Toglo gwelededd dewislen symudol

Treth y Cyngor: Eiddo gwag a chyfnodol

Eiddo Gwag

Ry'n ni'n awyddus i weld cymaint o dai gwag â phosibl ym Mhowys yn cael eu defnyddio drachefn, ac ry'n ni wedi datblygu amryw o becynnau ariannol i annog pobl i'w defnyddio unwaith eto. Gall eiddo gwag effeithio ar y gymuned a pheri llawer o broblemau, megis denu plâu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Gostyngiadau Treth y Cyngor ac eithriadau ar eiddo penodol

Dan Adran 13A Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac Adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 2003, gall y cyngor leihau faint o Dreth y Cyngor sydd angen i chi ei dalu. Gall y cyngor leihau swm Treth y Cyngor mewn achos unigol neu ddosbarth o achosion lle ni cheir disgownt ac eithriadau cenedlaethol.