Toglo gwelededd dewislen symudol

Cofrestr Tai Fforddiadwy

Mae Cyngor Sir Powys wedi ffurfio partneriaeth â Tai Teg - sef Cofrestr Tai Fforddiadwy sy'n cael ei redeg gan Gymdeithas Tai Grŵp Cynefin sy'n cwmpasu ardaloedd Awdurdodau Lleol ar draws Gogledd Cymru a Phowys. Mae'r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio Tai Teg fel ffordd o gysylltu pobl â chyfleoedd tai yn yr ardal.

Tŷ sy'n cael ei ddarparu, naill ai ar osod neu i'w brynu, am bris is na'i werth ar y farchnad agored, lle mae mecanweithiau cynllunio diogel ar waith i sicrhau bod tai sydd ar gael am bris y gellir ei fforddio at ddibenion anghenion lleol, yw tai fforddiadwy.

Mae Tai Teg yn gofrestr i aelwydydd sydd ag angen am dai fforddiadwy canolradd.  Dylai aelwydydd sydd ag angen tai cymdeithasol fynd i'r Gwneud cais am dŷ cymdeithasol

Mae Tai Teg yn cynnwys y mathau hyn o gynlluniau tai:

  • Rhentu Canolradd
  • Rhentu i Brynu *
  • Cymorth Prynu
  • Rhannu Ecwiti
  • Rhanberchnogaeth
  • Tai Fforddiadwy ar Werth
  • Hunanadeiladu Fforddiadwy

*Dylid nodi nad yw Rhentu i Brynu yn dod o dan ddiffiniad cynllunio tai fforddiadwy fel y'i diffinnir gan Nodyn Cyngor Technegol 2.

Mae Tai Teg yn ein galluogi i ddod o hyd i feddianwyr cymwys ar gyfer tai fforddiadwy sy'n bodoli eisoes ac wedi'u cynllunio.  Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais i gofrestru â Tai Teg cyn cael eu hasesu, i gadarnhau eu cymhwyster i fynd i gartref fforddiadwy sy'n bodoli'n barod neu yn yr arfaeth.

Mae arian ar gael i gynorthwyo unigolion sydd am brynu eiddo o'u dewis eu hunain ar y farchnad agored ym Mhowys trwy ddarparu benthyciad Cymorth Prynu o rhwng  30%-50% o'r pris gofynnol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i taiteg.org.uk .

O fis Ionawr 2023, ni all cartrefi gofrestru ar Tai Teg ar gyfer Cymorth Prynu ar hyn o bryd. Mae Cymorth Prynu ar gael yn ne Powys yn unig - cysylltwch â Melin Homes yn uniongyrchol i gael gwybodaeth bellach: 01495 745911 / homes@melinhomes.co.uk.

Bydd Tai Teg yn cael ei ddefnyddio yn rhan o'r broses cynllunio:

  • gan y Cyngor a'r Cymdeithasau Tai i ddarparu tystiolaeth o'r angen am dai fforddiadwy.
  • gan ddatblygwyr i ddarparu gwybodaeth ar gyfer trefnu'r gymysgedd o dai fforddiadwy ar eu datblygiadau tai.
  • gan aelwydydd unigol i ddarparu tystiolaeth o'r angen lleol am dai fforddiadwy er mwyn cynorthwyo ceisiadau cynllunio am dai fforddiadwy ar safleoedd sy'n eithriadau.
  • gan aelwydydd unigol i ddarparu tystiolaeth o'u cymhwyster i feddiannu tai fforddiadwy sy'n bodoli eisoes.
  • gan y Cyngor, Cymdeithasau Tai, datblygwyr ac aelwydydd unigol i farchnata tai fforddiadwy sy'n bodoli eisoes ar osod neu i'w prynu.

I ddarganfod mwy am sut y gall Tai Teg gynorthwyo gyda'ch cynigion tai fforddiadwy, cysylltwch â Tai Teg ar 03456 015 605 neu info@taiteg.org.uk.