Asesu Anghenion Plant Rhieni sy'n Camddefnyddio Sylweddau a/neu Alcohol
Oherwydd pwysau ariannol, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na allwn ddarparu te a choffi yn y digwyddiadau hyfforddi yn ystod 2019-20, rydym yn eich cynghori i fynd â diodydd a phecyn bwyd gyda chi i ddigwyddiadau. |
Darparwr y Cwrs: The Training Hub
Darparu cyfle i'r rhai sy'n cymryd rhan ddatblygu'u dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio asesu risg priodol i ystyried yr effaith ar blant lle mae eu rhieni'n defnyddio sylweddau, a chynllunio ymatebion priodol sy'n canolbwyntio ar y plant. Ategir y cwrs gan ymchwil briodol, ynghyd â damcaniaethau a gwybodaeth a ddaw o adroddiadau defnyddwyr y gwasanaeth, adolygiadau o achosion difrifol, arolygon ac ymchwiliadau'r llywodraeth.
- gwahaniaethu rhwng gwahanol gyffuriau, eu heffeithiau a'r effaith bosibl ar allu rhianta
- ystyried sut y gall agweddau a gwerthoedd effeithio ar ein hymatebion pan fydd rhieni'n defnyddio cyffuriau a/neu alcohol
- ystyried darganfyddiadau ymchwil sy'n dangos yr effaith ar blant pan fydd rhieni'n defnyddio sylweddau. A defnyddio'r ymchwil yma i ddarparu gwybodaeth ar gyfer asesiad angen
- meddwl am y ffactorau i'w hystyried wrth asesu rhieni sy'n defnyddio cyffuriau a/neu alcohol a sut y gellid cynnwys hyn mewn cynlluniau effeithiol sy'n canolbwyntio ar y plentyn
- ystyried y dulliau sy'n fwy tebygol o ymgysylltu rhieni wrth fynd i'r afael â phroblemau cyffuriau/alcohol
- ystyried sut i hybu rhwydweithio aml-asiantaeth effeithiol er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer y broses asesu.
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau