Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed (CAMHS)
Mae CAMHS Powys yn cynnig asesiadau a thriniaethau i blant a phobl ifanc, hyd at eu pen-blwydd yn 18 mlwydd oed, sy'n cael neu y tybir eu bod wedi cael problemau iechyd meddwl neu anawsterau iechyd emosiynol.
Gall unrhyw Weithiwr Proffesiynol sy'n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc gysylltu â Swyddog CAMHS ar Ddyletswydd Dydd Llun - Dydd Gwener - 9-5 am drafodaeth ac ymgynghoriad cychwynnol cyn cytuno ar atgyfeiriad.
Rhif cyswllt -01874 615662 / 01686 617450
Mewngymorth CAMHS
Gwasanaeth Mewngymorth CAMHS Powys: Gwasanaeth wyneb yn wyneb i ysgolion sy'n cynnwys ymgynghori ar ôl derbyn atgyfeiriad gan ysgolion, cynnig i ddysgwyr ddysgu am bynciau sy'n ymwneud ag iechyd a lles emosiynol a hyfforddiant proffesiynol, gan gynnwys Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid.
Ffôn: 01686 252843
E-bost: PowysCAMHS.SchoolsIn-Reach@wales.nhs.uk
Mind Canol a Gogledd Powys
Mae Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn cefnogi pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Ry'n ni'n gweithredu ledled Canolbarth a Gogledd Powys, ar sail cymorth un-i-un a thrwy hwyluso grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Ry'n ni'n cefnogi un i un a gall atgyfeiriadau fod ar ffurf hunanatgyfeiriad, ysgol, gweithwyr proffesiynol neu rieni/gofalwyr, ond rhaid iddynt fod gyda chaniatâd a gwybodaeth y person ifanc. Ar hyn o bryd mae gennym staff yn NPTC Y Drenewydd, Ysgol Uwchradd Llanidloes ac Ysgol Calon Cymru. Ry'n ni'n gweithio'n agos ag asiantaethau eraill lle mae hyn yn briodol a gallwn atgyfeirio'n fewnol ar gyfer cwnsela profedigaeth a Hunangymorth â Chymorth, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu cymorth iechyd meddwl ymyrraeth gynnar, gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau CBT a baratowyd ymlaen llaw, trwy fodel hunangymorth wedi'i hwyluso.
Manylion cyswllt.
Lorna Jones
E-bost: youth@mnpmind.org.uk
Rhif ffôn: 07947 106804
MIND Aberhonddu a'r Cylch
Rhif ffôn: 01874 611529 Dydd Llun - Dydd Gwener 9am tan 5pm
E-bost: info@breconmind.org.uk
Cymorth tu allan i oriau gwaith (gwasanaeth gyda'r hwyr) 7pm - 11pm (nid ar nos Fawrth na nos Sadwrn). Galwch:01874 793118 neu 07375 109732
MIND Ystradgynlais
Rydym ar Facebook: Ystradgynlais Mind - In the Valleys - Home | Facebook
SilverCloud
Mae GIG Cymru yn darparu mynediad am ddim i SilverCloud®, ystod o raglenni hunangymorth ar-lein dan arweiniad i'ch helpu chi reoli a gwella eich iechyd meddwl a'ch lles.
Mae cymorth ar gyfer symptomau ysgafn i gymedrol o gorbryder, iselder, straen, OCD, cwsg, alcohol, defnyddio cyffuriau, gorbryder iechyd, delwedd corff a mwy i unrhyw un 16+ oed sy'n byw yng Nghymru neu sydd wedi cofrestru â meddygfa yng Nghymru. Mae cymorth hefyd i rieni neu ofalwyr i helpu plant a phobl ifanc sydd â hwyliau isel a gorbryder.
Gall unrhyw un 16+ oed gofrestru heb atgyfeiriad gan Feddyg Teulu. Dewiswch un raglen i'w chwblhau ar eich cyflymder eich hun dros 12 wythnos a chael mynediad iddi unrhyw bryd, unrhyw le ar eich ffôn, tabled neu fwrdd gwaith. Nid oes rhestr aros, a bydd cefnogwr hyfforddedig yn cael ei ddyrannu i chi a fydd yn darparu adborth bob pythefnos.
Yn ogystal â'r cynnig 16+, gellir cyfeirio pobl ifanc 11+ oed ym Mhowys drwy'r timau canlynol:
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS);
- Addysg Cyngor Sir Powys, Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid, Cyfiawnder Ieuenctid, Cymorth Cynnar.
Mae rhaglenni SilverCloud® ar gael drwy'r GIG ym mhob rhanbarth o Gymru. Rheolir y gwasanaeth gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar ran GIG Cymru. Sylwch nad yw hwn yn wasanaeth argyfwng - cewch eich cyfeirio at gymorth mwy priodol os nad yw SilverCloud yn diwallu eich anghenion.
Cofrestrwch: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Rhagor o wybodaeth: https://pthb.nhs.wales/services/adult-and-older-peoples-mental-health-services/silvercloud-online-mental-health-support/
Anfonwch e-bost i'r tîm: silver.cloud@wales.nhs.uk