Cyfathrebu Tosturiol
Hyfforddwr: Gareth Jenkins, Platform
Hyfforddiant ar Gyfathrebu Tosturiol, sy'n dilyn ymlaen o'r hyfforddiant ar Brofi Dementia:
Mae'r cwrs hyfforddi hwn dros Zoom ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sydd am ddatblygu gwybodaeth a chael cipolwg ar ddatblygu cyfathrebu tosturiol mewn gofal.
Deilliannau Dysgu
- Arwain y rhai sydd yno trwy gyfres byw, ar-lein o ymarferion drwy brofiad sy'n trafod effaith bositif cyfathrebu tosturiol yn y bartneriaeth gofal.
- Datblygu hyder wrth gysylltu â pherson sy'n byw â dementia, gan gynnwys dulliau cyfathrebu dieiriau.
- Darparu lle ar-lein, gan gynnwys ystafelloedd trafod fel bydd modd rhannu arferion a thrafod profiadau.
- Trafod sut y gall cyfathrebu tosturiol helpu i leihau pryder a straen yn y bartneriaeth gofal.
Dyddiad:
- 17 Mehefin 2024, Ystafell Bwyllgor A Gwalia, Llandrindod LD1 6AA 9.30am - 4.30pm
- 9 Hydref 2024, Ystafell Bwyllgor A Gwalia, Llandrindod LD1 6AA 9.30am - 4.30pm
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses