Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eiddo Gwag

Rydym am weld cymaint o eiddo gwag â phosibl ym Mhowys yn dychwelyd i gael eu defnyddio eto. Mae tai sy'n sefyll yn wag yn gallu achosi niwsans a difrod i gartrefi cyfagos. Maen nhw'n wastraff oherwydd fe ellir eu defnyddio fel cartrefi. 

Gallwn gynghori perchnogion eiddo gwag i'w helpu i sicrhau fod y ty yn dod yn ôl i ddefnydd.

Os bydd y perchennog yn gwrthod dod â'r ty yn ôl i ddefnydd neu'n gwrthod ei atgyweirio, gall y Cyngor:

  • Gyflwyno rhybudd i'r perchennog gyflawni atgyweiriadau, a chynnal y gwaith ei hunan os na fydd y perchennog yn llwyddo i wneud hyn
  • Mewn amgylchiadau eithriadol, gall orfodi gwerthu'r eiddo i ad-dalu dyledion penodol sy'n ddyledus i'r cyngor.

Cyflwyno cais am grant cartrefi gwag

Ydych chi'n berchen ar eiddo sy'n wag ar hyn o bryd?

Oes angen cymorth arnoch i'w wneud yn ddiogel cyn i chi symud i mewn?

Ydych chi'n ystyried prynu eiddo gwag i fyw ynddo, ond bod angen cymorth arnoch cyn i chi allu ei ailddefnyddio?

Felly rydym wedi datblygu amrywiol becynnau ariannol i geisio cymell pobl i wneud y gwaith angenrheidiol er mwyn i'r eiddo gael ei ddefnyddio unwaith yn rhagor: Benthyciadau Gwella Cartrefi a Chymorth Ariannol

Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol

Pam rhoi gwybod am eiddo gwag?

Gall cartrefi gwag achosi problemau i gymdogion, gallant droi'n adfeilion ac mewn rhai amgylchiadau, gallant ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae rhoi gwybod am eiddo gwag yn rhoi'r pŵer i chi ein helpu i ddod o hyd i'r cartrefi hyn a chaniatáu i ymchwiliad gael ei gynnal. Er nad yw hi'n debygol y byddwch yn gweld llawer yn digwydd ar unwaith gyda'r eiddo, bydd llawer o waith yn cael ei wneud yn y cefndir i geisio canfod pam yn union y mae'r ty wedi'i adael yn wag. Yn anffodus, gall rhai achosion fod yn gymhleth iawn ac mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol y gallant gymryd amser hir (weithiau blynyddoedd) i gael eu datrys. Fodd bynnag, trwy ddweud wrthym ni amdanynt, rydych yn dechrau'r broses o adfer y tai hyn. 

Pa mor hir mae angen i'r eiddo fod yn wag?

Ni fyddwn fel arfer yn dechrau archwilio'r rheswm pam mae'r eiddo yn wag tan y bydd heb ei feddiannu am o leiaf chwe mis. Bydd y mwyafrif o eiddo'n cael eu hail-feddiannu yn ystod y cyfnod hwn heb yr angen am unrhyw ymyrraeth oddi wrth y Cyngor.

A all y Cyngor weithredu gyda phob cartref gwag?

Mae rhai eiddo yn wag am reswm dilys iawn; yr enghreifftiau yw bod y perchennog o bosibl yn yr ysbyty neu'n gofalu am berthynas sâl neu mewn oed yn rhywle arall. Dan yr amgylchiadau hyn, nid yw'n debygol y bydd y Cyngor yn gallu gweithredu. Fodd bynnag, dylai'r eiddo fod yn ddiogel rhag ymyrwyr.

Rydym wedi datblygu ystod o ddewisiadau y gallwn eu defnyddio i naill ai helpu neu ofyn i berchnogion i ddychwelyd eiddo yn ôl at ddefnydd, gan ddibynnu ar amgylchiadau pob achos. Yn y dechrau, rydym bob tro yn ceisio annog perchnogion i ddychwelyd eiddo yn ôl at ddefnydd a gweithio gyda hwy trwy ein hamrywiol gynlluniau. Yn anffodus, fe fydd achosion bob tro lle na fydd y perchennog eisiau gwneud unrhyw beth. Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd y Cyngor yn ystyried camau gweithredu gorfodaeth lle bo hynny'n briodol.

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau