Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymhwystra

Efallai na fyddwn yn gallu eich helpu o dan ein Dyletswyddau Digartrefedd os:

  • Nad ydych wedi byw yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynysoedd y Sianel nac Ynys Manaw am y 5 mlynedd diwethaf, ac nad ydych yn cael eich ystyried yn breswylydd sefydlog yma
  • Rydych chi'n ddinesydd Ewropeaidd sy'n torri "Cyfarwyddeb Breswylio"
  • Rydych wedi hawlio lloches ers cyrraedd y wlad hon o dramor neu wrth ichi ddod i mewn i'r wlad hon ac mae'ch cais yn dal i gael ei ystyried gan y Swyddfa Gartref
  • Rydych chi'n fewnfudwr anghyfreithlon
  • Rydych wedi aros yn rhy hir yn dilyn cael caniatâd i fyw yn y DU
  • Mae gennych ganiatâd cyfyngedig i aros yn y wlad hon (er enghraifft myfyrwyr neu ymwelwyr), ac ni chaniateir i chi hawlio cymorth cyhoeddus gydag arian na thai.

Os ydych chi'n geisiwr lloches ac nad ydych chi'n gymwys i gael tŷ, gallwn roi cyngor i chi o hyd am asiantaethau eraill a allai eich helpu chi.

Cysylltiad Lleol

Os nad oes gennych chi gysylltiad lleol â Phowys, efallai y bydd eich gweithiwr achos yn ceisio'ch cyfeirio yn ôl i'ch ardal "gartref" trwy gysylltu â Chyngor arall.

Mae gennych gysylltiad lleol os:

  • Rydych wedi byw ym Mhowys am 3 blynedd allan o'r 5 mlynedd diwethaf
  • Rydych wedi byw ym Mhowys am 6 mis allan o'r 12 mis diwethaf
  • Cyflogaeth sefydlog ym Mhowys
  • Perthnasau agos sydd wedi byw ym Mhowys am y 5 mlynedd diwethaf

 

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau