Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu a'r sbwriel arall ar ôl iddo gael ei gasglu o fin y ffordd?

Mae deunydd ailgylchu a gwastraff gweddilliol a gesglir ym Mhowys yn cael ei ddanfon i'r orsaf drosglwyddo ranbarthol agosaf a'i roi at ei gilydd i greu swmp cyn ei gludo ymlaen at ailbroseswyr.

Sut mae'n cael ei brosesu?

Lle bo modd, anfonir holl ddeunyddiau ymyl palmant Powys i'w prosesu yng Nghymru, ond mae peth deunydd yn cael ei brosesu yn Lloegr. Nid oes unrhyw ddeunydd yn teithio ymhellach na hyn i gael ei ailgylchu neu ei waredu'n llwyr.


Gwastraff Bwyd

Ar hyn o bryd mae gwastraff bwyd ein Sir yn cael ei gludo i weithfeydd treulio anaerobig (AD) ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Swydd Stafford a Swydd Rhydychen.

Yma, mae bacteria'n chwalu'r gwastraff bwyd solet yn absenoldeb ocsigen. Mae hon yn broses hynod effeithlon sy'n caniatáu ailgylchu uniongyrchol hyd at 98% o wastraff bwyd wedi'i fewnbynnu. Mae'r cynnyrch terfynol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu gwrtaith i'w ailddefnyddio'n uniongyrchol yn y sector amaethyddol. Oherwydd y broses Treulio Anaerobig, cynhyrchir cryn dipyn o fethan hefyd, sy'n cael ei gynaeafu a'i ddefnyddio fel bio-nwy i gynhyrchu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol.

Mae'r holl brosesau ailgylchu, yn ogystal â defnyddio'r nwyon sy'n deillio o hyn, yn digwydd ar yr un safle. Mae'r deunydd sy'n weddill (<2%, sydd fel arfer yn cynnwys esgyrn mawr, plastig a halogion eraill na thorrodd i lawr yn ystod y broses slyri) yn cael ei anfon i'w losgi, a hefyd i gynhyrchu trydan ar gyfer y Grid Cenedlaethol, ond mewn amrywiol gyfleusterau yng Nghymru a Lloegr.

Mae yna gydran arall sy'n cael ei hailgylchu o'r lludw gwaelod a gynhyrchir ar ôl llosgi, a ddefnyddir fel cydran wrth gynhyrchu sment.


Papur/Cerdyn

Wedi'i gasglu'n gymysg, mae ein papur /cardfwrdd wrth ymyl y palmant yn cael ei anfon i felin cynhyrchu papur mawr yng Nghaint.  Caiff y ddeunydd ei droi yn ôl yn fwydion i'w bwydo'n ôl i weithgynhyrchu papur a chardfwrdd newydd. Mae hon hefyd yn broses effeithlon iawn gyda mwy na 94% o'r deunydd hwn yn cael ei ailgylchu yn ôl yn uniongyrchol i bapur a chardfwrdd.

Mae tua 3-4% yn cynnwys papur/cardfwrdd na ellir ei ailgylchu, ac er na ellir troi hyn yn ôl i bapur neu gardfwrdd, mae'n dal i gael ei ailgylchu ac yn cael ei anfon i'w gompostio yn lle hynny.  Mae'r 2-3% sy'n weddill yn cynnwys tâp gludiog a styffylau ac ati, sy'n cael eu gwahanu oddi wrth y papur a'r cardfwrdd.

Mae hwn yn cael ei anfon i safleoedd tir lenwi a/neu'n cael ei losgi ac mae hynny'n darparu ynni i roi pŵer i weithfeydd cynhyrchu sment.

Gwydr

Ar hyn o bryd mae ein gwydr yn cael ei anfon at ailbrosesydd gyda chyfleusterau yng Nghwmbrân, Torfaen ac Ellesmere Port, Sir Gaer. Mae mwyafrif ein deunydd yn diweddu yng Nghwmbrân, gydag Ellesmere Port yn cael ei ddefnyddio'n bennaf pan mae Cwmbrân yn llawn.

Yn y safleoedd hyn, mae'r deunydd yn cael ei falu a'i ddidoli gyda cherrynt magnetig a 'cherrynt Eddy' i wahanu unrhyw gydrannau metel o'r gwydr. Mae didoli mecanyddol pellach yn tynnu plastig neu bapur (o gaeadau poteli, capiau a labeli ac ati). Yna mae'r gwydr wedi'i falu naill ai'n cael ei ddidoli yn ôl lliw, a'i wneud yn boteli neu gynwysyddion gwydr newydd, neu'n fwy cyffredin yn cael ei anfon yn gymysg at wneuthurwyr inswleiddio gwydr ffibr i'w fwydo i'w proses gynhyrchu. Ar gyfer deunydd o ansawdd gwaelach, gellir graddio'r gwydr yn ôl maint y gronynnau a'i ddefnyddio fel cydran mewn agregau adeiladu.

O ystyried maint bach iawn, ansawdd gwael a chyfansoddiad cymysg y ffracsiwn papur /plastig, mae hwn fel arfer yn cael ei losgi ar gyfer cynhyrchu trydan ond weithiau gellir ei dirlenwi. Fel gyda deunydd arall sydd wedi'i wrthod neu'i losgi, mae'r lludw gwaelod yn cael ei adfer a'i ddefnyddio fel deunydd crai wrth gynhyrchu sment. Mae'r metelau'n cael eu swmpio a'u hanfon ymlaen at ailbroseswyr i'w malu a'u smeltio yn ôl i ddeunydd sy'n dechrau'r broses o gynhyrchu metel. Anaml y bydd swm y deunydd wedi'i losgi /tirlenwi yn fwy na 5% gan arwain at gyfradd ailgylchu gyfartalog ar gyfer ein deunydd gwydr a gesglir o fwy na 95%.

Caniau a Phlastigion

Mae ein caniau, plastigion a chaniau cymysg yn cael eu danfon i'n gorsaf drosglwyddo yn Llanwern, Aberhonddu, lle defnyddir gwahaniad magnetig a 'cherrynt Eddy' i ynysu'r caniau dur ac alwminiwm, yn y drefn honno, o'r plastigion a chartonau. Caiff deunydd y mae'n amlwg na ellir ei ailgylchu ei gasglu â llaw o'r llif a'i gymysgu â gwastraff gweddilliol arall ar y safle i gael gwared arno. Yn ychwanegol at hyn, caiff y cartonau eu casglu â llaw a'u cadw ar wahân ar gyfer ailgylchu, ac mae'r deunydd sy'n weddill yn llif gymharol lân o blastigau. Yna caiff y pedair is-haen hyn eu byrnu a'u hanfon i'w prosesu ymhellach.

Mae'r caniau alwminiwm yn cael eu malu a'u smeltio'n ôl i ddechrau cynhyrchu alwminiwm newydd yng Ngogledd Lloegr. Maent fel arfer yn cael eu troi yn ôl yn ganiau alwminiwm, ond gallant hefyd ddod yn rhannau i geir ac yn eitemau alwminiwm eraill.

Ar hyn o bryd mae'r caniau dur yn cael eu prosesu gan ailbrosesydd metel yn Ne Cymru, ac yn yr un modd yn cael eu malu a'u smeltio'n ganiau newydd neu nwyddau dur eraill.

Mae' cartonau bwyd a diod yn cael eu casglu gan ACE UK, sef consortiwm o'r prif gynhyrchwyr cartonau bwyd a diod cyfansawdd sy'n gweithredu yn y DU. Maen nhw wedi creu cyfleuster pwrpasol yn Halifax, Swydd Efrog sy'n malu a chreu mwydion o'r cartonau er mwyn di-lamineiddio'r amrywiol ffilm plastig, ffoil a haenau papur strwythur y carton. Yna gellir gwahanu pob cydran, gyda'r plastig yn cael ei ailgylchu yn ôl i greu ffilm, y ffoil ei anfon i'w smeltio a'r papur ei droi'n ôl i greu dalennau yn y felin bapur gyfagos â'r safle. Mae pob caead a phig plastig caled hefyd yn cael eu gwahanu ar gyfer ailgylchu'n ôl yn naddion neu belets plastig yn barod i'w hail-weithgynhyrchu.

Ar hyn o bryd, mae'r plastigion yn cael eu cludo i Gyfleuster Adfer Deunyddiau (CAD) ym Manceinion Fwyaf, sy'n eu gwahanu'n optegol i'r mathau polymer unigol, lle bo hynny'n bosibl. Mae'r un cwmni hefyd yn gallu ailgylchu'r PET [1] a adferwyd yn uniongyrchol a'u troi yn gynhyrchion newydd yn eu chwaer safleoedd yng Nghasnewydd. Mae'r polymerau hyn fel rheol yn ffurfio tua 35% o'r llif plastigion ac yn cael eu malu'n belenni sy'n cael eu toddi a'u hallwthio i gynhyrchion newydd.

Caiff poteli llaeth HDPE[2] eu hanfon ymlaen at brosesydd yn Redcar ger Middlesbrough a'u hailgylchu'n ôl yn boteli llaeth Newydd. Caiff unrhyw ddeunydd arall HDPE[2] ei anfon ymlaen i gwmni yn Swydd Lincoln sy'n gwneud pibellwaith plastig ar gyfer y diwydiant adeiladu sifil.

Caiff potiau, tybiau a hambyrddau PP [5] eu hanfon at gwmni yn Swydd Warwick sy'n eu glanhau a'u torri'n belenni, sy'n cael eu darparu fel defnydd crai i weithgynhyrchwyr rholiau taflenni PP i'w defnyddio i greu potiau, tybiau a hambyrddau newydd.

Er bod Powys yn didoli'r caniau o'r plastigion yn ein MRF, nid yw rhai metelau yn cyrraedd y llif plastigion, ac felly mae yna hefyd allbwn bach o ddeunydd metel o MRF y cwmni hwn, sydd hefyd yn cael ei anfon i'w ailgylchu.

Anfonir unrhyw ddeunydd sy'n weddill, fel PVC [3], PS [6], plastigion lliw na ellir eu hailgylchu, meinion (deunydd o dan 50mm) a deunydd arall sydd wedi'i wrthod (labeli papur, ffilm lapiadau poteli ac ati) i gael ei droi'n Danwydd Solet wedi'i Adfer. Yna defnyddir hwn gan gyfleusterau amrywiol Ynni DU oddi wrth Wastraff neu gynhyrchwyr sment i un ai ychwanegu trydan at y Grid Cenedlaethol neu roi pŵer i'w hodynau, yn y drefn honno. Caiff unrhyw lwch a gynhyrchir o losgi ei ailgylchu'n agredau parod ar gyfer adeiladu, neu ei ddefnyddio fel deunydd crai amnewid yn y broses o weithgynhyrchu'r sment ei hun, gan ychwanegu haen ychwanegol o ddeunydd wedi'u hadfer.

Oherwydd bod cyfrannau'r gwahanol bolymerau plastig yn y ffrwd plastigion cymysg yn amrywio o fis i fis, felly hefyd mae cyfradd adfer y llif deunydd hwn. Yn nodweddiadol, bydd yn amrywio rhwng 75 a 90% a dyma'r ffrwd deunydd ymyl y palmant mwyaf amrywiol o ran ansawdd ac o ran ei allu i gael ei ailgylchu.

Gwastraff Gardd

Ar hyn o bryd mae ein gwastraff gardd yn cael ei gludo i gyfleuster compostio yn Sir Gaerfyrddin.

Yma caiff ei falu cyn mynd drwy gompostio 'open windrow'. Mae'r broses hon yn cynnwys cymysgu'r deunydd wedi'i falu a'i storio mewn cilfachau agored mawr.

Mae'r deunydd yn cael ei droi o bryd i'w gilydd i'w awyru ac i ganiatáu i'r llwyth cyfan ddadelfennu'n llawn, a gallai'r broses gymryd sawl mis (tua 16 wythnos fel arfer) i gynhyrchu'r allbwn compost terfynol.

Gwastraff Gweddilliol

O fis Tachwedd 2021 nid oes dim o'n gwastraff gweddilliol (gwastraff na ellir mo'i ailgylchu) yn mynd i safleoedd tirlenwi. Yn lle hyn, mae'n mynd i gyfleuster Ynni o Wastraff yng Nglannau Mersi. Mae'r gwastraff yn cael ei losgi'n ulw fan hyn i gynhyrchu gwres. Defnyddir y gwres i ferwi dŵr a defnyddir y stêm a ddaw yn ei sgil i yrru tyrbin sy'n cynhyrchu trydan i'r Grid Cenedlaethol. Dyma broses draddodiadol iawn i gynhyrchu trydan, sef yr un broses a ddefnyddir gan weithfeydd nwy naturiol, glo, biomas a phŵer niwclear, ond sydd yn defnyddio'r gwastraff gweddilliol yma o gartrefi a busnesau fel tanwydd.

Nid yw llosgi unrhyw ddeunydd yn broses lân, ac felly mae'r gwaith yn defnyddio 'glanhawyr sgrwbio' i lanhau cymaint ag sy'n bosibl cyn allyrru'r nwyon. Mae hyn yn cynnwys y nwyon yn cael eu trosglwyddo trwy gyfuniad o amonia, calch a charbon wedi'i actifadu sy'n dal ac yn casglu rhai o'r cyfansoddion nwy niweidiol, gan ostwng asidedd y nwyon sydd dros ben, a chan amsugno metalau a diocsinau sy'n bresennol mewn nwyon disbyddu. Mae hyn yn gostwng lefelau'r llygryddion sy'n cael eu gollwng i'r awyrgylch yn sylweddol, er nad yw'n cael gwared â hwy yn llwyr.

Gelwir y deunyddiau sydd dros ben o'r broses hon yn Weddillion Rheoli Llygredd Aer (Air Poluution Control Residues neu 'APCR' o hyn ymlaen). Ar hyn fe'u hystyrir yn wastraff peryglus ond rydym yn anfon y deunyddiau i gwmni arbennig ac arloesol, sy'n gallu gwneud y deunydd yn ddiogel a'i ailgylchu. Gwnânt hyn drwy chwalu'r molecylau mwy, niweidiol yn rhai llai, a'u rhwymo gyda'i gilydd yn ddeunydd wedi'i saernïo. Deunydd carreg galch o waith llaw dyn yw hwn yn y bôn. Enw'r proses hwn yw Technoleg Carboneiddio wedi'i Chyflymu a gellir defnyddio'r cynnyrch fel deunydd agreg i adeiladu ffyrdd ac mewn gweithgynhyrchu concrid.

Yn naturiol, nid yw popeth a roddir mewn gwastraff gweddilliol yn gallu cael ei losgi, neu o leiaf ddim yn llwyr, ac felly mae allbwn o ludw'r llosgwr a adwaenir fel 'Lludw Gwaelod y Llosgwr' (IBA), ynghyd â metalau crynodedig. Gan fod mwyafrif y metelau trwm niweidiol a chyfansoddion eraill wedi'u hanweddu a'u gwaredu o'r gwastraff gweddilliol wrth ei losgi, nid yw'r lludw IBA yn cael ei ystyried yn beryglus. Oherwydd hyn, anfonir y lludw hwn i brosesydd agregau i'w raddio yn ôl maint, ac fel yr APCR fe'i defnyddir fel deunydd llenwi sylfaen ar gyfer adeiladu ffyrdd, deunydd crai wrth wneud sment, ynghyd â fel deunydd crai i wneud briciau ymysg pethau eraill. 

Mae'r metalau yn mynd trwy broses o wahanu magnetaidd a 'cherrynt trolif' i ynysu graddau fferrus (sy'n cynnwys haearn) ac anfferrus, a anfonir ymlaen i gyfleusterau smeltio i'w troi'n ôl yn gynnyrch a deunyddiau stoc metal newydd. 

Mae cyfran y gwastraff gweddilliol sy'n parhau fel deunyddiau APCR, Lludw IBA a metalau wedi eu llosgi'n amrywio dros amser, gan ddibynnu ar gyfansoddiad y deunyddiau a fewnbynnir. Yn nodweddiadol, fodd bynnag, mae'r APCR yn cyfansoddi rhwng 2 a 6%, y llwch IBA rhwng 13 a 20%, a'r metalau rhwng 1 a 4%. Oherwydd hyn, mae'r gyfradd adfer o'r broses losgi ar gyfer deunyddiau IBA/APCR a metelau a ailgylchir yn amrywio rhwng 15 a 25% . Golyga hyn fod ychydig o'r gwastraff gweddilliol yn cael ei ailgylchu hefyd, ynghyd â darparu ffynhonnell ynni