylai rhieni mewn addysg neu hyfforddiant roi tystiolaeth o'u cymhwysedd drwy ddarparu tystiolaeth o gofrestru ffurfiol ar gwrs AU neu AB perthnasol. Lle mae rhiant wedi gwneud cais a chael cynnig lle ar gwrs AU neu AB perthnasol, ond nad yw wedi gallu cofrestru eto, dylai ddarparu tystiolaeth o gynnig ffurfiol o le ar gwrs)
  • Rhaid i'ch plentyn hefyd fod yn 3 neu 4 oed ac yn byw yng Nghymru er mwyn cael y cynnig.

 Byddai rhiant mewn addysg neu hyfforddiant sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd yn gallu cael mynediad i'r Cynnig o'r pwynt y mae eu cwrs yn dechrau.

Ar aelwyd dau riant gallwch fanteisio ar y cynnig os:

  • yw'r ddau riant mewn addysg neu hyfforddiant
  • un rhiant yn cael ei gyflogi a'r llall mewn addysg neu hyfforddiant
  • un rhiant mewn addysg neu hyfforddiant ac mae gan un rhiant gyfrifoldebau gofalu sylweddol. Mae hyn yn seiliedig ar fudd-daliadau penodol a dderbynnir ar gyfer gofalu;
  • os yw'r ddau riant mewn addysg neu hyfforddiant ond mae un neu'r ddau riant wedi atal eu hastudiaethau yn ffurfiol am resymau'n ymwneud â chyfnod mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant
  • ·         os yw un rhiant yn cael ei gyflogi neu mewn addysg neu hyfforddiant (ac yn bodloni meini prawf cymhwysedd rhieni) ac un rhiant yn anabl neu'n analluog. Mae hyn yn seiliedig ar y rhiant yn derbyn neu â hawl sylfaenol i dderbyn un o'r budd-daliadau cymwys canlynol a restrir uchod.

Mewn cartrefi un-rhiant

Rhaid i'r unig riant mewn teulu un-rhiant fod mewn addysg neu hyfforddiant. Yr unig eithriad i hyn yw lle:

  • mae'r rhiant mewn addysg neu hyfforddiant (ac yn cwrdd â meini prawf cymhwysedd rhieni) ond wedi atal ei (h)astudiaeth yn ffurfiol am resymau'n ymwneud â chyfnod mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant neu oherwydd salwch hirdymor.

Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma