Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Adroddiad gorfodol bwlch cyflog rhwng y rhywiau 2018

Mae'r cyngor yn credu mewn creu gweithlu amrywiol gyda chydbwysedd rhwng y rhywiau, sy'n adlewyrchu'r trigolion a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Yn 2018, roedd gan y cyngor fwlch cyflog o 9.80 y cant ar gyfartaledd rhwng y rhywiau.  Mae gwahaniaeth o 9.48 y cant rhwng canolrif  cyflog y rhywiau. 

Mae hyn yn welliant o 8.6 y cant yn y bwlch cyflog ar gyfartaledd rhwng y rhywiau a gwelliant o 7.2 y cant rhwng canolrif cyflog y rhywiau dros y 12 mis diwethaf.

Rydym yn credu mewn cyfleoedd am swyddi i bawb heb ystyried rhyw, ac fe wnawn herio ein hunain i fod yn fwy cynhwysol fel corff cyhoeddus.  Rydym am greu diwylliant sy'n hollol gynhwysol ac fe fyddwn yn onest am y problemau rydym ni ac eraill yn eu hwynebu yn ein gwaith beunyddiol.

Rydym wedi ymrwymo i ddulliau asesu trwyadl gan ganolbwyntio ar allu.  Mae hyn yn sicrhau y bydd pobl yn cael eu penodi a'u dyrchafu'n fewnol ar sail teilyngdod, a bod hyn yn amlwg trwy feini prawf gwrthrychol, sydd ddim yn gwahaniaethu.

Mae yna waith i'w wneud ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at yr heriau hyn.  Fodd bynnag mae'r cyngor yn gwbl ymroddedig at gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Mae'r graffig sydd yn yr atodiad i'r adroddiad hwn, yn dangos yn glir:

  • y bwlch cyflog ar gyfartaledd yn y cyflogau fesul awr;
  • canolrif y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fesul awr; a
  • chwarteli cyflogau.

Nid yw'r cyngor yn gweithredu cynllun bonws ac felly nid oes unrhyw ddata ar hynny.