Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaeth Casglu Gwastraff o'r Ardd - Telerau ac Amodau

1. Y Cytundeb

1.1         Gwneir y cytundeb hwn rhwng y preswylydd ('y cwsmer') a Chyngor Sir Powys ('y Cyngor'). Mae'r ddogfen hon yn nodi'r telerau ac amodau gofynnol fel bod y cwsmer yn gallu defnyddio gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd ('y gwasanaeth') y Cyngor a fydd yn cael ei wneud bob pythefnos.

1.2         Gall y cyngor amrywio neu newid telerau ac amodau'r Cytundeb hwn ar unrhyw bryd. Bydd y cwsmer yn cael rhybudd ysgrifenedig o 10 diwrnod am unrhyw newidiadau o'r fath.

2. Y Gwasanaeth

2.1         Mae'r gwasanaeth yn cynnwys casgliadau bob pythefnos o wastraff yr ardd o gynwysyddion Cyngor Sir Powys rydym yn codi tâl ar eu cyfer trwy gydol tymor casglu gwastraff yr ardd (y 'tymor').

2.2        Bydd tymor 2024 yn rhedeg rhwng 26 Chwefror a 29 Tachwedd.

2.2.1     Byddwn yn casglu gwastraff cwsmeriaid unigol rhwng y dyddiadau a nodir yn adran 2.2 gan ddibynnu ar ddyddiad dechrau cylch casglu eu heiddo. Er enghraifft, yn nhymor 2024, os mai'r casgliad cyntaf posibl ar gyfer eiddo yw dydd Llun, 26 Chwefror, y casgliad olaf a allai fod yn bosibl fydd dydd Llun 18 Tachwedd; ond os mai'r casgliad cyntaf posib yw dydd Gwener 8 Mawrth, bydd y casgliad olaf ar ddydd Gwener, 29 Tachwedd.

2.2.2     Byddwn yn cyhoeddi'r dyddiadau casglu penodol ar gyfer pob cwsmer trwy e-bost ar ôl i chi wneud cais llwyddiannus i dderbyn y gwasanaeth. Os ydych yn talu dros y ffôn bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn rhoi gwybod i chi. Yn ogystal, bydd pob dyddiad casglu ar gyfer cartref penodol yn cael ei argraffu ar y sticer(-i) a roddwyd (gweler adran 2.6). Gallwch hefyd gwirio dyddiadau casglu unigol ar unrhyw adeg trwy gydol y tymor yn yr adran 'dod o hyd i fy niwrnod biniau' ar wefan y Cyngor. Neu mae croeso i chi ffonio tîm gwasanaethau cwsmer y Cyngor ar 01597 827 465.

2.2.3     Gan fod nifer y tanysgrifwyr yn newid o dymor i dymor, yn ogystal ag yn ystod y tymor, gall y Cyngor wneud newidiadau i'r cylchau casglu, ac felly i ddyddiau casglu cwsmeriaid. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn cynnal gwasanaeth sy'n economaidd ac sy'n gweithredu'n ymarferol. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau i ddyddiau casglu trwy e-bost neu dros y ffôn lle bo modd. Neu fel arall trwy lythyr a bydd sticer(-i) arall yn cael ei roi i'r cwsmer.

2.2.4     Gall newidiadau i ddyddiau casglu hefyd digwydd rhwng tymhorau wrth inni adolygu'r cylchau casglu y tu allan i'r tymor. Ni fyddwn yn rhoi gwybod am hyn i gwsmeriaid hyd nes ei fod / ei bod yn tanysgrifio eto ar gyfer y tymor newydd canlynol (gweler adran 2.2.2). Felly ni ddylai cwsmeriaid dybio y bydd eu diwrnod casglu'n aros yr un fath yn awtomatig i'r hyn ag yr oedd yn y tymor blaenorol.

2.3        Bydd y biniau gwyrdd olwynion gwastraff yr ardd yn aros yn eiddo i'r Cyngor trwy gydol y Cytundeb.

2.4        Rydym yn codi tâl am y gwasanaeth fesul cynhwysydd am y tymor cyfredol yn unig (gweler adran 2.2). Os bydd cwsmer yn tanysgrifio rhan o'r ffordd trwy'r tymor cyfredol, ni fydd ond ganddynt hawl i weddill y casgliadau a drefnwyd ar gyfer gweddill y tymor hwnnw. Ni fydd tanysgrifiadau yn trosglwyddo i'r tymor nesaf. Felly, i sicrhau'ch bod yn cael yr holl gasgliadau sydd ar gael yn ystod y tymor, dylech danysgrifio cyn gynted ag y bo modd cyn i'r tymor ddechrau.

2.4.1     Dyma daliadau ar gyfer pob math o gynhwysydd ar gyfer y tymor presennol:

2.4.1.1  Y tâl ar gyfer casgliadau o fin ar olwynion 240 litr yw £50.

2.4.1.2  Y tâl ar gyfer casgliadau o fin ar olwynion 140 litr yw £45.

2.4.1.3  Y tâl ar gyfer casgliadau o sachau yw £45.

2.5         Mae cwsmeriaid yn gallu gofyn am fwy nag un cynhwysydd ar gyfer pob eiddo. Bydd cynhwysyddion ychwanegol yn cael eu darparu am bris i'r cwsmer, yn unol â chymal 2.4.1.

e.e. Y gost am ddau fin ar olwynion 240ltr fesul eiddo fyddai £100.

2.6         Bydd y cyngor yn darparu sticer tanysgrifio gwastraff gardd i gwsmeriaid ar gyfer pob bin olwynion y maent wedi talu amdano. Bydd hwn yn cael ei bostio i gyfeiriad y cwsmer cyn pen 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y tanysgrifiad.

2.6.1    Rhaid i'r cwsmer roi'r sticeri o dan y dolenni biniau olwyn. Ni fydd y cyngor yn casglu gwastraff gardd o finiau nad ydynt yn arddangos eu sticer tanysgrifio gwastraff gardd.

2.7         Bydd y cyngor dim ond yn casglu gwastraff o'r ardd os yw o fewn cynhwysyddion a ddarperir gan y Cyngor. Rhaid i'r gwastraff fod yn y cynhwysydd yn llwyr, ni fydd gwastraff arall (gwastraff ychwanegol sy'n cael ei adael wrth ymyl, neu ar ben y bin) yn cael ei gasglu. Yr unig eithriadau i hyn fydd yr achosion a ddisgrifir yn adran 2.10 a'i is-adrannau.

2.8         Ni fydd y cyngor yn gwacau cynhwysyddion ar gyfer gwastraff gwyrdd o'r ardd sy'n rhy drwm neu'n anniogel i'w trin. Bydd y cwsmer yn sicrhau bod y pwysau gormodol yn cael ei dynnu oddi yno lle bo angen. Yr uchafswm pwysau o ddeunydd a fydd yn cael ei gasglu o bob cynhwysydd yw;

2.8.1    90 cilogram o wastraff o'r ardd mewn bin ar olwynion 240ltr

2.8.2    45 cilogram o wastraff o'r ardd mewn bin ar olwynion 140ltr

2.9         Rhaid rhoi'r cynhwysyddion gwastraff gwyrdd o'r ardd allan i'w gasglu erbyn 7:30am ar y diwrnod casglu penodol, yn y man casglu penodol a ddiffiniwyd gan y Cyngor.

2.10        Os yw'r Cyngor yn methu casglu o'r cwsmer ar unrhyw ddyddiad casglu a drefnwyd yn ystod y tymor, bydd hyn yn cael ei ystyried yn 'gasgliad a gollwyd'.

2.10.1 Os yw'r casgliad a fethwyd am resymau a wyddys, megis, ond heb fod yn gyfyngedig i: cerbyd wedi torri lawr, salwch staff neu absenoldeb, tywydd garw ac ati. ; bydd y Cyngor yn hysbysu'r holl gwsmeriaid yr effeithir arnynt drwy e-bost, os darparwyd un wrth danysgrifio i'r tymor. Bydd materion o'r fath hefyd yn cael eu cyfleu ar wefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, felly dylai'r cwsmer gyfeirio at y rhain, neu gael gair gyda thîm gwasanaethau cwsmer y Cyngor ar 01597 827 465,  cyn rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd i'r Cyngor, naill ai drwy wefan  y Cyngor, drwy e-bostio gardenwaste@powys.gov.uk, neu drwy ffonio tîm gwasanaethau cwsmer y Cyngor ar 01597 827 465.

2.10.2  Os oedd y casgliad a gollwyd oherwydd rhesymau anhysbys; er enghraifft, aeth y rownd gasglu yn ei flaen fel y cynlluniwyd ond collwyd eiddo'r cwsmer, rhaid i'r cwsmer roi gwybod am hyn i'r Cyngor cyn gynted â phosibl, naill ai drwy wefan y Cyngor, trwy e-bostio gardenwaste@powys.gov.uk, neu drwy ffonio tîm gwasanaethau cwsmer y Cyngor ar 01597 827 465.

2.10.3 Yn y ddwy achos o gasgliadau a fethwyd a ddisgrifir yn adrannau 2.10.1 a 2.10.2, bydd y Cyngor yn gwneud eu gorau i ail-gasglu ar ddyddiad newydd cyn y casgliad a drefnwyd nesaf. Os nad yw hyn yn bosibl, yna dylid cyflwyno unrhyw ddeunydd dros ben a gronnwyd yn y cyfamser wrth y bin ar olwynion y cwsmer ar y dyddiad casglu nesaf a drefnwyd, a bydd hyn hefyd yn cael ei gasglu. Rhaid cyflwyno deunydd dros ben mewn sach(au) cadarn addas, heb fod yn fwy na sachau sbwriel arferol, fel bod ein criwiau casglu yn gallu eu gwacau'n ddiogel, a bydd y sach(au) yn cael ei adael ar ôl yn y bin ar olwynion y cwsmer ar ôl ei gwacau, naill ai i'w ail-ddefnyddio gan y cwsmer, neu i'w waredu yng nghasgliad gwastraff gweddilliol nesaf y cwsmer (bin du ar olwynion neu sachau porffor,  fel sy'n berthnasol).  Cofiwch ni ddylai nifer y sachau fod yn fwy na chapasiti'r bin a gollwyd yn flaenorol.

2.10.4 Ni ystyrir bod casgliad wedi'i golli os nad yw'r cwsmer wedi cyflwyno eu biniau yn unol â manylion 2.9.

2.10.5 Yn y ddwy achos o gasgliadau a fethwyd a ddisgrifir yn adrannau 2.10.1 a 2.10.2, ni fydd unrhyw ad-daliadau yn cael eu rhoi lle mae'r Cyngor wedi llwyddo i wneud casgliad a aildrefnwyd, neu glirio deunydd dros ben yn ystod casgliadau a drefnwyd yn ddiweddarach.  Mewn  amgylchiadau eithriadol lle mae angen ad-daliad, bydd hyn yn cael ei roi ar gyfradd sy'n gymesur â nifer y casgliadau a gollwyd fel canran o'r tâl blynyddol.

2.11      Os bydd eich cynhwysyddion ar gyfer gwastraff gwyrdd o'r ardd yn cael ei ddifrodi byddwn yn ei drwsio neu'n rhoi un newydd i chi, am ddim, cyn gynted ag sy'n ymarferol i wneud hynny. Fodd bynnag, os yw'r difrod oherwydd esgeulustra neu gamddefnydd, bydd y gost o drwsio neu o gael bin newydd yn cael ei godi ar y cwsmer. Os yw eich bin ar olwynion gwastraff gwyrdd o'r ardd wedi'i ddifrodi, rhowch wybod i'r Cyngor ar 01597 827 465.

2.12      Os yw eich cynhwysyddion ar gyfer gwastraff gwyrdd o'r ardd yn mynd ar goll neu'n cael ei ddwyn, rhowch wybod i'r Cyngor ynghyd â rhif digwyddiad yr Heddlu. Unwaith y bydd hyn wedi digwydd, byddwn yn rhoi un newydd i chi am ddim, cyn gynted ag sy'n rhesymol. Ffoniwch y Cyngor ar 01597 827 465.

2.13      Os yw cwsmer yn newid ei gyfeiriad (ym Mhowys) gellir trosglwyddo'r gwasanaeth i gyfeiriad newydd, os yw'r cwsmer yn rhoi gwybod i'r cyngor. Rhaid i gwsmeriaid rhoi gwybod i'r cyngor a darparu'r cynhwysyddion ar gyfer gwastraff gwyrdd o'r ardd i'w gasglu.

3. Dod â'r Cytundeb i Ben

3.1         Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i ddod â'r Cytundeb hwn i ben ac i gasglu'r biniau ar olwynion ar gyfer gwastraff gwyrdd o'r ardd oddi wrth gwsmeriaid ar unrhyw bryd;

3.1.1    Os yw'r Cyngor yn penderfynu nad yw'r eiddo yn addas ar gyfer y gwasanaeth oherwydd mynediad cyfyngedig. Bydd ad-daliad llawn yn cael ei roi i'r cwsmer.

3.1.2    Os yw'r Cyngor yn methu gwneud taliadau yn gysylltiedig â'r Cytundeb hwn i'r cyngor pan bod angen gwneud hynny. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am arian a dderbyniwyd a bydd y cwsmer yn parhau i fod yn atebol i dalu'r pris llawn am y gwasanaeth am y tymor.

3.1.3         Os yw'r Cwsmer yn gosod eitemau allan yn rheolaidd nad ydynt yn cael eu cyfrif fel gwastraff o'r ardd, neu os ydynt yn eitemau a gwaherddir. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am arian a dderbyniwyd a bydd y cwsmer yn parhau i fod yn atebol i dalu'r pris llawn am y gwasanaeth am y tymor.

3.2         Mae'r cwsmer yn gallu dod â'r Cytundeb hwn i ben ar unrhyw bryd trwy roi saith diwrnod o rybudd o flaen llawn i'r Cyngor. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am arian a dderbyniwyd a bydd y cwsmer yn parhau i fod yn atebol i dalu'r pris llawn am y gwasanaeth am y tymor.