Lotto Powys
Loteri ar-lein wythnosol a sefydlwyd i geisio codi arian ar gyfer elusennau lleol ac achosion da yw Lotto Powys. Mae Lotto Powys yn gweithredu ar egwyddor codi arian yn y gymuned, i'r gymuned - gan rymuso grwpiau lleol i gynhyrchu cyllid hanfodol mewn ffordd effeithiol a llawn hwyl, a galluogi'r rhai sy'n cymryd rhan i gefnogi'r achosion y maent yn pryderu mwyaf yn eu cylch.
£1 yr un yw pris y tocynnau, sef hanner pris tocynnau'r Loteri Genedlaethol, ac mae cyfran eithriadol ohono, sef 60%, yn mynd at achosion da, o'i gymharu â dim ond 28% sy'n cael ei gyfrannu gan y Loteri Genedlaethol. Mae'r 40% sydd ar ôl yn mynd i'r gronfa wobrau ac yn talu am y costau rhedeg. 'Dyw Cyngor Sir Powys yn derbyn yr un geiniog o werthu'r tocynnau.
Mae gan bob tocyn gyfle 1 mewn 50 o ennill gwobr bob wythnos. Mae hyn yn cynnwys gwobr fawr anhygoel o £25,000 pan fydd y chwe rhif yn cyfateb i'w gilydd, yn ogystal ag amryw o wobrau ariannol eraill.
Gall achosion da ymuno am ddim, a'r bwriad yw cefnogi amrywiaeth eang o elusennau a grwpiau sy'n gweithredu ym Mhowys ac yn cyflenwi prosiectau ag effaith fuddiol ar y gymuned leol.
Cofrestrwch eich achos da gyda Lotto Powys
Yn ogystal â hyn mae yna Gronfa Grantiau Bychain Lotto Powys ar gyfer y rheiny nad ydyn nhw am gefnogi grŵp penodol, lle gall sefydliadau elusennol, gwirfoddol a chymunedau wneud cais am gostau gweithgareddau penodol neu arian tuag at brynu eitemau bychain o gyfarpar, hyd at £2,000 unwaith y flwyddyn. Mae cyfarwyddyd llawn, ynghyd â manylion sut i wneud cais am yr arian grant yma hyd Hydref 2019.
Mae gwybodaeth fanwl a Chwestiynau a Ofynnir yn Aml ar wefan y loteri