Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Treth y Cyngor: Setiau data

Gallai peth o'r wybodaeth sy'n cael ei ryddhau yn sgil cais Rhyddid Gwybodaeth neu Reoliadau Adeiladu fod o ddiddordeb i'r cyhoedd yn gyffredinol. Os felly, byddwn yn cynnwys y wybodaeth mewn setiau data yma.

Am ragor o wybodaeth am eich Treth y Cyngor, darllenwch y llyfryn 'Arweiniad i'ch Treth y Cyngor a Threthi Busnes' ar y dudalen Taliadau Treth y Cyngor.

Casglu Treth y Cyngor

Y dreth gyngor yw prif ffynhonnell yr incwm a godir yn lleol ar gyfer awdurdodau lleol. Mae data casglu'r dreth gyngor yn dadansoddi faint o dreth gyngor a gasglwyd gan awdurdodau lleol Cymru ym mhob blwyddyn ariannol.

Gweld rhagor o wybodaeth am Gasgliadau Treth y cyngor ar wefan StatsCymru

Adennill Treth y Cyngor

Mae'r set ddata hon yn dangos manylion y camau gweithredu a gymerwyd, fesul blwyddyn, i adennill Treth y Cyngor sy'n ddyledus i'r Cyngor.  Adennill Treth y Cyngor (ZIP, 10 KB)

Lefelau Treth y Cyngor

Y dreth gyngor yw'r dreth ar eiddo domestig a bennir gan awdurdodau lleol er mwyn casglu digon o refeniw i gwrdd â'u gofynion. Fe ddisodlodd y tâl cymunedol ar 1 Ebrill 1993. Caiff ei chyfrifo ar sail band y dreth gyngor y gosodwyd pob eiddo ynddo. Gosodir eiddo ym mhob awdurdod lleol mewn un o naw band prisio: A i I.

Gweld rhagor o wybodaeth am Lefelau Treth y Cyngor ar wefan StatsCymru

Anheddau Treth y Cyngor

Mae data anheddau'r dreth gyngor yn manylu ar nifer yr anheddau sy'n agored i dalu'r dreth gyngor yn awdurdodau lleol Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae'r data hefyd yn rhoi manylion gostyngiadau ac eithriadau'r dreth gyngor.

Gweld rhagor o wybodaeth ar ddata anheddau Treth y Cyngor ar wefan StatsCymru

Cyfrifon gyda Chredydau wedi'u Dwyn Ymlaen

Mae'r rhestr hon yn cynnwys cyfrifon Treth y Cyngor mewn Credyd (+£20) sydd wedi'u dwyn ymlaen. Mae'r data'n cynnwys y swm credyd a ddygwyd ymlaen a hefyd yr flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi. Os credwch fod gennych hawl i swm ar y rhestr hon bydd angen i chi lenwi ffurflen gais am ad-daliad form.

Rhestr credydau wedi'u dwyn ymlaen Mehefin 2024 (ZIP, 12 KB)

*Bydd y data yma'n cael eu diweddaru bob mis Mehefin.

Premiymau Treth y Cyngor

Gellir darganfod rhagor o wybodaeth am bremiymau a'r eithriadau i'r premiymau yma: Premiymau Treth y Cyngor

Mae gwybodaeth ynglŷn â nifer yr eiddo sy'n destun ffi premiwm a'r swm Treth y Cyngor a godwyd trwy premiymau i'w weld yma:  Setiau data - Premiymau Treth y Cyngor (ZIP, 19 KB) Mae incwm o bremiwm Treth y Cyngor yn ariannu swyddog eiddo gwag, dau swyddog Treth y Cyngor ac yn gwneud cyfraniad cyffredinol at y cynllun ariannol Tymor canolig.

Bydd y set ddata hon yn cael ei diweddaru'n flynyddol ym mis Ebrill.

Trosglwyddo Eiddo Rhwng Rhestrau Trethi

Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) fydd yn penderfynu os yw eiddo yn cael ei gynnwys ar restr Treth y Cyngor neu'r Rhestr Trethi Busnes er dibenion bod yn atebol am dalu Treth y Cyngor neu Drethi Busnes. Bydd y VOA yn defnyddio meini prawf penodol o ran unedau hunan-arlwyo, gan arwain at eiddo'n newid rhwng y ddwy restr trethi. Gellir gweld nifer yr eiddo sy'n symud rhwng y ddwy restr trethi yma: Trosglwyddo Eiddo Rhwng Rhestrau Trethi (ZIP, 11 KB)

Gellir dod o hyd i'r meini prawf a ddefnyddir gan y VOA i bennu pa restr y mae eiddo ynddi yma: Llety hunanddarpar a Threthi Busnes - Cyngor Sir Powys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu