Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Gwybodaeth i Ddarparwyr

Provider Information

Beth yw'r Cynnig Gofal Plant?

Bydd y cynnig gofal plant newydd yn darparu 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant sydd wedi'u hariannu i rieni sy'n gweithio gyda phlant tair a phedair blwydd oed ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Bydd y cynnig yn adeiladu ar hawliad addysg Feithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) presennol y plant yn ystod amser tymor ac yn cynnig 30 awr o ofal plant am naw wythnos o'r gwyliau.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi fel darparwr?

Ar yr amod eich bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru /Ofsted, gallech dderbyn nawdd ar gyfer plant cymwys sy'n defnyddio'r cynnig yn eich lleoliad. Fe fydd angen i chi gofrestru fel cyflenwr ar gyfer y cynnig gofal plant.  

Gall rhieni ddewis i ddefnyddio unrhyw ddarparwr gofal plant o fewn Powys ar yr amod eu bod wedi cael eu dewis i fod yn gyflenwr ar gyfer y cynnig ar ran yr awdurdod lleol. Gall rhieni ddewis i ddefnyddio darparwyr o'r tu allan i'r sir. Fodd bynnag, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cofrestru fel cyflenwr.

A ydw i angen cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen i gyflwyno'r elfen gofal plant o fewn y cynnig?

Na. Bydd rhai plant yn parhau i gael mynediad at addysg feithrin y Cyfnod Sylfaen mewn lleoliadau a gynhelir. Nid oes angen i ddarparwyr gofal plant gyflwyno elfennau addysg feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o fewn y cynnig.

A ydw i angen gallu cyflwyno'r cynnig am 48 wythnos y flwyddyn i gymryd rhan?

Na. Gall rhieni gael mynediad at y cynnig trwy wahanol ddarparwyr sy'n gweddu orau i'w hamgylchiadau. Gall darparwyr sydd ond yn cynnig darpariaeth amser tymor, neu ddarpariaeth o fewn y gwyliau ysgol yn unig, barhau i gyflwyno'r cynnig o hyd, gan ddibynnu ar anghenion y rhieni. 

Faint fyddaf yn cael fy nhalu?

Bydd yr holl ddarparwyr yn derbyn cyfradd o £5.00 yr awr ar gyfer plant sy'n derbyn yr elfen gofal plant o'r cynnig.

A allaf godi cyfradd atodol ar rieni?

Na. Ni allwch godi cyfraddau atodol yr awr os ydych fel arfer yn codi mwy na £5.00 yr awr.

A allaf godi tâl am fwyd a gweithgareddau ychwanegol?

Gallwch. Os oes angen, gallwch godi tâl ar rieni am elfennau ychwanegol, megis:

  • Bwyd
  • Cludiant
  • Gweithgareddau oddi ar y safle y gall fod angen talu amdanynt

Mae Llywodraeth Cymru yn enrhifo tâl ar gyfer bwyd fel y canlyn:

  • Pryd: £2.50
  • Byrbryd: 75p

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, ni ddylid codi mwy na:

  • £9.00 y dydd llawn (tua 10 awr)
    • Cynnwys 3 phryd a 2 fyrbryd
  • £5.75 y sesiwn hanner diwrnod (tua 5.5 awr)
    • Cynnwys 2 fryd ac 1 byrbryd
  • 75p y sesiwn lle mae byrbryd ond nad oes bryd

Sut fyddaf yn cael fy nhalu?

Byddwch yn derbyn y taliad mewn ôl-ddyledion am y mis blaenorol.  Er mwyn sicrhau hyn:

  • RHAID cyflwyno hawliadau talu o fewn pedwar diwrnod gwaith cyntaf y mis

Bydd methu â chwblhau'r ceisiadau ar amser yn golygu na fyddwch yn cael eich talu.

Sut ydw i'n cymryd rhan?

Er mwyn cyflwyno'r cynnig, bydd angen i lenwi'r ffurflen gofrestru yma. Os byddwch yn cael unrhyw anawsterau yn llenwi'r ffurflen, anfonwch e-bost a gofalplantpowys@ceredigion.gov.uk.

Lle allaf ddod i wybod mwy am y Cynnig Gofal Plant?

Edrychwch ar dudalen gwe Llywodraeth Cymru lle byddwch yn dod o hyd i fwy am y cynnig gofal plant ac ateb ychydig o gwestiynau byrion: www.gov.wales/talkchildcare

Gallwch gysylltu â Llywodraeth Cymru ar unrhyw amser gyda'ch safbwyntiau:

e-bost: TalkChildCare@wales.gsi.gov.uk

Post:

Tîm Cynnig Gofal
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays Park - 2il Lawr y Gogledd  
Caerdydd
CF10 3NQ

Cyfryngau Cymdeithasol:Edrychwch am yr hashnod i ymuno â'r sgwrs ar-lein #TalkChildcare

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu