Hawl am wyliau
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cynnwys hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda 39 ohonynt yn cael eu cyfrif yn 'amser tymor' a 9 yn 'ddarpariaeth gwyliau'.
- Nid yw darpariaeth y Cyfnod Sylfaen ar gael y tu allan i'r 39 wythnos yn ystod y tymor
- Bydd y 30 awr gyfan ar gyfer gofal plant yn unig yn ystod y 9 wythnos sy'n weddill
- Bydd 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau yn cael ei neilltuo ar gyfer pob plentyn ar ddechrau pob tymor
- Bydd dolen i'r ffurflen archebu gwyliau yn cael ei e-bostio atoch unwaith y byddwch wedi'ch cymeradwyo ar gyfer y Cynnig Gofal Plant.
Pryd a sut alla i gael mynediad at fy hawl gwyliau?
- Gall rhieni ddewis unrhyw wythnosau gwyliau i gyd-fynd â'u hanghenion
- Bydd unrhyw wythnosau gwyliau nad ydynt yn cael eu defnyddio o fewn y tymor yn cael eu cario drosodd i'r cyfnod nesaf cyhyd â bod y plentyn yn parhau i fod yn gymwys
- Rhaid cael darpariaeth gwyliau mewn blociau wythnos o hyd (30 awr)
- Yn achos oriau nad ydynt yn cael eu defnyddio, ni chaniateir eu trosglwyddo rhwng gwahanol wythnosau
- Rhieni sy'n gyfrifol am ddod o hyd i ddarparwr
- Mae'n rhaid i rieni gwblhau ffurflen archebu gwyliau a'i chyflwyno i'r Uned Gofal Plant cyn y dyddiad dechrau gwyliau
- Rhieni sy'n gyfrifol am dalu'r darparwr gofal plant am y pedair wythnos wyliau nad yw'r Cynnig Gofal Plant yn berthnasol iddynt
Hawl o ran wythnosau gwyliau yn ystod gwyliau ysgol o fewn y Cynnig Gofal Plant
Bydd tair wythnos o wyliau i bob plentyn pob tymor ysgol.
Mae nifer yr wythnosau gwyliau sy'n cael eu rhoi i chi yn y flwyddyn academaidd honno yn dibynnu ar nifer y tymhorau ysgol y byddwch chi'n derbyn y Cynnig Gofal Plant:
Pa gyfnodau gwyliau fydd gen i?
- Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Medi yn cael darpariaeth gwyliau o 9 wythnos
- Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Ionawr yn cael darpariaeth gwyliau o 6 wythnos
- Bydd plentyn sy'n ymuno â'r Cynnig ym mis Ebrill yn cael darpariaeth gwyliau o 3 wythnos
Bydd 4 wythnos wyliau (NA FYDD yn cael eu hariannu gan y Cynnig) pob blwyddyn academaidd
Os ydych yn dal yn gymwys i gael y cynnig yn y flwyddyn academaidd newydd, bydd dyraniad newydd o hawl gwyliau yn dechrau.
Mae plentyn yn gymwys i gael arian yn ystod gwyliau'r ysgol tan y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 4 oed.
Ceisiadau am yr hawl gwyliau:
- Rhaid gwneud hynny cyn y dyddiad y mae angen yr hawl gwyliau
- Bydd yr Uned Gofal Plant yn gwirio'r ceisiadau yn ystod y mis cyn y gwyliau
- Os bydd y cais yn llwyddiannus, anfonir hysbysiadau drwy e-bost at y rhiant a'r darparwr