Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithio mewn Gwasanaethau Plant

Os ydych chi'n credu yng ngallu gwaith cymdeithasol i newid pethau er gwell, efallai dyma'r amser i chi ymuno â Gwasanaethau Plant Powys.  Rydym yn wasanaeth sy'n gwella'n gyflym, gyda gweledigaeth glir ar beth sydd orau i blant a sut i wireddu hynny. 

Rydym wedi gwneud newidiadau sylweddol i'n dull a'n strwythur gweithio er mwyn gallu cefnogi staff yn well wrth sicrhau gwasanaethau effeithiol sy'n canolbwyntio ar gymorth cynnar ac ymyrraeth ac atal mewn modd ystyrlon.  Rydym wedi gwrando ar ein gweithlu presennol i lunio strwythur newydd a'i wneud mor gryf ac effeithiol â phosibl. 

Mae ein strwythur newydd yn galluogi:

  • Amser i fyfyrio ac i weithio gyda phlant a theuluoedd
  • Llwyth achosion y gellir ymdopi ag ef

Rydym yn parhau i weithredu Arwyddion Diogelwch i gefnogi ymarferwyr i ymgysylltu â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd, gan eu galluogi i gyflawni eu nodau a gwneud y newidiadau sydd eu hangen arnynt yn eu bywydau.

Swyddi Gwag

Mae rhai o'n cyfleoedd presennol wedi'u nodi isod. Gallwch gael gwybodaeth am ein holl swyddi gwag ar ein gwefan recriwtio.