Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth i Ferched Cymru

Cynllun Newid sy'n Para "Gofynnwch i Mi"

Beth yw'r cynllun Newid sy'n Para "Gofynnwch i Mi"?

Nod y cynllun 'Gofynnwch i Mi' yw torri'r tawelwch o amgylch cam-drin yn y cartref yn y gymuned a chwalu rhwystrau sy'n ei gwneud yn anodd i oroeswyr sôn wrth eraill am eu profiadau. Mae unigolion yn y gymuned yn derbyn cwrs hyfforddi dau ddiwrnod am ddim sy'n trafod sut mae deall cam drin yn y cartref. Wedyn maent yn cael gwahoddiad i fod yn llysgenhadon cymunedol i rannu'r hyn a ddysgasant gydag eraill. Bydd y llysgenhadon yn herio mythau, ystrydebau a'r arfer o roi'r bai ar ddioddefwyr yn y fro.

Erbyn diwedd y cwrs dylai llysgenhadon fedru gwneud y canlynol:

  • Deall natur ac effaith cam-drin yn y cartref
  • Teimlo'n hyderus o ran sut i ymateb i fythau a phan mae pobl yn rhoi'r bai ar ddioddefwyr
  • Teimlo bod ganddynt y technegau i gynorthwyo rhywun sy'n rhannu eu profiadau personol o gam-drin
  • Defnyddio medrau i rannu gwybodaeth ymhlith goroeswyr am wasanaethau cefnogol arbenigol
  • Deall rôl llysgennad, camau nesaf a sut mae cadw mewn cysylltiad

Cynhelir hyfforddiant ar draws Powys. I ganfod mwy am y cynllun a chofrestru ar gwrs, cysylltwch ag

AskmeMid@welshwomensaid.org.uk neu ffoniwch gydlynydd y prosiect ar 07940 008783.