Asesu Anghenion Plant Rhieni sy'n Camddefnyddio Sylweddau a/neu Alcohol
Darparwr y cwrs
DCC Interactive Ltd
Nod
Mae'r cwrs undydd hynod ymarferol hwn yn dilyn 'taith' cofnod; o'r greadigaeth gychwynnol, rheoli a storio cofnodion i arfer gorau. Mae'r cwrs yn tynnu sylw at bwysigrwydd cofnodion yn ystod achos cyfreithiol a pha mor hawdd y gellir ymosod arnynt neu eu hamharchu. Ystyrir manylion beth sydd i'w gynnwys mewn nodiadau ynghylch gwerthuso, asesu, y wybodaeth a gesglir, ymyrraeth, cynllunio a llunio penderfyniadau. Byddwn hefyd yn dadansoddi ac yn egluro atebolrwydd y Gweithiwr Gofal Cymdeithsol Proffesiynol a'r gwahanol ffyrdd y bydd cofnodion yn cael eu craffu. Bydd mynychwyr y cwrs hefyd yn dysgu sut i gasglu, diogelu a chyflwyno cofnodion i safonau arfer gorau.
Mae'r cwrs rhyngweithiol hwn yn datblygu sgiliau cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn natganiadau a/neu adroddiadau'r gweithwyr cymdeithasol. Trwy ymarferion dan awreiniad yr hyfforddwyr, bydd y mynychwyr yn ystyried cynnwys tystiolaeth ysgrifenedig trwy ystyried ffynhonnell a phwysigrwydd yr wybodaeth sydd i'w chynnwys. Byddant yn dysgu sut i wahaniaethu rhwng ffeithiau, dehongliadau a barn ac yn edrych ar beryglon a chamgymeriadau cyffredin Gweithwyr Proffesiynol ym maes Gofal Cymdeithasol, ac yn dysgu sut i'w hosgoi. Bydd mynychwyr yn adolygu adroddiadau, gan gynnwys arddull a fformat, ac yn defnyddio meini prawf asesu gwrthrychol i asesu eu tystiolaeth ysgrifenedig eu hunain.
Deilliannau Dysgu
- Cydnabod pwysigrwydd cofnodion wrth ddarparu gwell canlyniadau i blant -Adnabod ffactorau allweddol wrth sicrhau gofal parhaus
- Gwahaniaethu rhwng ffeithiau, casgliadau a barn
- Cofnodi ffeithiau clir a chryno o arsylwi, cwestiynu a dogfennu
- Rheoli cofnodion yn unol ag arfer gorau (gan gynnwys yn electronig)
- Gallu defnyddio cofnodion fel prif ffynhonnell wybodaeth -Cadw at brotocolau rhannu gwybodaeth
- Adnabod sut y bydd gweithiwr proffesiynol yn atebol am ei gofnodion
- Adnabod Pwysigrwydd casglu gwybodaeth yn effeithiol trwy wybod sut y caiff ei chynnwys tystiolaeth ysgrifenedig
- Nodi'r materion, y ffeithiau a'r ffynonellau, a'u pwysau
- Gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau, a ffynhonnell a phwysau'r dystiolaeth sydd ar gael
- Datblygu'r gallu i edrych yn wrthrychol a beirniadol mewn perthynas â'u gwybodaeth ysgrifenedig eu hunain
- Cynhyrchu datganiadau sy'n cydymffurfio â'r llys ac adroddiadau sy'n gallu gwrthsefyll cael ei croesholi
- Llunio adroddiad da, gan gynnwys cynllun, fformat ac arddull briodol
Dyddiad a Amseroedd
- 20 Awst 2024 09:30-16:30
- 11 Medi 2024, 09:30-16:30
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd.
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Ffurflen Datgan Diddorddeb ar gyfer Cyrsiau Hyfforddiant