Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Family Information Service

Gall bywyd teuluol fod yn straen ac mae angen help a chyngor arnom ni i gyd ar adegau. Mae llawer o ffyrdd y gallwn eich cefnogi chi a'ch teulu. Os hoffech siarad am ba gymorth y gallai fod ei hangen arnoch, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.

  • Cyfeirio at help, cyngor a chymorth gan asiantaethau a grwpiau mewnol ac allanol
  • Rhannu cyfleoedd Cymdeithasu gan gynnwys grwpiau rhieni a phlant bach, grwpiau ar gyfer plant oed ysgol/oed ysgol uwchradd, grwpiau cymorth i rieni a theuluoedd.
  • Rhannu cymorth iechyd a lles i rieni, plant, pobl ifanc neu deuluoedd.
  • Cyfeirio at gymorth a gweithdai i deuluoedd ADdC (Addysg Ddewisol yn y Cartref).
  • Cyfeirio at Hyfforddiant Galwedigaethol/cyrsiau Coleg neu Arweiniad Gyrfa
  • Cyfeirio at Gymorth Ariannol
  • Eich cefnogi ag ymholiadau am geisiadau sy'n ymwneud â phlant megis gofal plant di-dreth, dechrau'n deg, y cynnig gofal plant i Gymru a derbyniadau i ysgolion.
  • Ymholiadau/Cyngor Rhianta
  • Cymorth i blant ag AAA

Hoffech chi gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i dderbyn cylchlythyrau yn y dyfodol yn uniongyrchol i'ch mewnflwch? Dilynwch y ddolen isod a llenwch y ffurflen.

Rhestr Bostio Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Rhestr Bostio Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma


Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu