Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Hawl am wyliau

Holiday Entitlement

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cynnwys hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda 39 ohonynt yn cael eu cyfrif yn 'amser tymor' a 9 yn 'ddarpariaeth gwyliau'.

  • Nid yw darpariaeth y Cyfnod Sylfaen ar gael y tu allan i'r 39 wythnos yn ystod y tymor
  • Bydd y 30 awr gyfan ar gyfer gofal plant yn unig yn ystod y 9 wythnos sy'n weddill
  • Bydd 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau yn cael ei neilltuo ar gyfer pob plentyn ar ddechrau pob tymor
  • Bydd dolen i'r ffurflen archebu gwyliau yn cael ei e-bostio atoch unwaith y byddwch wedi'ch cymeradwyo ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.

Pryd a sut alla i gael mynediad at fy hawl gwyliau?

  • Gall rhieni ddewis unrhyw wythnosau gwyliau i gyd-fynd â'u hanghenion
  • Bydd unrhyw wythnosau gwyliau nad ydynt yn cael eu defnyddio o fewn y tymor yn cael eu cario drosodd i'r cyfnod nesaf cyhyd â bod y plentyn yn parhau i fod yn gymwys
  • Rhaid cael darpariaeth gwyliau mewn blociau wythnos o hyd (30 awr)
  • Yn achos oriau nad ydynt yn cael eu defnyddio, ni chaniateir eu trosglwyddo rhwng gwahanol wythnosau
  • Rhieni sy'n gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr
  • Mae'n rhaid i rieni gwblhau ffurflen archebu gwyliau a'i chyflwyno i'r Uned Gofal Plant cyn y dyddiad dechrau gwyliau
  • Rhieni sy'n gyfrifol am dalu'r darparwr gofal plant am y pedair wythnos wyliau nad yw'r Cynnig Gofal Plant yn berthnasol iddynt

Hawl o ran wythnosau gwyliau yn ystod gwyliau ysgol o fewn y Cynnig Gofal Plant

Bydd tair wythnos o wyliau i bob plentyn pob tymor ysgol.

Mae nifer yr wythnosau gwyliau sy'n cael eu rhoi i chi yn y flwyddyn academaidd honno yn dibynnu ar nifer y tymhorau ysgol y byddwch chi'n derbyn y Cynnig Gofal Plant:

Pa gyfnodau gwyliau fydd gen i?

  • Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Medi yn  cael darpariaeth gwyliau o 9 wythnos
  • Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Ionawr yn  cael darpariaeth gwyliau o 6 wythnos
  • Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Ebrill yn  cael darpariaeth gwyliau o 3 wythnos

Bydd 4 wythnos wyliau (NA FYDD yn cael eu hariannu gan y Cynnig) pob blwyddyn academaidd

Os ydych yn dal yn gymwys i gael y cynnig yn y flwyddyn academaidd newydd, bydd dyraniad newydd o hawl gwyliau yn dechrau.

Mae plentyn yn gymwys i gael arian yn ystod gwyliau'r ysgol tan y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 4 oed.

Ceisiadau am yr hawl gwyliau:

  • Rhaid gwneud hynny cyn y dyddiad y mae angen yr hawl gwyliau
  • Bydd yr Uned Gofal Plant yn gwirio'r ceisiadau yn ystod y mis cyn y gwyliau
  • Os bydd y cais yn llwyddiannus, anfonir hysbysiadau drwy e-bost at y rhiant a'r darparwr