Asesu Anghenion Plant mewn Sefyllfaoedd lle mae gan y Rhieni Anableddau Dysgu
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs: The Training Hub
Trosolwg: Mae gweithio i gefnogi rhieni ag anableddau dysgu, a sicrhau bod eu plant yn ddiogel yn gofyn am ddealltwriaeth o'r llu o ffactorau risg sy'n wynebu rhieni ag anableddau dysgu a'u plant. Bydd hyn yn adeiladu ar fframweithiau asesu sefydledig ac yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf a'r sgiliau i'r rhai sy'n cymryd rhan i'w cynorthwyo i gynnal asesiadau effeithiol a gweithio ochr yn ochr â theuluoedd a'u plant i liniaru ac i leihau'r risg.
Nod y cwrs: Nod y cwrs undydd yma yw ystyried sut i sicrhau bod plant i rieni ag anableddau dysgu yn cael eu diogelu'n effeithiol.
Bydd y rhai sy'n cyfranogi'n cael cyfle i:
- Gydnabod beth y mae anabledd dysgu'n ei olygu i rianta a diogelu.
- Ystyried y ffactorau risg sy'n wynebu rhieni ag anableddau dysgu o safbwynt trafodiadau.
- Pennu sut i weithio'n effeithiol gyda rhieni ag anableddau dysgu i sicrhau diogelwch eu plant.
- Disgrifio'r wybodaeth ymchwil gyfredol o ran rhieni ag anableddau dysgu a diogelu.
- Defnyddio fframweithiau asesu risg lle mae gan y rhieni anabledd dysgu.
- Gallu cyrchu offer asesu sydd wedi'u llunio'n benodol ar gyfer gwaith gyda rheini ag anableddau dysgu.
- Ystyried rolau'r gwahanol weithwyr proffesiynol yn y broses o asesu a diogelu.
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau