Gwasanaethau Iechyd ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Nyrsio Ysgol
Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol yn cynnig cefnogaeth a chyngor i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd neu ofalwyr i helpu sicrhau eu bod yn cyrraedd eu llawn botensial yn ystod eu blynyddoedd yn yr ysgol a thu hwnt.
Yr ystod oedran ar gyfer y cyfnod hwn yw 4 blwydd oed hyd at 18 mlwydd oed. Gall plant a phobl ifanc gael mynediad at y gwasanaeth boed os ydynt yn mynychu ysgol ai peidio.
Rhif cyswllt -01547 521207
E-bost - PowysSchoolNursingService@wales.nhs.uk
Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a'r Glasoed (CAMHS)
Mae CAMHS Powys yn cynnig asesiadau a thriniaethau i blant a phobl ifanc, hyd at eu pen-blwydd yn 18 mlwydd oed, sy'n cael neu y tybir eu bod wedi cael problemau iechyd meddwl neu anawsterau iechyd emosiynol.
Gall unrhyw Weithiwr Proffesiynol sy'n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc gysylltu â Swyddog CAMHS ar Ddyletswydd Dydd Llun - Dydd Gwener - 9-5 am drafodaeth ac ymgynghoriad cychwynnol cyn cytuno ar atgyfeiriad.
Rhif cyswllt -01874 615662 / 01686 617450
SilverCloud
Mae SilverCloud yn cynnig mynediad diogel a di-oed at raglenni cefnogi therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar-lein, sydd wedi'u teilwra i'ch anghenion penodol.