Cyfrifon y Cyngor
Llyfr y Gyllideb
Bydd Llyfr Cyllideb y Cyngor yn cael ei ddosbarthu'n flynyddol i Swyddogion y Cyngor Sir ac aelodau etholedig. Dogfen rheoli hanfodol yw'r llyfr yma, sy'n manylu ar amcanion, strwythurau, adnoddau a chyfrifoldebau craidd yr adrannau.
Datganiad o gyfridon
Datganiad o'r Cyfrifon yw crynodeb statudol o faterion ariannol y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol ac fe'i paratoir yn unol â Chod Ymarfer Cyfrifo llywodraeth leol( ACOP). Diben Datganiad o'r Cyfrifon yw rhoi gwybodaeth glir i etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau'r cyngor ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb am gyllid cyffredinol y cyngor a dangos stiwardiaeth y cyngor o arian cyhoeddus am y flwyddyn.
Rheoli'r Drysorfa
Mae 2il Argraffiad Cwbl Ddiwygiedig 2009 Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Drysorfa mewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn gofyn am Ddatganiad Polisi ynghylch Rheoli'r Drysorfa ynghyd â'r Arferion cysylltiedig, a Datganiad blynyddol ar Strategaeth Rheoli'r Drysorfa a Strategaeth Buddsoddi flynyddol.
Mae Canllawiau Llywodraeth y Cynulliad ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd o 1 Ebrill 2010 yn argymell bod dogfen Strategaeth a gymeradwywyd ar gael i'r cyhoedd am ddim.
Fel y cyfryw, mae Datganiad Polisi ynghylch Rheoli'r Drysorfa ynghyd â'r Arferion cysylltiedig, a Datganiad blynyddol ar Strategaeth Rheoli'r Drysorfa a Strategaeth Buddsoddi flynyddol Cyngor Sir Powys i'w gweld isod:
Consortiwm Rhanbarthol ERW
Cyfrifon yn Daladwy
Gwariant ar ffioedd ymgynghori
Hysbysiadau