Casglu gwastraff o'r ardd
Mae tanysgrifiadau ar gyfer tymor gwastraff gardd o ymyl y ffordd 2025 bellach ar agor.
Tanysgrifiwch nawr er mwyn cael budd o fanteision gwasanaeth casglu hawdd, glân a syml i ailgylchu gwastraff o'r ardd. Mae gennym finiau 240 litr neu 140 litr ar olwynion, neu sachau gwastraff o'r ardd y gellir eu compostio i'r rheiny y bydd eu sbwriel yn cael ei gasglu mewn bagiau porffor.
Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd Gofyn am Gasgliadau Gwastraff Gardd
Gwsmeriaid presennol, os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2024 ac y byddwch yn symud tŷ cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ym mis Chwefror, darllenwch yr adran Symud Tŷ ymhellach i lawr y dudalen a dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n berthnasol i chi.
casglu hawdd a diffwdan bob pythefnos o'ch cartref
ffordd lân a thaclus o reoli eich gwastraff o'r ardd
ffordd syml o helpu'r amgylchedd
Bydd y casgliadau yn digwydd bob pythefnos trwy gydol y tymor, fel arfer o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.
Rydym yn cynnig sachau papur 45 litr y gellir eu compostio, neu finiau 140 litr a 240 litr i storio'ch gwastraff tan y diwrnod casglu.
Mae casgliadau â chymorth ar gael ar gyfer preswylwyr cymwys, a byddant yn awtomatig os ydych chi yn eu cael eisoes ar gyfer ailgylchu neu gasgliadau gwastraff gweddilliol.
Os gwelwch yn dda
- Dail
- Toriadau glaswellt
- Blodau
- Canghennau a Brigau
- Sglodion a Rhisgl Coed
Dim Diolch
- Gwastraff o'r Gegin - defnyddiwch eich blwch bwyd gwyrdd
- Bagiau plastig - defnyddiwch eich bin olwynion neu sachau porffor
- Gwastraff Cyffredinol - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu'r sachau porffor
- Gwastraff neu wasarn anifeiliaid anwes /anifeiliaid - defnyddiwch eich bin ar olwynion neu sachau porffor
- Pridd a Rwbel - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf
- Boncyffion Coed - ewch â nhw i'r ganolfan ailgylchu agosaf atoch chi
- Rhywogaethau Goresgynnol - cyfeiriwch at ganllawiau diweddaraf y llywodraeth ar rywogaethau goresgynnol i helpu i warchod ein hamgylchedd naturiol
Nid yw'r rhestrau uchod yn holl gynhwysfawr, ac mae'r Cyngor yn cadw disgresiwn llwyr ynghylch pob math o ddeunydd a dderbynnir neu na dderbynnir.
Sut mae'r gwasanaeth yn gweithio
Y Tymor Casglu
Mae'r tymor casglu fel arfer yn ymestyn o fis Mawrth hyd fis Tachwedd.
Yn dibynnu ar sut mae'r wythnosau'n syrthio o fewn y misoedd, gallai ddechrau ychydig yn gynharach ar ddiwedd mis Chwefror, a dod i ben ychydig yn hwyrach ar ddechrau mis Rhagfyr.
Bydd tymor 2025 yn rhedeg rhwng 3 Mawrth a 5 Rhagfyr.
Casgliadau Posibl
Dyrennir 20 o gasgliadau posibl, un bob pythefnos, i bob cartref ym Mhowys yn ystod y tymor.
Mae union ddyddiadau'r casgliadau posibl ar gyfer eiddo yn dibynnu ar ba ddiwrnod yn y cylch casglu pythefnos y cafodd y casgliad ei ddyrannu.
Er enghraifft, yn nhymor 2025, os mai'r casgliad cyntaf posibl ar gyfer eiddo yw dydd Llun, 3 Mawrth, y casgliad olaf a allai fod yn bosibl fydd dydd Llun 21 Tachwedd; ond os mai'r casgliad cyntaf posib yw dydd Gwener 14 Mawrth, bydd y casgliad olaf ar ddydd Gwener, 5 Rhagfyr.
Byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi am yr union ddyddiadau casglu a gewch (yn amodol ar unrhyw newidiadau posibl a amlinellwyd yn y Telerau ac Amodau) pan fyddwch yn tanysgrifio - yn yr e-bost i gadarnhau ac ar y sticer ar gyfer eich bin - a gallwch wirio ein manylion diwrnodau casglu biniau unrhyw amser (yn ystod y tymor casglu).
Taliadau
Mae'r tâl am y gwasanaeth yn gost sefydlog am bob cynhwysydd, ar gyfer y casgliadau sy'n weddill yn y tymor cyfredol yn unig.
- 240 litr bin ar olwynion - £60
- 140 litr bin ar olwynion - £55
- 45 litr sachau papur pydradwy (pecyn o 50) - £55
Nid yw tanysgrifiadau a wneir ran o'r ffordd trwy'r tymor yn trosglwyddo i'r tymor nesaf. Bydd y tâl hwnnw yn rhoi hawl i chi i gael gweddill y casgliadau a drefnwyd yn y tymor cyfredol yn unig.
Gan fod uchafswm o 20 casgliad bob pythefnos yn bosibl i bob eiddo yn ystod y tymor casglu gwastraff gardd, er mwyn sicrhau eich bod yn cael manteisio ar bob un o'r 20 casgliad mewn tymor penodol, bydd angen i chi fod wedi tanysgrifio mor gynnar â phosibl pan fydd tanysgrifiadau'n agor cyn dechrau'r tymor casglu.
Telerau ac Amodau
I weld manylion llawn y gwasanaeth, darllenwch y Telerau ac Amodau llawn.
Gwasanaeth Casglu Gwastraff o'r Ardd - Telerau ac Amodau
Symud Tŷ
Os oeddech chi wedi tanysgrifio yn 2024, ac wedi symud tŷ ym Mhowys cyn i ni ailagor tanysgrifiadau ar gyfer 2025, ac rydych yn dymuno parhau â'ch tanysgrifiad y tymor hwn yn eich tŷ newydd; yna ewch â'ch cynhwysydd/cynwysyddion gyda chi i'ch tŷ newydd, a llenwch y ffurflen Dywedwch wrthym eich bod wedi symud neu yn symud tŷ cyn i chi ail-danysgrifio i sicrhau bod ein cofnodion yn gyfredol ac yn barod ar gyfer pan fyddwch yn ail-danysgrifio.
Yna, os bydd angen i chi newid nifer, maint neu fath y cynhwysydd/cynwysyddion sydd gennych ar gyfer y tymor hwn, gallwch wneud hyn wrth ail-danysgrifio.
Fodd bynnag, os nad oes gennych le i gadw'r holl gynwysyddion sydd gennych ar hyn o bryd yn eich tŷ newydd, yna gadewch y rhai nad oes eu hangen arnoch yn eich hen dŷ. Yna, yn lle llenwi'r ffurflen, anfonwch e-bost at gardenwaste@powys.gov.uk. Dywedwch wrthym beth oedd eich hen gyfeiriad a'ch cyfeiriad newydd yn llawn, pa gynhwysydd/gynwysyddion y gwnaethoch chi eu gadael ar ôl, ac fe wnawn ni newid ein cofnodion ar eich cyfer chi.
Os na fydd angen tanysgrifiad arnoch yn eich tŷ newydd o gwbl, neu os ydych chi'n symud y tu allan i Bowys ac nad ydych chi'n gymwys i gael casgliadau mwyach, gadewch y cynhwysydd /cynwysyddion yn eich hen dŷ a chwblhewch y ffurflen canslo tanysgrifiad cyn mis Chwefror. Os na fyddwch yn llenwi'r ffurflen, ebyddwn yn anfon e-bost atoch yn ddiangen am y tymor newydd.