Datganiad Preifatrwydd Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
Cefndir:
Mae'r rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Powys yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yng nghwrs ein gwaith.
Yr hyn yr ydym yn ei Gasglu:
Er mwyn cyflwyno Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, mae'n angenrheidiol i'r cyngor brosesu eich gwybodaeth. Er enghraifft, gallwn gasglu'r wybodaeth ganlynol:
• Enw a chyfeiriad
• Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
Gwybodaeth bersonol arall y gallwch ei gyflwyno fel tystiolaeth, megis gwybodaeth am gyflyrau iechyd, er enghraifft o fewn:
- Cais cynllunio neu adeilad rhestredig;
- Sylwadau sy'n ymwneud â Pholisi Cynllunio;
- Cais ar gyfer rheoliadau adeiladu, rhybudd o ddymchwel, gwaith heb ei awdurdodi, strwythurau peryglus, waliau cynnal neu ddiogelwch mewn meysydd chwaraeon;
- Cais am drwydded gyda gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd neu Safonau Masnach megis gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig i) Trwyddedu tacsis, Y Ddeddf Trwyddedu. Gweithdrefnau Arbennig, Petrolewm a Chofrestru Busnesau bwyd.
- Gwybodaeth bersonol arall i ddiwallu gofynion iechyd a diogelwch / addasrwydd / monitro grant ar gyfer cyfranogiad mewn gweithgareddau (h.y. sefydlu parodrwydd am 'weithgaredd').
- Cynllunio ar gyfer argyfyngau sifil/ymateb brys;
- Mapio bregusrwydd gan gynnwys Cyfeirnodau Eiddo Unigryw sy'n deillio o ffynonellau megis Llywodraeth Cymru a chofnodion Gofal Cymdeithasol Cyngor Sir Powys;
- Dyletswyddau a gweithgareddau Diogelwch Cymunedol.
Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn:
Cyngor Sir Powys yw'r rheolydd data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gyflwynir gennych chi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth ymarfer ein hawdurdod swyddogol fel y pennir ac yn unol â statud. Ni fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall, oni bai y caiff ei hystyried yn gydnaws, ac o fewn ein diddordebau cyfreithlon i wneud hynny. Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn unol â'r gyfraith.
Efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol a gasglwyd am y rhesymau canlynol:
- Fel rhan o'r cofnodion statudol y byddwn yn eu cynnal dan ddeddfwriaeth sylfaenol a ddynodwyd yn Atodiad 1, ynghyd â'r holl is-ddeddfwriaeth a Rheoliadau eilaidd.
- Fel rhan o ddarparu ein Gwasanaeth Cynghori Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio.
- Asesu addasrwydd a ffitrwydd i dderbyn trwydded tacsi neu drwydded hurio preifat ac i'n cynorthwyo o ran rheoli'r drwydded.
- Fel rhan o'n Hymchwiliadau Gorfodaeth dan y Deddfau a Rheoliadau a gyfeirir atynt uchod.
- Fel rhan o ddarparu ein gwasanaethau tystysgrifau Cyn-prynu a Chwblhau.
- Gwasanaethau Ychwanegu Gwerth Rheoli Adeiladu.
- Fel rhan o 'Restrau Dosbarthu' a dargedir tuag at gyflwyno gwybodaeth i chi am:
Geisiadau Cynllunio
Rheoli Adeiladu
Iechyd yr Amgylchedd
Argyfyngau Sifil
Diogelwch Cymunedol
Ceisiadau Safonau Masnach
Polisïau a Gweithdrefnau, gan gynnwys gwybodaeth a/neu gyfarwyddyd Cenedlaethol perthnasol.
• I gysylltu â chi er dibenion ymchwil i'n galluogi ni i wella'r gwasanaethau a gynigiwn. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost, ffôn, neu yn y post. Fodd bynnag, petaech yn dweud wrthym ni nad ydych yn dymuno cyfrannu, yna bydd nodyn yn cael ei wneud ar eich cofnodion yn unol â hynny.
Bydd unrhyw ddata personol a brosesir gan Gyngor Sir Powys yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Byddwn yn cadw'r wybodaeth yma'n unol â'n gofynion statudol.
Caiff gwybodaeth sy'n cael ei derbyn gan Lywodraeth Cymru at ddiben ymateb brys, ei dileu unwaith nad oes angen yr wybodaeth arnom bellach.
Byddwn yn datgelu eich data personol yn unig pan fo gofyn inni wneud hynny yn ôl y gyfraith neu lle mae'n gyfreithlon inni wneud hynny, megis yn achlysurol i'r canlynol:
- Yn fewnol gydag Adrannau eraill Cyngor Sir Powys.
- Sefydliadau/Awdurdodau Rheoleiddiol sy'n ein cynorthwyo i gyflenwi ein Gwasanaethau.
- Eich cynrychiolwyr cyfreithiol.
- Awdurdodau partner trwy Gynllun Awdurdodi Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol mewn perthynas â cheisiadau Rheoli Adeiladu.
- Er mwyn cadw cofrestr gyhoeddus mewn perthynas â thrwyddedau / cofrestriadau a gyhoeddwyd gennym.
Diogelwch:
Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad sydd heb ei awdurdodi, rydym wedi rhoi gweithdrefnau rheoli, electronig a ffisegol addas ar waith i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Os ydych chi'n cyflwyno gwybodaeth yr hoffech ei thrin yn gyfrinachol neu ei chadw'n ôl yn benodol, rhowch wybod i'r gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd cyn gynted ag y gallwch - cyn cyflwyno'r wybodaeth yn ddelfrydol.
Dolenni i Wefannau Eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Ni allwn, felly, fod yn gyfrifol am breifatrwydd a diogelu unrhyw wybodaeth a gyflwynwch tra'n ymweld â safleoedd o'r fath ac nid yw safleoedd o'r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech ymarfer gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.
Rheoli eich Gwybodaeth Bersonol
Bydd gwybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei chadw yn unol â'r ddeddfwriaeth ac amserlen gadw'r Cyngor. Gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth yma: Cadw a dinistrio cofnodion sy'n egluro am ba hyd y byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol. Byddwn yn cadw tystysgrifau'r GDG ar gyfer uchafswm o 6 mis.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y defnydd o'ch data personol, cysylltwch â'r adran yn y lle cyntaf neu'r Swyddog Diogelu Data trwy anfon e-bost at information.compliance@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01597 826400.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar sut mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio data personol, a hawliau diogelu data unigolion yma: Diogelu Data a Phreifatrwydd
Diweddariadau (rhybudd):
Gallwn ddiweddaru neu ddiwygio'r Rhybudd Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg felly cyfeiriwch yn ôl at y dudalen hon am y fersiwn mwyaf diweddar.
Atodiad 1
Cynllunio
Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015
Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004
Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994
Cyfarwyddeb y GE 92/43/EEC ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Fflora a Ffawna Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd)
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
Am restr lawn o ddeddfwriaeth gynllunio berthnasol, edrychwch ar wefan cynllunio Llywodraeth Cymru (https://www.llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio).
Rheoli Adeiladu
Deddf Adeiladu 1984
Rheoliadau Adeiladu 2010
Deddf Gorllewin Morgannwg 2010
Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975
Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987
Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003
Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
Deddf Adeiladu 1984
Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960
Deddf Safleoedd Carafannau 1968 Deddf Aer Glân 1993
Deddf yr Amgylchedd a Chymdogaethau Glân 2005
Deddf Cwmnïau 2006
Deddf Rheoli Llygredd 1974
Deddf Ceirw 1991
Deddf yr Amgylchedd 1995
Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990
Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972
Deddf Diogelu'r Amgylchedd a Bwyd 1985
Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013
Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y'i diwygiwyd) ac unrhyw Orchmynion neu Reoliadau a wnaed oddi tanynt neu mewn perthynas â blaenori cael effaith trwy rinwedd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
Deddf Iechyd 2006
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974
Deddfau Tai 1985, 1996 & 2004
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997
Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
Deddf Iawndal Tir 1973
Deddf Draenio Tir 1991
Deddf Landlord a Thenant 1985
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976
Deddfau Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 & 1982
Deddf Tai a Llywodraeth Leol 1989
Deddf Cymorth Gwladol (Diwygiad) 1951
Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993
Deddf Sŵn 1996
Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999
Deddf Atal Difrod gan Bla 1949
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002 & 2007
Deddf Diogelu rhag Troi Allan 1977
Deddfau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1936 & 1961
Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2017
Rhan 2A Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984 (fel y'i diwygiwyd gan adran 129 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008)
Deddf Iechyd Cyhoeddus (Draenio Eiddo Masnachol) 1937
Deddf Gwaredu Sbwriel (Amwynder) 1978
Deddf Lladd-dai 1974
Deddf Lladd Dofednod 1967
Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) Act 2010
Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 (Cymru) Rheoliadau 2011
Deddf y Diwydiant Dŵr 1991
Deddf Gorllewin Morgannwg 1987
Deddf Asiantaethau Llety 1953
Deddfau Gweinyddu Cyfiawnder 1970 &1985
Deddf Amaethyddiaeth 1970
Deddfau Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 - 1931
Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968
Deddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963
Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodaeth) (Cymru) 2014
Deddfau Iechyd Anifeiliaid 1981 & 2002
Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984
Deddf Lles Anifeiliaid 2006
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) Cymru) 2014
- Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021
Deddf Canser 1939
Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933
Deddf Plant a Phobl Ifanc (Diogelu rhag Tybaco) 1991
Deddfau Cwmnïau 1985 & 2006
Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 & 2006
Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015
Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987
Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010
Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014
Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phataentau 1988
Deddf Hawlfraint ac ati a Marciau Masnachu (Troseddau a Gorfodaeth) 2002
Deddf Ymdrechion Troseddol 1981
Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 adrannau.141 a 141A
Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994
Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2001 (Pennod 2)
Deddf Cyfraith Droseddol 1977
Deddf Cŵn Peryglus 1991
Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976
Deddf Datblygu Twristiaeth 1969
Deddfau Cŵn 1906 & 1928
Deddf Cŵn (Baeddu Tir) 1996
Deddf Diwygio Addysg 1988 (adrannau 214 & 215)
Deddf Ynni 1976
Deddf Menter 2002
Deddf Asiantau Tai 1979
Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972
Deddf Ffrwydron 1875
Deddf Cemegau Fferm a Gerddi 1967
Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodaeth) (Cymru) 2005
Rheoliadau Deunyddiau Bwydo (Cymru) 2006
Deddf Tân Gwyllt 2003
Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010
Deddf Diogelu'r Amgylchedd a Bwyd 1985 (Awdurdodaeth trwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unig)
Rheoliadau Gwybodaeth ar Fwyd (Cymru) 2014
Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (adran.32) a Gorchymynion a Rheoliadau perthnasol a wnaed oddi tanynt neu mewn perthynas â blaenori cael effaith trwy rinwedd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972
Deddfau Twyll a Ffugio 1981 a 1988
Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005
Deddf Twyll Act 2006
Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004
Deddf Dilysnodi 1973
Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 (Adran 20(2) (a),(b),( c), (d), (e),(f), (g), (h), (i), (j), (k), (l); Adrannau 21,22, 25,38 and 39
Deddf Priffyrdd Act 1980
Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997
Deddf Sylweddau Meddwol (Cyflenwi) 1985
Deddf Cyllyll 1997
Deddf Trwyddedu 2003
Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977
Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988
Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012
Deddf Meddyginiaeth 1968 (adran.111)
Deddf Beiciau Modur (Sŵn) 1987
Deddf Cerbydau Modur (Offer Diogelwch i Blant) 1991
Deddf y Loteri Genedlaethol 1993
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009
Deddf Arfau Ymosodol (adran.6)
Deddf Symbolau Olympaidd ac ati (Diogelu) 1995
Deddf Plaleiddiaid (Ffioedd a Gorfodaeth) 1989
Deddf Petrolewm (Cydgrynhoad) 1928
Deddf Petrolewm (Trosglwyddo Trwyddedau) 1936
Deddf Gwenwynau 1972
Deddf Prisiau 1974
Deddf Enillion Troseddau 2002
Deddfau Iechyd Cyhoeddus 1936 & 1961
Deddf Dyluniadau Cofrestredig 1949
Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970
Deddfau Traffig y Ffyrdd 1974, 1988 a 1991
Deddf Traffig y Ffyrdd (Darpariaeth Ôl-ddilynol) 1988
Deddf Traffig y Ffyrdd (Cerbydau Tramor) 1972
Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988
Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008
Deddf Telegyfathrebu 1984
Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002
Rheoliadau Masnachu mewn Anifeiliaid a Chynnyrch Cysylltiedig (Cymru)
Deddf Nodau Masnach 1994
Deddfau Nwyddau a Gwasanaethau nas Archebwyd 1971 & 1975
Deddf Cerbydau (Trosedd) 2001
Deddfau Recordiadau Fideo 1984, 1993 a 2010
Deddfau Pwysau a Mesurau 1976 ac 1985
Deddf Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd 1991
Deddf Newid Hinsawdd, 2008
Deddf Gemau, 1968
Deddf Hapchwarae, 2005
Deddf Casgliadau o Ddrws i Ddrws, 1939
Deddf Hypnoteiddio, 1952
Deddf Trwyddedu, 2003
Deddf Cerddoriaeth Fyw, 2012
Deddf Loterïau , 1975
Deddf Loterïau a Diddanwch, 1976
Deddf Cartrefi Symudol, 1983
Deddf Cartrefi Symudol (Cymru), 2013
Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad), 1925
Deddf Yr Heddlu, Ffatrioedd ac ati (Darpariaethau Amrywiol), 1916
Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, 2011
Deddf Iechyd Cyhoeddus, 1875
Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017
Deddf Delwyr Metel Sgrap, 2013
Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru), 2010
Rheoliadau Eiddo Di-fwg (Cymru), 2007
Deddf Masnachu ar y Sul, 1994
Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847
Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006
Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016
Rheoliadau Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2019
Gorchymyn Cyngor Sir Powys (Baeddu gan Gŵn) 1998
Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017
Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017
Deddf Trwyddedu Sŵau 1981
Argyfyngau Sifil a Diogelwch Cymunedol
Deddf Argyfyngau Sifil 2004
Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998