Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys - Ein Hadroddiad Cynnydd Blynyddol

I'n helpu ni wireddu'r amcanion lleol yn 'Tua 2040', ein cynllun lles cyntaf, fe gytunon ni ar 12 cam llesiant.
2019-20
2018-19

Cam 1
Ymroi i weithio gyda phreswylwyr, cymunedau a rhanddeiliaid allweddol i hyrwyddo, llunio a darparu ein gweledigaeth ar gyfer 2040.

Cam 2
Sefydlu fframwaith rheoli perfformiad syml ac effeithiol i fonitro'r cynnydd gyda darparu'r camau llesiant a chyflawni'r weledigaeth.

Cam 3
Gweithio gydag eraill a dylanwadu arnynt i wella ein seilwaith cludiant, ein cysylltiadau trafnidiaeth presennol a datblygu dull cynaliadwy ac integredig ar gyfer eu cynllunio a'u darparu.

Cam 4
Gweithio gyda a dylanwadu ar eraill i sicrhau bod gan Bowys seilwaith digidol gwell.

Cam 5
Datblygu dull ar y cyd o gryfhau gwydnwch ein cymunedau drwy gydgysylltu'r gefnogaeth sydd ynddynt eisoes a meithrin eu sgiliau a'u gallu er mwyn eu helpu i wneud y pethau y medrant wneud drostynt ei hunain

Cam 6
Datblygu dull holistig o ymdrin â sgiliau a dysgu gydol oes sy'n cynnig ystod o gyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys prentisiaethau a hyfforddeiaethau.

Cam 7
Datblygu strategaeth carbon bositif sy'n achub ar bob cyfle i gynhyrchu ynni gwyrdd.

Cam 8
Datblygu strategaeth amgylchedd cynaliadwy.

Cam 9
Cyflawni ymchwil marchnad a sefydlu seilwaith effeithiol i gynnal mwynhad pobl o'r amgylchedd ac o dwristiaeth anturus.

Cam 10
Datblygu brand cryf i hyrwyddo a denu mewnfuddsoddiad i Bowys.

Cam 11
Gweithredu strwythurau a phrosesau mwy effeithiol i hwyluso ymatebion cymunedol amlasiantaethol i lesiant, cefnogaeth a chymorth cynnar.

Cam 12
Cryfhau gallu ein sefydliadau i wella iechyd a lles emosiynol yn ein cymunedau i gyd.