Prydau Bwyd Ysgol
Rydym yn cynnig prydau bwyd iach a maethlon mewn ysgolion ar draws Powys.
Mewn ysgolion cynradd rydym yn cynnig dewis o brydau bwyd traddodiadol a salad. Rydym yn hybu bwyta'n iach trwy'r dewisiadau sydd ar ein bwydlenni ac rydym yn osgoi ychwanegion niweidiol.
Bydd pob disgybl 5-7 oed yn cael 1/3 peint o laeth cyflawn am ddim yn ystod amser egwyl.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y bwyd sy'n cael ei gynnig yn yr ysgol dros y cyfnod hwn, cysylltwch â ni. Mae'r manylion isod.
- Prydau a phrisiau ysgolion cynradd
- Prydau a phrisiau ysgolion uwchradd
- Talu am brydau bwyd ysgol trwy 'parent pay' yma
Os ydych chi ar incwm isel, efallai gallwch gael prydau ysgol am ddim. I gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais ewch i'n tudalen Prydau Ysgol am Ddim
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma