Toglo gwelededd dewislen symudol

Datganiad Preifatrwydd Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd

Cefndir:

Mae'r rhybudd preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae adran Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Sir Powys yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol yng nghwrs ein gwaith.

Yr hyn yr ydym yn ei Gasglu:

Er mwyn cyflwyno'r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, mae'n angenrheidiol i'r cyngor brosesu eich gwybodaeth. Er enghraifft, gallwn gasglu'r wybodaeth ganlynol:

•         Enw a chyfeiriad

•         Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost a rhif ffôn

•         Gwybodaeth bersonol arall y gallwch ei gyflwyno fel tystiolaeth, megis gwybodaeth am gyflyrau iechyd, er enghraifft o fewn:

o   Cais cynllunio neu adeilad rhestredig;

o   Sylwadau sy'n ymwneud â Pholisi Cynllunio;

o   Cais ar gyfer rheoliadau adeiladu, rhybudd o ddymchwel, gwaith heb ei awdurdodi, strwythurau peryglus, waliau cynnal neu ddiogelwch mewn meysydd chwaraeon; 

o   Cais am drwydded gyda'r gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd neu Safonau Masnach megis Tai Amlfeddiannaeth, gweithdrefnau arbennig, Petrolewm a Chofrestru busnesau bwyd.

•         Gwybodaeth bersonol arall i ddiwallu gofynion iechyd a diogelwch / monitro grant ar gyfer cyfranogiad mewn gweithgareddau (h.y. sefydlu parodrwydd am 'weithgaredd').

Yr hyn a wnawn gyda'r wybodaeth a gasglwn:

Cyngor Sir Powys yw'r rheoleiddiwr data ar gyfer gwybodaeth bersonol a gyflwynir gennych chi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth ymarfer ein hawdurdod swyddogol fel y pennir ac yn unol â statud ac ni fydd yn cael ei defnyddio ar gyfer unrhyw ddiben arall, oni bai y caiff ei hystyried yn gydnaws, ac o fewn ein diddordebau cyfreithlon i wneud hynny. Ni fyddwn yn rhannu eich data gyda thrydydd parti oni bai fod gofyn i ni neu y caniateir i ni wneud hynny yn unol â'r gyfraith.

Efallai y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol a gasglwyd am y rhesymau canlynol:

•         Fel rhan o'r cofnodion statudol y byddwn yn eu cynnal dan ddeddfwriaeth Gynradd a ddynodwyd yn Atodiad 1, ynghyd â'r holl is-ddeddfwriaeth a Rheoliadau eilaidd.

•         Fel rhan o ddarparu ein Gwasanaeth Cynghori Cyn Cyflwyno Cais Cynllunio.

•         Fel rhan o'n Hymchwiliadau Gorfodaeth dan y Deddfau a Rheoliadau a gyfeirir atynt uchod.

•         Fel rhan o ddarparu ein gwasanaethau tystysgrifau Cyn-prynu a Chwblhau.

•         Gwasanaethau Ychwanegu Gwerth Rheoli Adeiladu.

•         Fel rhan o 'Restrau Dosbarthu' a dargedir tuag at gyflwyno gwybodaeth i chi am Geisiadau Cynllunio / Rheoli Adeiladu / Iechyd yr Amgylchedd / Safonau Masnach, Polisïau a Gweithdrefnau, gan gynnwys gwybodaeth a/neu gyfarwyddyd Cenedlaethol perthnasol.

•         I gysylltu â chi er dibenion ymchwil i'n galluogi ni i wella'r gwasanaethau a gynigiwn. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros e-bost, ffôn, neu yn y post. Fodd bynnag, petaech yn dweud wrthym ni nad ydych yn dymuno bod yn gysylltiedig, yna bydd nodyn yn cael ei wneud ar eich cofnodion yn unol â hynny.

Bydd unrhyw ddata personol a brosesir gan Gyngor Sir Powys yn cael ei wneud yn unol â gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) (Rheoliad (UE) 2016/679 a Deddf Diogelu Data 2018. Fe fyddwn yn cadw'r wybodaeth hon yn unol â'n gofynion statudol.

Dim ond lle mae gofyn yn unol â'r gyfraith y byddwn yn datgelu eich data personol neu lle mae'n gyfreithlon i wneud hynny, megis yr achlysuron canlynol:

•         Yn fewnol gydag Adrannau eraill Cyngor Sir Powys.

•         Sefydliadau/Awdurdodau Rheoleiddio sy'n ein cynorthwyo ni wrth gyflwyno ein Gwasanaethau. 

•         Eich cynrychiolwyr cyfreithiol.

•         Awdurdodau partner trwy Gynllun Awdurdod Partner Rheoli Adeiladu'r Awdurdod Lleol o ran ceisiadau Rheoli Adeiladu.

Diogelwch:

Rydym yn ymroddedig i sicrhau fod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn rhwystro mynediad neu ddatgelu sydd heb ei awdurdodi, rydym wedi rhoi gweithdrefnau rheoli, electronig a ffisegol addas ar waith i ddiogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.

Os ydych yn cyflwyno gwybodaeth yr hoffech ei thrin yn gyfrinachol neu ei chadw'n ôl yn benodol, rhowch wybod i'r gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd cyn gynted ag y gallwch - cyn cyflwyno'r wybodaeth yn ddelfrydol.

Dolenni i Wefannau Eraill

Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sydd o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Ni allwn, felly, fod yn gyfrifol am breifatrwydd a diogelu unrhyw wybodaeth a gyflwynwch tra'n ymweld â safleoedd o'r fath ac nid yw safleoedd o'r fath yn cael eu rheoli gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech ymarfer gofal ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.

Rheoli eich Gwybodaeth Bersonol

Bydd gwybodaeth a gynhelir gan y Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn cael ei chadw yn unol â'r ddeddfwriaeth ac amserlen gadw'r Cyngor. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y defnydd o'ch data personol, cysylltwch â'r adran yn y lle cyntaf neu'r Swyddog Diogelu Data trwy anfon e-bost at information.compliance@powys.gov.uk neu drwy ffonio 01597 826400.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach ar sut mae Cyngor Sir Powys yn defnyddio data personol, a hawliau diogelu data unigolion yn y cyfeiriad canlynol: Diogelu Data a Phreifatrwydd

Diweddariadau (rhybudd):

Gallwn ddiweddaru neu ddiwygio'r Rhybudd Preifatrwydd hwn ar unrhyw adeg felly cyfeiriwch yn ôl at y dudalen hon am y fersiwn mwyaf diweddar.

Atodiad 1

Cynllunio

Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990  Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990

Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004

Deddf Cynllunio (Cymru) 2015

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 1994

Cyfarwyddeb y GE 92/43/EEC ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Fflora a Ffawna Gwyllt (Cyfarwyddeb Cynefinoedd)

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013

Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000

Am restr lawn o ddeddfwriaeth gynllunio berthnasol, edrychwch ar wefan cynllunio Llywodraeth Cymru (https://gov.wales/topics/planning/?lang=en).

Rheoli Adeiladu

Deddf Adeiladu 1984

Rheoliadau Adeiladu 2010

Deddf Gorllewin Morgannwg 2010

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975

Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987

 

Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach 

 

Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003

Deddf Adeiladu 1984

Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960

Deddf Safleoedd Carafannau 1968 Deddf Aer Glân 1993

Deddf yr Amgylchedd a Chymdogaethau Glân 2005

Deddf Cwmnïau 2006

Deddf Rheoli Llygredd 1974

Deddf Ceirw 1991

Deddf yr Amgylchedd 1995

Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990

Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972

Deddf Diogelu'r Amgylchedd a Bwyd 1985

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (fel y'i diwygiwyd) ac unrhyw Orchmynion neu Reoliadau a wnaed oddi tanynt neu mewn perthynas â blaenori cael effaith trwy rinwedd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972

Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

Deddf Iechyd 2006

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974

Deddfau Tai 1985, 1996 & 2004

Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997

Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996

Deddf Iawndal Tir 1973

Deddf Draenio Tir 1991

Deddf Landlord a Thenant 1985 

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 

Deddfau Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 & 1982

Deddf Tai a Llywodraeth Leol 1989

Deddf Cymorth Gwladol (Diwygiad) 1951

Deddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993

Deddf Sŵn 1996

Deddf Atal Difrod gan Bla 1949

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002 & 2007

Deddf Diogelu rhag Troi Allan 1977

Deddfau y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1936 & 1961

Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2017

Rhan 2A Deddf Iechyd Cyhoeddus (Rheoli Afiechydon) 1984 (fel y'i diwygiwyd gan adran 129 Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008)

Deddf Iechyd Cyhoeddus (Draenio Eiddo Masnachol) 1937

Deddf Lladd-dai 1974

Deddf Lladd Dofednod 1967

Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) Act 2010

Deddf Gwelyau Haul (Rheoliad) 2010 (Cymru) Rheoliadau 2011

Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 

Deddf Gorllewin Morgannwg 1987

Deddf Asiantaethau Llety 1953

Deddfau Gweinyddu Cyfiawnder 1970 &1985

Deddf Amaethyddiaeth 1970

Deddfau Cynnyrch Amaethyddol (Graddio a Marcio) 1928 - 1931

Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968

Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodaeth) (Cymru) 2014

Deddfau Iechyd Anifeiliaid 1981 & 2002

Deddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Deddf Canser 1939

Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933

Deddf Plant a Phobl Ifanc (Diogelu rhag Tybaco) 1991

Deddfau Cwmnïau 1985 & 2006

Deddf Credyd Defnyddwyr 1974 & 2006

Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015

Deddf Diogelu Defnyddwyr 1987

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2010

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phataentau 1988

Deddf Hawlfraint ac ati a Marciau Masnachu (Troseddau a Gorfodaeth) 2002

Deddf Ymdrechion Troseddol 1981

Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988 adrannau.141 a 141A

Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994

Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2001 (Pennod 2)

Deddf Cyfraith Droseddol 1977

Deddf Datblygu Twristiaeth 1969

Deddfau Cŵn 1906 & 1928

Deddf Diwygio Addysg 1988 (adrannau 214 & 215)

Deddf Ynni 1976

Deddf Menter 2002

Deddf Asiantau Tai 1979

Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972

Deddf Ffrwydron 1875

Deddf Cemegau Fferm a Gerddi 1967

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodaeth) (Cymru) 2005

Rheoliadau Deunyddiau Bwydo (Cymru) 2006

Deddf Tân Gwyllt 2003

Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010

Deddf Diogelu'r Amgylchedd a Bwyd 1985 (Awdurdodaeth trwy'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn unig)

Rheoliadau Gwybodaeth ar Fwyd (Cymru) 2014

Deddf Diogelwch Bwyd 1990 (adran.32) a Gorchymynion a Rheoliadau perthnasol a wnaed oddi tanynt neu mewn perthynas â blaenori cael effaith trwy rinwedd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972

Deddfau Twyll a Ffugio 1981 a 1988

Rheoliadau Diogelwch Cynnyrch Cyffredinol 2005

Deddf Twyll Act 2006

Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

Deddf Dilysnodi 1973

Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974 (Adran 20(2) (a),(b),( c), (d), (e),(f), (g), (h), (i), (j), (k), (l); Adrannau 21,22, 25,38 and 39

Deddf Priffyrdd Act 1980

Rheoliadau Bwyd a Fewnforir 1997

Deddf Sylweddau Meddwol (Cyflenwi) 1985

Deddf Cyllyll 1997

Deddf Trwyddedu 2003

Deddf Cyfathrebu Maleisus 1988

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012

Deddf Meddyginiaeth 1968 (adran.111)

Deddf Beiciau Modur (Sŵn) 1987

Deddf Cerbydau Modur (Offer Diogelwch i Blant) 1991

Deddf y Loteri Genedlaethol 1993

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Deddf Arfau Ymosodol (adran.6)

Deddf Symbolau Olympaidd ac ati (Diogelu) 1995

Deddf Plaleiddiaid (Ffioedd a Gorfodaeth) 1989

Deddf Petrolewm (Cydgrynhoad) 1928

Deddf Petrolewm (Trosglwyddo Trwyddedau) 1936

Deddf Gwenwynau 1972

Deddf Prisiau 1974

Deddf Enillion Troseddau 2002

Deddfau Iechyd Cyhoeddus 1936 & 1961

Deddf Dyluniadau Cofrestredig 1949

Deddfau Traffig y Ffyrdd 1974, 1988 a 1991

Deddf Traffig y Ffyrdd (Darpariaeth Ôl-ddilynol) 1988

Deddf Traffig y Ffyrdd (Cerbydau Tramor) 1972

Deddf Troseddwyr Traffig y Ffyrdd 1988

Rheoliadau Cynhyrchion Penodedig o Tsieina (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008

Deddf Telegyfathrebu 1984

Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002

Rheoliadau Masnachu mewn Anifeiliaid a Chynnyrch Cysylltiedig (Cymru)

Deddf Nodau Masnach 1994

Deddfau Nwyddau a Gwasanaethau nas Archebwyd 1971 & 1975

Deddf Cerbydau (Trosedd) 2001

Deddfau Recordiadau Fideo 1984, 1993 a 2010

Deddfau Pwysau a Mesurau 1976 ac 1985

Deddf Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd 1991

Deddf Newid Hinsawdd, 2008

Deddf Gemau, 1968

Deddf Hapchwarae, 2005

Deddf Casgliadau o Ddrws i Ddrws, 1939

Deddf Hypnoteiddio, 1952

Deddf Trwyddedu, 2003

Deddf Cerddoriaeth Fyw, 2012

Deddf Loterïau , 1975

Deddf Loterïau a Diddanwch, 1976

Deddf Cartrefi Symudol, 1983

Deddf Cartrefi Symudol (Cymru), 2013

Deddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoliad), 1925

Deddf Yr Heddlu, Ffatrioedd ac ati (Darpariaethau Amrywiol), 1916

Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol, 2011

Deddf Iechyd Cyhoeddus, 1875

Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017

Deddf Delwyr Metel Sgrap, 2013

Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru), 2010

Rheoliadau Eiddo Di-fwg (Cymru), 2007

Deddf Masnachu ar y Sul, 1994

Deddf Cymalau Heddlu Tref 1847

Rheoliadau Amser Gwaith 1998