Gweld fy nghyfrif Trethi Busnes

 

Person using laptop for Council TaxGweld a llwytho eich bil trethi busnes ar-lein a mwy!

 

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' ar wefan Powys ac wedi diweddaru eich proffil gyda'ch enw llawn, cyfeiriad a chyfeirnod trethi busnes, byddwch erbyn hyn yn gallu gweld gwybodaeth lawn ar eich cyfrif trethi busnes ar-lein gan gynnwys:

  • Crynodeb o'r cyfrif
  • Gweld a llwytho eich bil trethi busnes am unrhyw flwyddyn
  • y swm nesaf i'w dalu a phryd mae'n ddyledus
  • dulliau talu
  • symiau rydych wedi'u talu am unrhyw flwyddyn
  • manylion y bil
  • cynllun talu fesul dipyn
  • gweld a llwytho hysbysiadau adennil

 

Os oes gennych fwy nag un eiddo, gallwch ychwanegu cyfeirnodau trethi busnes ychwanegol at broffil Fy Nghyfrif.

Sut i gyrraedd y cyfleuster Trethi Busnes ar-lein

  1. Cofnodi neu gofrestru ar Fy Nghyfrif yma: https://cy.powys.gov.uk/logiomewn
  2. Yn Fy Nghyfrif, clicio ar y botwm 'Golygu Proffil'
  3. Rhoi eich enw, cyfeiriad a chyfeirnod(au) trethi busnes.
  4. Sgrolio lawr i'r gwaelod a chlicio ar y botwm 'Anfon'
  5. Y tro nesaf y byddwch yn clicio ar Fy Nghyfrif, fe welwch grynodeb byr o'r Trethi Busnes a botwm i 'Weld y Cyfrif Llawn'.

 

Cofiwch, gallwch hefyd weld eich cyfrif Treth y Cyngor ar-lein!

Newydd:  Sefydlu neu ddiwygio Debydau Uniongyrchol ar-lein ar gyfer Trethi Busnes a Threth y Cyngor.

 

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif nawr

A oes gennych gyfrif i'r wefan yn barod?   Logio i Fy Nghyfrif yma

(Cofiwch roi eich enw, cyfeiriad a chyfeirnod trethi busnes yn eich proffil).

 

Sylwadau am y cyfleuster hwn

Rhannwch y dudalen hon

Facebook icon Twitter icon Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu