Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth (neu EIR)

Daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i rym ar 1 Ionawr 2005. Mae'r Ddeddf yn rhoi'r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth y mae'r cyngor yn ei chadw oni bai bod y wybodaeth rydych yn gofyn amdani'n dod o dan eithriadau'r Ddeddf.

Cynllun Cyhoeddi

Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOIA) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus yn y DU fabwysiadu a chynnal Cynllun Cyhoeddi. Mae'r polisi hwn yn cefnogi rhwymedigaethau'r Cyngor o dan adran 19 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac fe'i datblygir yn unol â chynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), model-publication-scheme.pdf (ico.org.uk)

Cyngor Sir Powys - Cynllun Cyhoeddi Gwybodaeth (PDF) [271KB]

Gwybodaeth sydd ar Gael

Gofynnir Amdanynt yn Aml (setiau data)

Gall rhai mathau o wybodaeth a ryddheir trwy gais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Amgylcheddol fod o ddiddordeb cyffredinol i'r cyhoedd. Yn yr achosion hynny fe ddarparwn y  wybodaeth hon mewn setiau data.                                       

Gofynnir Amdanynt yn Aml (EIR)

Sylwer:  cyhoeddir ceisiadau ac ymatebion yn eu hiaith wreiddiol

Sut ydw i'n gwneud cais?

I wneud cais, llenwch y ffurflen ar y tudalen hwn.

Er mwyn i'ch cais fod yn un dilys:

  1. Rhaid iddo fod mewn ysgrifen (gan gynnwys e-bost a ffurflenni ar-lein)
  2. Rhaid nodi enw'r ymgeisydd a chyfeiriad post ar gyfer gohebiaeth; a
  3. Rhaid disgrifio'r wybodaeth rydych yn gofyn amdani mewn digon o fanylder.

Byddwn yn cysylltu â chi pan rydym yn derbyn eich cais er mwyn trafod pa wybodaeth sydd ar gael. Bydd hyn yn eich helpu i wneud ceisiadau dilys sy'n ateb eich cwestiynau'n iawn.

 

Pan fyddwch chi'n gwneud cais am wybodaeth

  1. Byddwn yn rhoi gwybod i chi mewn ysgrifen i ddweud a ydym yn cadw'r wybodaeth rydych wedi'i disgrifio yn y cais; a
  2. Os felly y mae, byddwn yn cyfathrebu'r wybodaeth honno i chi.

 

Derbyn y wybodaeth

Gallwch ddweud sut hoffech chi dderbyn y wybodaeth. Gall hyn fod drwy lythyr, ar ffurf crynhoad neu grynodeb o'r wybodaeth, neu drwy archwilio'r wybodaeth yn swyddfeydd y Cyngor ar ddyddiad ac amser rydym yn cytuno arno ar y cyd. Gallwn drosglwyddo unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â hwn i chi.

Cofiwch edrych ar y wybodaeth mae'r cyngor wedi ei chyhoeddi cyn i chi wneud cais.

 

Am beth alla i ofyn?

Gwybodaeth

Gallwch ofyn am wybodaeth rydym yn ei chadw pan rydych yn gwneud eich cais. Gall gwybodaeth fod ar unrhyw ffurf, e.e. dogfennau papur, allbrintiau cyfrifiadurol, crynoadau, mapiau, cynlluniau, ffotograffau ac yn y blaen.

Pan rydych yn gwneud cais rhaid i chi ddisgrifio'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani a rhoi cymaint o fanylion ag y bo modd.

Gwybodaeth Amgylcheddol

  • Gallwch gael hyd i wybodaeth amgylcheddol ar y wefan hon. Gallwch weld cyhoeddiadau'r cyngor mewn perthynas â materion amgylcheddol trwy'r wybodaeth mae'r cyngor wedi ei chyhoeddi.
  • Gall ymgeiswyr archwilio cofrestrau a dogfennau mewn adeiladau'r cyngor am ddim.
  • Llenwch y ffurflen gais ar y tudalen hwn i ofyn i weld y wybodaeth amgylcheddol na allwch gael hyd iddi ar y wefan.

Gallwch weld canllawiau llawn ar reoliadau gwybodaeth amgylcheddol ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Ymholiadau Cyffredinol

Os oes gennych ymholiadau cyffredinol mae croeso i chi gysylltu â'r adran Rheoli Gwybodaeth gan ddefnyddio'r manylion ar y tudalen hwn.

Darllen ymhellach

Mae gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn cynnwys gwybodaeth fanwl am yr hyn y cewch ofyn amdano, beth i'w wneud cyn gwneud cais, gofynion cyfreithiol gwneud cais, sut mae geirio cais, a gair i gall defnyddiol am bethau i'w gwneud a phethau i beidio â'u gwneud.

 

Eithriadau

Mae eithriadau'n berthnasol i wybodaeth a fyddai'n niweidio buddion masnachol, gwybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol, a data personol pobl eraill.

Gallwch weld restr lawn o eithriadau, gan gynnwys eithriadau amgylcheddol, eglurhad a chyngor ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Amserlenni a Chostau

Amserlen

Mae gan y cyngor ugain diwrnod gwaith i ymateb i ymgeisydd. Gellid ymestyn y cyfnod hwn i ddeugain diwrnod os yw'r cais yn un cymhleth neu'n un eithriadol o fawr.

Prisiau

Caiff Cyngor Sir Powys godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ba ffioedd y bydd rhaid i chi eu talu mewn ysgrifen. Os nad ydych yn talu'r ffi o fewn chwe deg diwrnod byddwn yn tybio nad ydych am gael y wybodaeth bellach.

 

A gaiff y Cyngor wrthod fy nghais am wybodaeth?

Caiff. Gall y Cyngor wrthod ceisiadau blinderus a rhai a wneir dro ar ôl tro a/neu geisiadau a wneir i rwystro gweithrediadau'r cyngor. Gall y cyngor wrthod cydymffurfio â chais am wybodaeth lle y bydd yn amcangyfrif y byddai costau cydymffurfio'n uwch na'r terfyn uchaf costau a bennir gan y Llywodraeth. Neu, pan na fydd cais yn cynnwys y wybodaeth orfodol a nodir yn yr adran 'Sut ydw i'n gwneud cais?'

Hefyd gall y cyngor wrthod cydymffurfio â chais am wybodaeth lle ystyrir bod y wybodaeth wedi'i heithrio o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os byddwn yn gwrthod eich cais am wybodaeth byddwn yn rhoi eglurhad i chi am y rhesymau pam.

 

Beth os nad ydw i'n fodlon, neu os bydd fy nghais yn cael ei wrthod?

Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad, hynny yw, rydym wedi gwrthod eich cais, neu, pan rydych o'r farn nad ydym wedi ymwneud â'ch cais yn iawn, cewch wneud cwyn ffurfiol dan Weithdrefn Cwyno'r Cyngor.

Os nad ydych yn fodlon ar y penderfyniad, neu os nad yw'r Cyngor wedi ymateb i chi o fewn yr amser a bennir yn y Weithdrefn Cwyno, neu o fewn yr amser y cytunwyd arno rhyngoch chi a'r Cyngor, cewch wneud cais i'r Comisiynydd Gwybodaeth am arolwg annibynnol yn y cyfeiriad isod:

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545700

Gwefan: http://ico.org.uk

 

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth (neu EIR) Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth (neu EIR)

Contacts

Feedback about a page here