Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gall bywyd teuluol fod yn straen ac mae angen help a chyngor arnom ni i gyd ar adegau. Mae llawer o ffyrdd y gallwn eich cefnogi chi a'ch teulu. Os hoffech siarad am ba gymorth y gallai fod ei hangen arnoch, cysylltwch â ni yn uniongyrchol.
- Cyfeirio at help, cyngor a chymorth gan asiantaethau a grwpiau mewnol ac allanol
- Rhannu cyfleoedd Cymdeithasu gan gynnwys grwpiau rhieni a phlant bach, grwpiau ar gyfer plant oed ysgol/oed ysgol uwchradd, grwpiau cymorth i rieni a theuluoedd.
- Rhannu cymorth iechyd a lles i rieni, plant, pobl ifanc neu deuluoedd.
- Cyfeirio at gymorth a gweithdai i deuluoedd ADdC (Addysg Ddewisol yn y Cartref).
- Cyfeirio at Hyfforddiant Galwedigaethol/cyrsiau Coleg neu Arweiniad Gyrfa
- Cyfeirio at Gymorth Ariannol
- Eich cefnogi ag ymholiadau am geisiadau sy'n ymwneud â phlant megis gofal plant di-dreth, dechrau'n deg, y cynnig gofal plant i Gymru a derbyniadau i ysgolion.
- Ymholiadau/Cyngor Rhianta.
- Cymorth i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma