Diogelu ym maes Addysg
Mae gan weithwyr, gwirfoddolwyr, darparwyr gwasanaethau dan gontract ac oedolion sydd â chysylltiad â phlant a phobl ifainc gyfrifoldeb clir i hybu lles plant a phobl ifainc ac i gymryd camau pan fyddant yn amau neu'n gweld y gall plentyn neu berson ifanc fod yn dioddef niwed neu gam-drin sylweddol.
"Lles y plentyn sydd bennaf"
Mae'r polisïau hwn yn dangos sut bydd Gwasanaeth Ysgolion Powys yn cyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol ac yn rhoi sicrwydd i aelodau o'r cyhoedd, defnyddwyr y gwasanaeth, gweithwyr, gwirfoddolwyr a'r rheini sy'n gweithio ar ran y Cyngor o fewn Addysg.