Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyrsiau PAVO

Click here to go to the 'PAVO' webpage

Mae PAVO'n trefnu cyrsiau ar bob agwedd o gynnal grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol.  I gadw lle ar unrhyw un o gyrsiau PAVO, gallwch gysylltu â nhw neu lwytho copi o'r llyfryn hyffordd yma

 

HANFODION CODI ARIAN

Dydd Mawrth 19 Chwefror, 10am - 4 pm, Llandrindod.

Wrth iddi ddod yn fwyfwy cystadleuol wrth geisio am nawdd, mae'r gallu i ysgrifennu ceisiadau cryno ac argyhoeddiadol yn ased gwerthfawr i'ch sefydliad.  Bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi'r sgiliau i chi lunio ceisiadau llwyddiannus am nawdd.

 

HANFODION CYLLID

Dydd Mercher 20 Chwefror, 10am - 4pm, Y Drenewydd

Bydd y gweithdy undydd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi wrth reoli cyllid o fewn grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol ac elusennau.  Angela Owen, Pennaeth Gwasanaethau Mewnol PAVO fydd yn cynnal hwn, gan ddod ag agwedd gyfeillgar at bwnc sy'n ddigon i ddanto rhywun ..

 

HANFODION CYNLLUNIO BUSNES

Dydd Mercher 13 Mawrth, 10am - 4pm, Llandrindod

Bydd gweithdy undydd ymarferol hwn yn cyflwyno dulliau a thechnegau i'ch helpu chi ddeall sut i roi cynllun busnes at ei gilydd i'ch sefydliad chi .....

 

GWEMINAR: Defnyddio Infoengine i hyrwyddo eich gwasanaethau

Dydd Mercher 14 Mawrth, 10am- 4pm, Llandrindod

Yn ystod y sesiwn fideo ryngweithiol hon, bydd Carl Cooper Prif Weithredwr PAVO yn eich arwain chi drwy safle infoengine, o sut i fynd ati i gofrestru i drafod sut i wneud y defnydd gorau o'i waith i hyrwyddo eich sefydliad a'i wasanaethau ...

 

CIPOLWG AR GYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Dyddiad i'w gadarnhau - Aberhonddu

Ry'n ni gyd yn ymwybodol o ba mor werthfawr y gall y cyfryngau cymdeithasol fod i godi proffil eich sefydliad ond mae bwrw ati'n gallu bod yn anodd, o wybod sut i ddefnyddio'r hasnod i greu rhwydwaith sy'n rhoi gwerth go iawn i'ch sefydliad.  Peidiwch â phoeni ... yn fuan iawn byddwch chi'n deall y cyfan..

 

LLYWODRAETHU EICH SEFYDLIAD

Dydd Mercher 27 Mawrth, 10am - 4 pm, Llandrindod

Mae bod yn ymddiriedolwr ym Mhowys yn gallu bod yn brofiad gwerth chweil, ond mae bod yn gyfrifol am lywodraethu da a chydymffurfio'n gallu llethu rhywun.  Mewn amgylchedd dysgu ymarferol a chynhwysfawr, bydd y gweithdy hwn yn rhoi hyder i chi yn eich rôl fel ymddiriedolwr wrth wneud cyfrifoldebau llywodraethu ...

 

Am ragor o wybodaeth neu ei gadw lle, ewch i: https://www.pavo.org.uk/help-for-organisations/training/pavo-training-programme.html neu ar e-bost at ryan.okane@pavo.org.uk