Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Credyd Cynhwysol

Os ydych chi neu'ch partner o oed gweithio ac angen gwneud cais am fudd-dal arnoch, mae'n rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau'n symud hawlwyr o oedran gwaith sy'n derbyn Budd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol erbyn Rhagfyr 2024.

Newid i Gredyd Cynhwysol

Os ydych yn byw ym Mhowys ac yn derbyn Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant (a ddim yn derbyn Budd-dal Tai), byddwch yn derbyn Hysbysiad Symud Gweinyddol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (AGPh) ym mis Ionawr/Chwefror 2024 ymlaen. Bydd y llythyr yn dweud wrthych bod eich Credydau Treth yn dod i ben a'ch bod angen hawlio Credyd Cynhwysol.

Bydd y llythyr yn rhoi dyddiad cau sy'n rhoi tri mis i chi wneud cais - ni chewch eich trosglwyddo'n awtomatig i Gredyd Cynhwysol. Os oes angen estyniad amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau personol neu i drefnu rhywfaint o gyngor, gallwch ffonio'r rhif ffôn ar y llythyr i ofyn am fwy o amser.

Pe byddai swm y Credyd Cynhwysol yn llai na'ch Credydau Treth, gallwch gael taliad atodol sy'n golygu nad ydych yn waeth eich byd ar adeg trosglwyddo.

Os ydych wedi derbyn taflen sy'n eich hysbysu y cewch eich gwahodd i newid yn fuan, rydym yn argymell eich bod yn aros i dderbyn y llythyr yn eich gwahodd i wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd y gallech fod yn gymwys i gael swm ychwanegol os oedd eich credydau treth yn uwch na'ch Credyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn amddiffyniad trosiannol.

Bydd budd-daliadau eraill yn newid i Gredyd Cynhwysol yn ddiweddarach. Unwaith y bydd y rhain yn hysbys, byddwn yn diweddaru'r dudalen hon.

Mae'n bosibl y bydd rhai sy'n hawlio Budd-dal Tai yn derbyn mwy o arian ar Gredyd Cynhwysol.

Fe allech fanteisio ar hyn trwy ddewis wneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn hynny os ydych chi'n credu mai dyma'r peth iawn i chi.

Gallwch fynd i'r  gyfrifiannell fudd-daliadau annibynnol i weld a fyddech chi'n well eich byd ar Gredyd Cynhwysol. 

Os ddewiswch chi wneud cais cyn hynny, mae'n bwysig derbyn cyngor annibynnol o flaen llaw gan na fyddwch yn gallu mynd nôl ar Fudd-dal Tai neu unrhyw fudd-dal arall a ddisodlwyd gan Gredyd Cynhwysol.

Mae rhai eithriadau, a bydd gofyn iddynt hawlio Budd-dal Tai (a elwir fel arall yn fudd-dal etifeddol):

  • os ydych chi'n byw mewn Llety â Chymorth
  • os ydych chi'n byw mewn Llety Dros Dro
  • os ydych chi o Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac nid ydych chi'n rhan o gwpl oedran cymysg

 

Os bydd un o'r eithriadau uchod yn berthnasol ichi, gallwch Gwneud cais am Fudd-dal Tai  o hyd.

Os ydych chi'n atebol am dalu Treth y Cyngor bydd DAL gofyn ichi wneud cais am gymorth gyda hynny trwy Gyngor Sir Powys; nid yw hyn yn dod o dan y Credyd Cynhwysol. Gwneud cais am Ostyngiad yn Nhreth y Cyngor