Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Profi Dementia

Hyfforddwr: Gareth Jenkins, Platform

Mae'r cwrs hyfforddi hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sydd am ddatblygu gwybodaeth a chael cipolwg ar brofiadau rhywun sy'n byw â dementia.

Deilliannau Dysgu:

  • Arwain y rhai sydd yno trwy gyfres byw, ar-lein o ymarferion drwy brofiad sy'n rhoi cipolwg pwerus i brofiadau dementia.
  • Gwahodd y rhai sydd yno i brofi profiadau emosiynol a seicolegol dementia, gan ofyn y cwestiynau "Beth petawn i'n byw â dementia, sut fydden i'n teimlo, beth fydden i ei angen?"
  • Datblygu safbwynt tosturiol a mwy o ddealltwriaeth rhwng staff, pobl sy'n byw â dementia ac aelodau'r teulu.
  • Darparu lle ar-lein, gan gynnwys ystafelloedd trafod fel bydd modd rhannu arferion a thrafod profiadau.

Dyddiad:

  • 16 Mai 2024, Ystafell Bwyllgor A Gwalia, Llandrindod LD1 6AA 9.30am - 4.30pm
  • 24 Medi 2024, Ystafell Bwyllgor A Gwalia, Llandrindod LD1 6AA 9.30am - 4.30pm

Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.

Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau