Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwybodaeth PLOG (Grŵp Gweithredol Lleol Powys) a CYSUR

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn un o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru.  Rôl y Bwrdd Iechyd addysgu yw gwella a gofalu am iechyd a lles pobl Powys.
CYSUR_Logo_252x220

Mae Powys, ynghyd â Chaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro bellach wedi ymuno â'i gilydd i ffurfio Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru i weithio ar lefel ranbarthol ac i gysylltu ag is-grwpiau diogelu lleol i helpu amddiffyn plant sy'n cael eu cam-drin, neu sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, eu hesgeuluso neu ffyrdd eraill o niwed.  Yr enw newydd ar gyfer y bwrdd hwn yw CYSUR (Plant ac Ieuenctid yn Uno'r Rhanbarth).


Fodd bynnag, mae trefniadau lleol ar waith i sicrhau bod asiantaethau'n gweithio gyda'i gilydd yn lleol er mwyn diogelu plant a phobl ifanc ym Mhowys. Mae Powys, ynghyd â rhanbarthau eraill CYSUR, wedi ffurfio is-grŵp Gweithredol Lleol sydd wedi'i enwi PLOG (Grŵp Gweithredol Lleol Powys).