Nid ydych wedi defnyddio'r ffurflen hon ers tro - i amddiffyn eich data, bydd y sesiwn ffurflen yn dod i ben yn fuan
Mae rhai o'r cwcis hyn yn hanfodol, tra bydd eraill yn ein helpu i wella'ch profiad trwy adael i ni weld sut mae'r wefan yn cael ei defnyddio
Am wybodaeth fanylach, gwelwch y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Mae cwcis angenrheidiol yn galluogi gweithrediadau craidd megis mewngofnodi i'r wefan.
Ni fydd y wefan yn gweithio'n iawn heb y cwcis yma, ac ni allant ond cael eu hanalluogi trwy newid dewisiadau'ch porwr.
Hoffem osod cwcis Google Analytics i'n cynorthwyo i wella ein gwefan trwy gasglu ac adrodd gwybodaeth ar sut ry'ch chi'n ei defnyddio.
Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth mewn dull nad yw'n datgelu enw neb.
I gael mwy o wybodaeth ar sut mae'r cwcis hyn yn gweithio, edrychwch ar y Rhestr o'r cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.
Cadwyd eich dewisiadau cwcis
Os cliciwch y botwm "Gwnewch cais Ar-lein am Fathodyn Glas" bydd yn eich arwain at wefan GOV.UK. Er mwyn cwblhau'r cais yn Saesneg, cliciwch ar 'Start Now', ac ar waelod y dudalen, cliciwch Cymraeg.
Efallai byddwch yn gymwys ar gyfer Bathodyn Glas os yw unrhyw un o’r rhain yn berthnasol.
Gwneud cais ar-lein am Fathodyn GlasYmgeisiwch ar wefan gov.uk
Derbyn sgor o 8 pwynt neu fwy yn y rhan ‘symud o gwmpas’ yn Elfen Symudedd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol. Bydd hyn wedi’i gadarnhau yn y llythyr a fydd yn disgrifio i ba raddau y gallwch ‘symud o gwmpas’ – i fod yn gymwys bydd rhaid i chi dderbyn un o’r canlynol:
Anhawster parhaol ac anhawster sylweddol sy’n golygu nad ydych yn gallu cerdded neu’n cael anhawster mawr i gerdded.
Mae methu â cherdded yn golygu nad ydych yn gallu cymryd un cam.
Mae anhawster sylweddol i gerdded yn cael ei benderfynu trwy ystyried y canlynol:
Sylwer nad yw un ffactor unigol yn penderfynu eich cymhwysedd ond mae’r ffactorau hyn yn cael eu hystyried gyda’i gilydd.
Gwybodaeth bwysig ar gyfer unrhyw un sy’n aros neu’n gwella o lawdriniaeth neu driniaeth.
Os ydych wedi cael llawdriniaeth o fewn y 3 mis diwethaf ni fyddwn yn ystyried eich cais oni bai y disgwylir na fydd llawdriniaeth yn gwella eich gallu i gerdded.
Os ydych yn disgwyl llawdriniaeth neu driniaeth, a’r disgwyl yw y bydd hyn yn gwella eich gallu i gerdded dylech rhoi y dyddiad ry’ch chi’n disgwyl cael y llawndriniaeth ar eich ffurflen gais.
Gyrru cerbyd yn rheolaidd a bod gennych anabledd parhaol a difrifol ar y ddwy fraith ac nid ydych yn gallu defnyddio unrhyw fath neu rai mathau o fesurydd parcio.
Os oes cyflwr meddygol penodol sy’n golygu bod rhaid cludo cyfarpar meddygol swmpus ar gyfer eich plentyn bob amser, sy’n anodd iawn ei gario o gwmpas.
Os oes cyflwr meddygol penodol sy’n golygu bod angen i’ch plentyn fod yn agos i gerbyd drwy’r amser, naill ai i gael triniaeth, neu er mwyn eu cludo i gael triniaeth yn rhywle arall.
Os ydych wedi cael prognosis meddygol sy’n datgan bod gennych lai na blwyddyn i fyw nid oes rhaid i chi lenwi cais amdanoch chi’ch hun.
Cysylltwch ag un o’r canlynol a fydd yn gwneud cais ar eich rhan:
Rhannu'r dudalen hon
Argraffu