Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol / Coleg
Cyflwyniad
Mae gan Gyngor Sir Powys ("y Cyngor") ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu cludiant am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol i'w hysgol a gynhelir addas agosaf os ydynt yn byw dros y pellter cerdded statudol.
Darperir cludiant yn unol â Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 ("y Mesur")[1] a'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru o'r enw 'Teithio gan Ddysgwyr - Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol - Mehefin 2014' ("y Canllawiau")[2] a Pholisi Cludiant Ysgol yr awdurdod lleol fel y'i nodir isod. Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i ddysgwyr sydd fel arfer yn byw ym Mhowys neu'r rhai y bernir eu bod yn gyfrifoldeb awdurdod lleol Powys.
Mae'r polisi hwn yn cyd-fynd â'r ' Strategaeth ar gyfer Trawsnewid Addysg ym Mhowys (PDF) [319KB]' a gafodd ei chymeradwyo gan Arweinydd y Cyngor (yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus eang) 14 Ebrill 2020.
Nodyn: Mae'r wybodaeth hon yn gywir adeg ei chyhoeddi ond gall fod yn destun newid o ganlyniad i newidiadau yn y gyfraith neu Bolisi'r Cyngor. Bydd y polisi hwn yn destun adolygiad bob hyn a hyn.
Adran 1: Cludiant ar gyfer Dysgwyr Oedran Cynradd ac Uwchradd (Oed Derbyn i Flwyddyn 11)
1.1 Dyletswyddau cyfreithiol y Cyngor
Mae dyletswyddau cyfreithiol awdurdod lleol mewn perthynas â chludiant ysgol, fel yr amlinellir hwy yn y Mesur, fel a ganlyn:
Rhaid i'r Cyngor:
- Asesu anghenion teithio dysgwyr yn ardal eu hawdurdod
- Darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu ysgol gynradd sy'n byw 2 filltir neu ymhellach oddi wrth eu hysgol addas agosaf
- Darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim i ddysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy'n mynychu ysgol uwchradd sy'n byw 3 milltir neu ymhellach oddi wrth eu hysgol addas agosaf
- Asesu a diwallu anghenion plant "sy'n derbyn gofal" yn ardal eu hawdurdod
- Hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg
- Hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy
Y diffiniad o 'ysgol addas' yw ysgol lle mae'r addysg neu'r hyfforddiant a ddarperir yn addas gan ystyried oedran, gallu a thueddfrydau'r dysgwr ac unrhyw anawsterau dysgu a allai fod ganddo.
Mae'r Cyngor yn cydnabod ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gydymffurfio â dewis rhieni o ran dewis ysgol. Ond lle mae rhieni / gwarcheidwaid yn ffafrio ysgol ar wahân i'w hysgol addas agosaf, ni fydd hawl gan y plentyn / plant i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim. Rhaid i rieni wneud eu trefniadau cludiant eu hunain ac maent yn gwbl gyfrifol am i'w plentyn /plant deithio i'r ysgol o'u dewis a'r holl gostau cludo cysylltiedig.
Lle mae gan rieni gyfrifoldeb ar y cyd am blentyn a bod gan y plentyn breswyliad deuol yng nghartref y ddau riant, bydd y Cyngor yn darparu cludiant o'r ddau gyfeiriad cartref, ar yr amod y gall rhieni ddangos tystiolaeth bod y plentyn / plant yn byw yn y ddau gyfeiriad a bod y plentyn / plant yn bodloni'r meini prawf cymhwyso yn 1.2 isod.
1.2 Meini prawf cymhwyso
Darperir cludiant o'r cartref i'r ysgol i ddysgwyr sydd fel arfer yn byw ym Mhowys fynychu eu hysgol addas neu'r ysgol ddalgylch agosaf.
Mae ysgol 'ddalgylch' yn golygu'r ysgol agosaf o fewn ardal ddaearyddol.
I fod yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol am ddim, rhaid i ysgol neu ysgol ddalgylch agosaf y dysgwyr fod:
- Yr agosaf at gyfeiriad cartref y dysgwyr ac os felly,
- Maent fwy na 2 filltir o'u cyfeiriad cartref ar gyfer ysgol gynradd (4 -11 oed) neu'n fwy na 3 milltir ar gyfer ysgol uwchradd (11 i 16 oed)
Bydd y pellter yn cael ei fesur o'r pwynt mynediad agosaf ar y briffordd gyhoeddus (a allai gynnwys llwybrau troed a llwybrau ceffylau) i fan preswylio arferol y dysgwr sydd agosaf at yr ysgol ac a fesurir at giât agosaf yr ysgol. Bydd llwybr troed neu lwybr ceffylau yn cael ei ystyried yn addas os oes ganddo arwyneb carreg neu darmac. Dim ond os gellir ei gerdded mewn esgidiau ysgol arferol y bydd unrhyw arwyneb arall yn cael ei ystyried. Gwneir y mesuriad trwy ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) y Cyngor.
O dan adran 3 (7) y Mesur dylid mesur y pellter cerdded yn ôl y "llwybr byrraf sydd ar gael". Ystyrir bod llwybr ar gael os yw'n ddiogel (cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol) i ddysgwr heb anabledd neu anawsterau dysgu gerdded y llwybr ar ei ben ei hun neu gydag oedolyn os yw oedran a lefelau dealltwriaeth y dysgwr yn gofyn am hyn.
Os nad yw llwybr 'ar gael' ac nad oes llwybr cerdded 'ar gael' amgen o fewn y trothwy pellter priodol sy'n berthnasol i oedran y dysgwr, y gellir ei ddefnyddio yn lle, fel y rhagnodir yn Adran 3 y Mesur, ni ellir disgwyl i'r dysgwr gerdded i'w ysgol agosaf. Hyd yn oed os yw'r pellter o'r cartref i'r ysgol yn llai na'r terfyn pellter sy'n berthnasol i oedran y dysgwr.
1.3 Plant sy'n Derbyn Gofal
Y Cyngor sydd â chyfrifoldeb rhiant am ofalu am ddysgwr fydd yn penderfynu pa ysgol y dylent ei mynychu, a allai fod yn ysgol heblaw eu hysgol agosaf at eu man preswyl presennol oherwydd, er enghraifft, blaenoriaeth i gynnal parhad yn eu haddysg neu gyswllt â brodyr a chwiorydd a ffrindiau. Os bydd y Plentyn sy'n Derbyn Gofal yn bodloni'r un meini prawf ynghylch pellter, darperir cludiant ysgol am ddim i'r ysgol o ddewis y Cyngor.
1.4 Dysgwyr ag AAA / ADY
Bydd y Cyngor yn gwneud darpariaeth addysgol addas a pherthnasol ar gyfer pob plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol i sicrhau eu bod yn gallu datblygu hyd eithaf eu potensial.
Asesir lefel yr angen am gludiant gan weithwyr proffesiynol perthnasol yn adran addysg y Cyngor, ac mae hyn yn llywio'r math o gludiant a ddarperir. Yna darperir cludiant yn unol â'r cyngor a roddir a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol.
Os oes gan blentyn gynllun statudol, gellir cynnwys cludiant ysgol fel rhan o'r darpariaethau anaddysgol a wneir ar gyfer y plentyn fel rhan o'i gynllun. Os oes ganddo gynllun o'r fath, yna darperir cludiant. Ond ni ddarperir cludiant am ddim os yw rhieni / gofalwyr yn arfer eu hawl i ddewis ysgol nad yw hi'r ysgol addas agosaf a enwir yn y cynllun statudol. (Gweler y Polisi Derbyn).
Os nad yw cludiant ysgol wedi'i gynnwys yng nghynllun statudol plentyn, neu os nad oes gan blentyn gynllun statudol, yna efallai y bydd ganddo hawl o hyd i gludiant o'r cartref i'r ysgol o dan y polisi, ar yr amod mai'r ysgol y mae'n ei mynychu yw'r ysgol briodol agosaf, yn ddarostyngedig i fodloni'r meini prawf cymhwysedd (Gweler y Polisi Derbyn).
Pan fydd y Cyngor yn trefnu cludiant i ddysgwyr fynd i ysgol arbennig/ canolfan arbenigol sydd ynghlwm ag ysgol brif ffrwd, bydd yn gwneud hynny gan sicrhau y bydd gan y dysgwr /dysgwyr amser teithio priodol ar gyfer yr ysgol y mae'n ei mynychu. Nid oes amseroedd teithio penodol wedi'u gosod, ond bydd oedran, anabledd neu anhawster dysgu dysgwyr yn cael eu hystyried wrth drefnu eu cludiant.
Gellir darparu Cynorthwywyr Teithwyr ar rai cerbydau. Penderfynir ar hyn yn dilyn cais / asesiad anghenion teithio cychwynnol ac asesiad risg lle bo angen.
1.5 Dull cludo
Ar gyfer dysgwyr oed cynradd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso, darperir cerbydau cludiant ysgol pwrpasol. Lle bynnag y bo angen, bydd cerbydau cludiant ysgol pwrpasol yn cludo dysgwyr cynradd, uwchradd ac Ôl-16 gyda'i gilydd. Ni fydd dysgwyr oed cynradd yn cael eu cludo ar wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus.
Ar gyfer dysgwyr oed uwchradd sy'n bodloni'r meini prawf cymhwyso, lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael, bydd hwn yn cael ei ddefnyddio fel dewis cyntaf a rhoddir tocyn bws iddynt. Lle nad oes cludiant cyhoeddus ar gael, darperir cludiant ysgol pwrpasol.
1.6 Ysgolion sydd yn llawn
Pan fydd yr ysgol addas agosaf yn llawn ac yn methu â derbyn dysgwr, darperir cludiant am ddim i'r ysgol addas agosaf nesaf sydd â lle i gymryd y plentyn, cyhyd â bod y cartref 2 filltir neu fwy i ffwrdd o'r ysgol addas agosaf nesaf, neu 3 milltir neu fwy ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd. Os gwrthodwyd lle i ddysgwr mewn ysgol trwy apêl derbyn, yna darperir cludiant am ddim i'r ysgol addas agosaf nesaf sydd â lle i gymryd y plentyn, os yw'r plentyn yn gymwys i gael cludiant am ddim.
1.7 Cau ysgol/ ad-drefnu ysgolion
Os penderfynir cau ysgol yn dilyn proses ad-drefnu ysgolion statudol, yna darperir cludiant am ddim i'r ysgol addas agosaf, ond dim ond cyhyd â bod cyfeiriad y cartref 2 filltir / 3 milltir (fel sy'n briodol) neu fwy i ffwrdd o'r ysgol honno.
Pan fydd ysgol newydd yn agor, dim ond os mai hi yw ysgol agosaf y plentyn a bod y cartref 2 filltir / 3 milltir (fel sy'n briodol) neu fwy i ffwrdd o'r ysgol newydd y darperir cludiant am ddim i'r ysgol honno.
1.8 Diogelwch
Mae'r Cyngor yn ddarostyngedig i ddyletswydd gyfreithiol i asesu anghenion teithio dysgwyr sy'n cerdded i'r ysgol o dan Adran 2 y Mesur. Ar gyfer dysgwyr nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf pellter cymwys a ddangosir yn adran 1.2, gall yr Awdurdod Lleol ddarparu cludiant i'r ysgol agosaf os bernir bod y llwybr yn beryglus.
Asesir llwybrau peryglus gan Swyddog priodol yn yr Uned Trafnidiaeth Teithwyr Gorfforaethol a bydd yn dilyn y canllawiau a ddarperir yn Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol a Chanllawiau Gweithredol Mehefin 2014.
Rhaid i rieni wneud cais ysgrifenedig i'r Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol, transport.applications@powys.gov.uk gan nodi eu rhesymau pam eu bod yn credu bod y llwybr cerdded yn anniogel.
Adran 2: Trefniadau Teithio Dewisol
Mae'r Mesur yn rhoi pŵer i awdurdodau lleol o dan Adran 6 wneud trefniadau dewisol ar gyfer dysgwyr na fyddent fel arall yn gymwys i gael cludiant ysgol am ddim.
Gweithredir y disgresiwn hwn yn unol â'r Mesur a'r Canllawiau a bydd hyn yn berthnasol i unrhyw drefniadau y mae'r awdurdod yn credu sy'n addas i hwyluso teithio dysgwyr i ac o le addysg a dysgu.
2.1 Cyfrwng Cymraeg
Er mwyn i'r Cyngor gydymffurfio ag Adran 10 Mesur Teithio gan Ddysgwr Cymru 2008 sy'n nodi bod yn rhaid i bob awdurdod lleol hyrwyddo mynediad i addysg a hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd y Cyngor yn gwneud eithriad i'r meini prawf cymhwyso os yw'ch plentyn yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg, ac nad yr ysgol a ddewiswyd yw'r agosaf at ei gyfeiriad cartref.
Dim ond os yw'ch plentyn yn byw dros y pellter lleiaf o'r ysgol a ddangosir yn 1.2 y mae cludiant ysgol am ddim ar gael.
Os bydd y plentyn wedyn yn newid o addysg cyfrwng Cymraeg i'r ffrwd Saesneg (mewn ysgol ddwy ffrwd) ac nad eu hysgol nhw yw eu hysgol cyfrwng Saesneg agosaf, bydd cludiant yn cael ei dynnu'n ôl.
2.2 Cludiant ar gyfer dysgwyr 16-19
Nid yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol ddarparu cludiant ysgol neu goleg yn rhad ac am ddim i ddysgwyr ar ôl iddynt gwblhau Blwyddyn 11 (ar ôl 16 oed).
Mae cludiant am ddim ar gael i ddysgwyr amser llawn sy'n byw 3 milltir neu fwy o'u hysgol uwchradd agosaf neu safle eu coleg addysg bellach agosaf o fewn Powys sy'n darparu addysg i bobl ifanc 16 - 19 oed. Diffinnir safle'r coleg addysg bellach agosaf fel y safle agosaf ym Mhowys at fan preswyl arferol y dysgwr.
Darperir cludiant i'r dysgwyr hynny y mae eu man preswylio cyffredin yn sir Powys i fynychu'r ysgol / ysgolion lle mae eu pynciau Safon Uwch yn cael eu cyflwyno yn amodol ar fodloni'r meini prawf cymhwyso.
Nid yw'r Cyngor yn darparu cludiant i sefydliadau addysg Ôl-16 y tu allan i ffin y sir. Ond gallwn ddarparu cymorth gyda chostau teithio os mai'r sefydliad a fynychir yw'r ddarpariaeth addas agosaf at le preswylio arferol y dysgwr ac nad yw'r ysgol neu'r coleg yn darparu nac yn trefnu eu cludiant eu hunain.
2.3 Cludiant yn gysylltiedig â gwasanaethau cyfeirio dysgwyr
Efallai y bydd angen i ddysgwyr sy'n defnyddio'r uned cyfeirio disgyblion (PRU) neu sy'n dilyn cwricwlwm amgen deithio i wahanol ganolfannau i dderbyn darpariaeth yn ystod yr wythnos. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Cyngor yn darparu cludiant am ddim i'r canolfannau y mae dysgwr yn eu mynychu yn wythnosol, yn ddarostyngedig i'r meini prawf cymhwyso ynghylch pellter safonol.
Lle mae cludiant ysgol am ddim yn cael ei ddarparu, fel rheol bydd disgwyl i ddysgwyr sy'n cyrchu'r UCD/PRU deithio ar gludiant ysgol prif ffrwd lle bo hynny'n briodol. Bydd trefniadau penodol eraill yn seiliedig ar angen dysgwr unigol yn cael eu penderfynu gan Banel Cynhwysiant Powys.
2.4 Cludiant yn ymwneud â gwaharddiadau parhaol a symudiadau a reolir
Bydd yr awdurdod yn darparu cludiant ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u gwahardd yn barhaol neu ddysgwyr sy'n ddarostyngedig i symudiadau a reolir sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwyster safonol ynghylch pellter i'w galluogi i fynychu'r ysgol amgen briodol agosaf a nodwyd gan y Cyngor.
2.5 Diwrnodau sefydlu mewn ysgolion uwchradd
Gall dysgwyr Blwyddyn 6 a fydd yn trosglwyddo i Flwyddyn 7 ym mis Medi ddefnyddio cludiant ysgol presennol os ydynt yn cwrdd â'r meini prawf cymhwyso ar gyfer dysgwyr oed uwchradd (hy yn byw mwy na 3 milltir o'u hysgol addas agosaf) wrth fynychu diwrnodau sefydlu os oes sedd ar gael ar y bws.
2.6 Trefniadau arbennig ar gyfer dysgwyr ag anghenion meddygol tymor byr
Rhoddir ystyriaeth i wneud darpariaeth ar gyfer pob dysgwr sydd ag angen meddygol tymor byr am gludiant oherwydd bod natur y cyflwr meddygol yn effeithio'n ddifrifol ar ei symudedd (ee wedi torri coes), nid dim ond y rhai sy'n gymwys i gael cludiant ar sail pellter. Ym mhob achos, dim ond os yw'r dysgwr yn mynychu ei ysgol agosaf neu ysgol y dalgylch y darperir cludiant.
Dylid anfon ceisiadau, ynghyd â thystiolaeth o'r angen meddygol am gludiant gan weithiwr proffesiynol meddygol, yn ysgrifenedig at yr Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol neu drwy e-bostio transport.applications@powys.gov.uk Bydd y ddarpariaeth yn cael ei hadolygu bob tymor neu'n gynharach os bydd angen.
2.7 Cludiant ar gyfer y rhai nad ydynt yn bodloni'r meini prawf pellter cymwys
Rhoddir ystyriaeth i wneud darpariaeth ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n mynychu eu hysgol addas agosaf ond nad ydyn nhw'n gymwys i gael cludiant ysgol am ddim o dan y meini prawf pellter. Lle gall trafnidiaeth gyhoeddus ddiwallu eu hanghenion, bydd dysgwyr yn cael gwybod am hyn a gallant ddefnyddio'r bws gwasanaeth ar ôl talu'r tâl priodol. Lle nad oes darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus addas ar gael, gall y Cyngor roi trwydded ar gyfer sedd ar fws ysgol pwrpasol (os oes un ar gael) cyn belled ag y bo'r ffi briodol yn cael ei thalu a bod y cerbyd yn cwrdd â gofynion rheoliadau PSVAR2000. Dim ond dros dro y bydd y sedd ar gael a gellir ei thynnu'n ôl ar unrhyw adeg yn ôl disgresiwn yr awdurdod ee pan na fydd seddi ar gael. Gallai hyn ddigwydd ar fyr rybudd ac yna mae'r cyfrifoldeb am gludiant yn dychwelyd yn ôl at y rhieni / gwarcheidwad.
2.8 Trefniant Pontio
Bydd y trefniadau pontio canlynol yn berthnasol i alluogi dysgwyr presennol i gwblhau eu haddysg:
- Ar gyfer dysgwyr oed cynradd (4 i 11 oed): Hyd nes eu bod yn cwblhau diwedd eu hysgol gynradd neu eu bod yn gadael eu hysgol
- Ar gyfer dysgwyr oed uwchradd (11 i 16 oed): Hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 4 (oedran ysgol statudol) neu adael eu hysgol
- Hyd at ddiwedd Cyfnod Allweddol 5 (16-19 oed) ar gyfer dysgwr ym Mlynyddoedd 12-13.
Pan fydd y newidiadau polisi a'r trefniant pontio yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer dysgwyr, bydd unrhyw frodyr a chwiorydd iau sy'n gwneud cais am drafnidiaeth yn cael eu hystyried o dan y polisi newydd ac ni fyddant yn cael lle ar gludiant dros dro gyda'u brawd neu chwaer
Adran 3: Materion Cludiant Cyffredinol
3.1 Gwregysau Diogelwch
Yn unol â'r Cod Ymddygiad Teithio, mae disgwyl i ddysgwyr wisgo gwregys diogelwch.
3.2 Darparu cynorthwywyr teithwyr ar gludiant
Fel rheol ni ddarperir cynorthwywyr teithwyr ar gludiant i ysgolion prif ffrwd. Bydd yr angen am gynorthwyydd teithwyr ar gerbyd i gefnogi dysgwr / dysgwyr yn cael ei benderfynu ar ôl i'r Cyngor gwblhau asesiad risg.
Bydd cynorthwywyr teithwyr yn cael eu darparu ar gerbydau i oruchwylio dysgwyr ar eu taith i ac o rai ysgolion ADY / canolfannau arbenigol sydd ynghlwm ag ysgolion prif ffrwd yn seiliedig ar anghenion penodol y dysgwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, sefydlir yr angen yn ystod y broses o ffurfio datganiad neu yn y broses adolygu a bydd yn unol ag anghenion y dysgwr. Ar gyfer dysgwyr sydd angen cludiant unigol, mae'r angen am ddarparu cynorthwyydd yn cael ei fesur trwy'r ffurflen gais am gludiant lle mae swyddogion yn nodi'r angen a, lle bo hynny'n berthnasol, gyda rhanddeiliaid allweddol. Bydd y gofynion yn cael eu cadarnhau gan Reolwr ADY yr awdurdod.
3.3 Amseroedd teithiau
Wrth asesu anghenion teithio dysgwyr, bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y ffaith bod yn rhaid i drefniadau teithio fod yn ddiogel ac yn rhesymol.
Yn unol â Chanllawiau Gweithredol Dysgwyr yng Nghymru, bydd yr awdurdod yn anelu at sicrhau, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, y bydd dysgwr sy'n cael ei gludo i'w ysgol / safle prif ffrwd agosaf yn cael amser teithio priodol ar gyfer yr ysgol y mae'n ei mynychu, a'r ardal ddaearyddol y mae'n byw ynddi.
3.4 Ymddygiad
Mae'r polisi hwn yn cyd-fynd â Chod Ymddygiad Teithio Cymru Gyfan ac o'r herwydd, trwy wneud cais am gludiant ysgol am ddim / dewisol bydd disgwyl i ddysgwyr ddilyn y Cod.
Felly anogir rhieni i ymgyfarwyddo â Chod Ymddygiad Teithio Cymru gyfan trwy ddilyn y dolenni hyn:
https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-03/wales-travel-behaviour-code-a4.pdf
https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-03/school-bus-travel-behaviour-code-a4.pdf
3.5 Camerâu
Bydd teledu cylch cyfyng yn cael ei osod mewn rhai cerbydau dan gontract i sicrhau diogelwch teithwyr a gyrwyr ac i nodi unigolion sy'n dangos ymddygiad annerbyniol. Pan ddefnyddir teledu cylch cyfyng, bydd dysgwyr yn cael gwybod bod gwasanaethau recordio ar waith, gan gynnwys manylion ynghylch cyfrinachedd, defnyddio, storio a chadw delweddau.
3.6 Mannau codi disgyblion
Nid yw bob amser yn bosibl trefnu i lwybrau cerbydau basio'n agos at gartref y dysgwyr i gyd. Felly mae'n bosibl y bydd yn ofynnol i rieni wneud eu trefniadau eu hunain i'w plant gyrraedd man 'codi' agosaf y cerbyd a chael eu casglu oddi yno, ac mae hyn yn gyfrifoldeb y rhiant. Gwneir pob ymdrech i gadw'r pellter hwn i'r lleiafswm ac ni ddylai fod yn fwy na milltir. Yn yr achosion hyn gofynnir am gymorth rhieni i hebrwng dysgwyr yn ddiogel i ac o gerbydau.
3.7 Newid yn amseroedd sesiynau ysgol
O dan Reoliadau Newid Amseroedd Sesiynau Ysgol (Cymru) 2009, lle mae'r awdurdod o'r farn bod angen newid amseroedd sesiynau ysgol i wneud trefniadau teithio yn fwy effeithlon neu effeithiol, neu'n gynaliadwy, bydd yn cynnal ymgynghoriad priodol i newid yr amser y mae sesiwn cyntaf (bore) ysgol yn dechrau ac y mae ei ail sesiwn (prynhawn) yn dod i ben.
3.8 Diogelu
Bydd gweithredwyr yn cynnal gwiriadau diogelu gofynnol (datgeliad DBS manylach) ar bob gyrrwr bws, gyrrwr tacsi a chynorthwyydd teithwyr bob 3 blynedd.
Mae'n ofynnol i bob gyrrwr ymgymryd â hyfforddiant diogelu gyda'r awdurdod. Maent hefyd yn cwblhau hyfforddiant ar-lein trwy'r NSPCC. Yn ystod y broses dendro, rhaid i bob contractwr ddangos tystiolaeth ei fod yn cadw at bolisi diogelu.
3.9 Tywydd garw
Yn ystod cyfnodau o dywydd garw, gall yr awdurdod neu'r contractwr atal darpariaeth cludiant am ddim. Gwneir pob ymdrech i gysylltu â rhieni / gwarcheidwaid i'w hysbysu am gau ysgolion. Lle mae angen cludo dysgwyr adref yn gynharach na'r amser cau arferol, bydd yr ysgol yn cysylltu â rhieni / gwarcheidwaid i'w hysbysu am gau'r ysgol er mwyn sicrhau diogelwch y dysgwyr ar ôl iddynt adael yr ysgol. Pan fydd rhieni / gwarcheidwaid yn cludo dysgwyr a fyddai fel arfer yn teithio ar gludiant o'r cartref i'r ysgol i'r ysgol yn y bore, maent yn gyfrifol am eu casglu ar ddiwedd y diwrnod ysgol.
3.10 Taliadau i rieni / gwarcheidwaid
Mewn ardaloedd anghysbell lle na fyddai'n ymarferol i'r awdurdod ddarparu cludiant i ddysgwyr cymwys, gellir gofyn am gytundeb i rieni / gwarcheidwaid gludo eu dysgwr / dysgwyr i / o'r ysgol ar ôl talu cyfradd lwfans tanwydd y cytunwyd arni. Bydd achosion o'r fath yn cael eu hystyried yn unigol a bydd trefniadau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd.
3.11 Cwynion
Ymchwilir i bob cwyn ynghylch cludiant o'r cartref i'r ysgol gan ddysgwyr, rhieni / gwarcheidwaid, aelodau'r cyhoedd, gyrwyr ac ati.
Dylid anfon gwybodaeth am unrhyw bryderon neu gwynion ynghylch ymddygiad dysgwyr, gyrwyr, cynorthwywyr teithwyr neu gerbydau, cyn gynted â phosibl ar ôl y digwyddiad, i'r ysgol a'r Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG, trwy e-bostio buses@powys .gov.uk .
3.12 Cydymffurfiad â'r Contractau
Yn ogystal â gwiriadau diogelwch statudol ar gerbydau, bydd y Cyngor, ar ddiwrnodau amhenodol, yn cynnal gwiriadau ar hap ar gerbydau a gontractiwyd gan y Cyngor i sicrhau y cydymffurfir â chontractau.
3.13 Trefn apelio
Swyddog yn yr Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol fydd yn penderfynu ar hawl i gludiant ysgol am ddim. Pan wrthodir cais, cynghorir rhieni / gwarcheidwaid am y rheswm/rhesymau dros beidio â dyfarnu cludiant am ddim.
Os nad yw rhiant /gwarcheidwad yn fodlon â phenderfyniad yr Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol, yna gallant herio'r penderfyniad gan ddefnyddio'r broses apelio ganlynol:
Cam 1:
Yn y lle cyntaf, dylai rhieni nodi manylion yr apêl yn ysgrifenedig gydag unrhyw dystiolaeth ategol. Dylai'r apêl hon gael ei hanfon naill ai trwy lythyr neu e-bost at yr Rheolwr Cludiant Teithwyr, yr Uned Trafnidiaeth Gorfforaethol yn Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG / transport.appeals@powys.gov.uk Anfonir cadarnhad ei fod wedi derbyn yr apêl at y rhiant cyn pen 5 diwrnod gwaith ac anfonir ymateb ffurfiol at y rhiant cyn pen 20 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr apêl.
Cam 2:
Os nad yw'r rhiant / gwarcheidwad yn fodlon â phenderfyniad yr Rheolwr Cludiant Teithwyr, gellir apelio o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr ymateb i'r apêl cam 1 yn ysgrifenedig at y Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu. Anfonir cadarnhad ei fod wedi derbyn yr ail apêl hon at y rhiant / gwarcheidwad o fewn 5 diwrnod gwaith. Gwahoddir y rhiant / gwarcheidwad i wrandawiad apêl. Bydd yr apêl yn cael ei gwrando gan y Pennaeth Priffyrdd, Trafnidiaeth ac Ailgylchu a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.
Mae'r penderfyniad ym mhob apêl trafnidiaeth yn cael ei glywed a'i benderfynu fesul achos. Os byddwch yn dal i fod yn anfodlon yn dilyn proses Cam 2, gallwch godi'ch cwyn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, 1 Ffordd yr Hen Gae, Pencoed, CF35 5LJ neu https://www.ombudsman.wales/
Mae yna hefyd hawl i apelio ar bwynt cyfreithiol trwy Adolygiad Barnwrol. Rhaid arfer yr hawl hon cyn pen 6 wythnos ar ôl y penderfyniad.