Toglo gwelededd dewislen symudol

Amodau a Thelerau Talu â Cherdyn

Mae'r holl ddata taliadau a chardiau yn cael ei ddal a'i brosesu gan ddefnyddio'r protocolau diogelwch diweddaraf sydd ar gael. Mae ein safleoedd hefyd yn cael eu diogelu gan ddefnyddio tystysgrifau a gyhoeddir gan Awdurdod Tystysgrifau cydnabyddedig. Mae manylion eich taliadau cerdyn yn cael eu prosesu'n uniongyrchol gan Allied Irish Gateway.  Trwy ddefnyddio cyfleuster Taliadau Ar-lein Cyngor Sir Powys, rydych yn cadarnhau'r Amodau a Thelerau hyn.

 

Amodau a Thelerau Safonol:

Mae'r amodau a thelerau hyn yn berthnasol i'r holl drafodion cardiau ar-lein a wneir i Gyngor Sir Powys. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn defnyddio'r cyfleusterau talu ar-lein. Gall y Cyngor newid yr amodau hyn o bryd i'w gilydd heb rybudd. Bydd newidiadau yn berthnasol i unrhyw drafodion dilynol gyda Chyngor Sir Powys.

 

Taliadau Ar-lein:

  • Mae defnyddio'r cyfleusterau talu ar-lein ar ein gwefan yn dangos eich bod yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, peidiwch â defnyddio cyfleusterau talu ar-lein. Mae'r holl daliadau ar-lein yn destun i'r amodau hyn.

  • Bydd eich taliad fel arfer yn cyrraedd cyfrif banc y Cyngor o fewn tri diwrnod gwaith. Ni allwn dderbyn atebolrwydd am daliadau sydd wedi'u gohirio.

  • Ni allwn dderbyn atebolrwydd am daliadau'n cael eu cofnodi ar y cyfrif anghywir os byddwch yn cyflenwi gwybodaeth anghywir ond byddwn yn gwneud pob ymdrech i ail-ddyranu unrhyw daliadau o'r fath unwaith y byddwn yn ymwybodol ohonynt.

  • Ni allwn dderbyn atebolrwydd os yw taliad yn cael ei wrthod gan eich cyflenwr cerdyn debyd/credyd am unrhyw reswm.

  • Os yw cyflenwr cerdyn yn gwrthod taliad, nid yw'r Cyngor dan unrhyw rwymedigaeth i dynnu eich sylw at hyn. Dylech wirio gyda'ch cyflenwr cerdyn credyd/debyd/banc boed os yw eich taliad wedi cael ei ddidynu o'ch cyfrif ai peidio.   

  • Mae'r data personol a ddarparwch yn ystod trafodion talu ar-lein yn cael eu cadw'n ddiogel gan y Cyngor neu ein darparwr e-fasnach dan delerau deddfwriaeth diogelu data presennol a bydd ond yn cael ei ddefnyddio er dibenion cofnodi eich taliad ac ar gyfer prosesau cyfrifo. Bydd eich data yn cael ei drin yn gyfrinachol a chyda'r gofal a'r parch mwyaf. Fe fyddwn yn cydymffurfio ag egwyddorion prosesu data personol ac yn sicrhau na fydd y data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall nac yn cael ei ddatgelu i drydydd parti ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw ddata sy'n angenrheidiol i'w ddarparu i ddarparwr e-fasnach y Cyngor sy'n prosesu'r wybodaeth hon ar ran y Cyngor. Dan amgylchiadau eithriadol cyfyngedig, efallai y bydd gofyn i'r Cyngor ddatgelu data i drydydd parti arall e.e. lle mae hyn yn angenrheidiol i gydymffurfio â'r gyfraith. Bydd ein darparwr e-fasnach yn cadw ychydig o wybodaeth bersonol fel y gallwn gael mynediad at gofnodion talu lle mae ymholiadau neu wybodaeth talu anghyflawn. Ni fydd unrhyw fanylion cardiau debyd/credyd a roddir gennych chi yn cael eu cadw yn eu cyfanrwydd.

  • Bydd ad-daliadau, os yn berthnasol, yn cael eu gwneud i'r cerdyn debyd/credyd a ddefnyddiwyd ar gyfer y trafodion gwreiddiol. Bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu gwneud yn unol â pholisi a gweithdrefnau atal gwyngalchu arian y Cyngor.