Camfanteisio'n rhywiol ar blant, Masnachu mewn plant a Chaethwasiaeth Fodern
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y cwrs: The Training Hub
Cwrs deuddydd: Camfanteisio'n rhywiol ar blant
Gyda'r cwrs hwn bydd cyfle i ofalwyr ddod i ddeall a gwybod am faterion yn ymwneud â'r pwnc hwn ac effaith y math hwn o gam-drin, yn ogystal â beth i'w wneud i helpu a chefnogi'r rhai sydd wedi cael eu cam-fanteisio'n rhywiol.
Dyma brif amcanion dysgu'r cwrs:
- Deall beth yw camfanteisio'n rhywiol ar blant a'r gwahanol fodelau.
- Beth yw prif arwyddion a dangosyddion risg/perygl o gam-fanteisio'n rhywiol ar blant.
- Deall beth yw masnachu, paratoi a cham-fanteisio'n rhywiol ar blant mewn gangiau a grwpiau.
- Deall beth yw effeithiau tymor byr a hir dymor camfanteisio'n rhywiol ar blant.
- Gwybod sut a lle i gael help a chefnogaeth i blant a phobl ifanc.
Nod y cwrs Masnachu mewn plant a Chaethwasiaeth Fodern yw rhoi trosolwg i ofalwyr ar faterion masnachu pobl a chaethwasiaeth. Bydd y cwrs yn helpu dysgwyr ddod i wybod mwy am fasnachu pobl a chaethwasiaeth. Bydd yn trafod y problemau sy'n wynebu unigolion sydd wedi cael eu masnachu, sut i nodi'n gywir a deall arwyddion o'r posibilrwydd o gamfanteisio, a chlywed beth sydd ar gael i helpu'r rhai sydd wedi cael eu masnachu.
Dyma brif amcanion dysgu'r cwrs:
- Deall ystyr masnachu pobl.
- Bod yn ymwybodol o elfennau masnachu.
- Gwybod y gwahaniaeth rhwng masnachu a smyglo pobl.
- Deall y gwahanol fathau o fasnachu.
- Bod yn ymwybodol o ddeddfwriaethau perthnasol.
- Deall cysyniad caethwasiaeth fodern.
- Deall yr arferion gorau o ran y cyswllt cyntaf â rhywun sydd wedi cael ei fasnachu.
- Deall y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau