Llifogydd

Rhybuddion am lifogydd
Am gyngor ar beth i'w wneud cyn llifogydd, beth i'w wneud yn ystod ac ar ôl llifogydd, cofrestru i dderbyn rhybuddion am lifogydd neu i fonitro rhybuddion am lifogydd, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
Tudalennau Glas
Cyfeirlyfr o gynnyrch a gwasanaethau llifogydd mewn eiddo yw'r Tudalennau Glas. Mae'n cynnwys manylion beth sydd ar gael i leihau'r perygl o lifogydd i'ch cartref neu fusnes.
Fforwm Llifogydd Cenedlaethol
Elusen yw'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol i helpu unigolion sydd wedi dioddef llifogydd a chanllawiau ar ddeddfwriaethau ar lifogydd.
Pibellau'n byrstio
I roi gwybod am lifogydd o garthffos neu brif bibell ddŵr, cysylltwch â'r cwmni cyfleustodau perthnasol yn eich ardal chi.
I roi gwybod am gwteri neu ddraeniau wedi blocio.
Mae draeniau, ffosydd a chwteri sydd wedi blocio'n gallu gorlifo mewn glaw trwm. Os gwelwch chi rywbeth wedi blocio, helpwch ni trwy alw 0845 6076060 i roi gwybod am y broblem.
Bagiau tywod
Perchennog yr eiddo sy'n bennaf gyfrifol am warchod eiddo rhag llifogydd. Ar adegau o lifogydd mawr, bydd y staff Priffyrdd yn ceisio dosbarthu bagiau tywod i eiddo sydd mewn perygl mwyaf. Fodd bynnag, ni fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd lefel y galw neu dywydd drwg. Rhoddir blaenoriaeth i ddiogelu'r rhai mwy bregus, yr henoed neu'r eiddil a phrif gyfleusterau ac adeiladau'r gymuned. Gallwch gasglu rhai bagiau o'r depos Priffyrdd.
Mae llinellau ffôn y ganolfan gyswllt ar agor rhwng 8.30 am tan 5.00 pm dydd Llun i ddydd Iau a rhwng 8.30 am tan 4.30 pm dydd Gwener.
Y rhifau ffôn yw: Ymholiadau Cyffredinol 01597 827460 neu 0345 6027030
Am faterion Priffyrdd, gan gynnwys bagiau tywod, ffoniwch 01597 827465 neu 0345 6027035
Y tu allan i'r oriau hyn (argyfyngau'n unig) ffoniwch ni ar 01597 825275 neu 0845 0544847