Biliau a hysbysiadau di-bapur
Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes
Mynediad digidol i'ch holl filiau a hysbysiadau Treth y Cyngor / Ardrethi Busnes
Mynediad i'ch cyfrif Treth y Cyngor / Ardrethi Busnes llawn drwy eich Cyfrif Fy Mhowys ar unrhyw adeg. Byddwch yn derbyn e-bost pan fydd biliau neu hysbysiadau newydd ar gael i'w gweld ar-lein ac ni fyddwch yn derbyn y rhain drwy'r post mwyach.
Os oes cyfeirnod hawliad Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor yn gysylltiedig â'r enw ar eich cyfrif Treth y Cyngor, byddwch hefyd yn gallu gweld crynodeb a dogfennau eich cyfrif Budd-daliadau ar-lein ar unrhyw adeg.
Sut i optio i mewn
- Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif
Oes gennych chi gyfrif gwefan eisoes? Mewngofnodi i Fy Nghyfrif yma Logiwch i mewn i Fy Nghyfrif yma - Yn Fy Nghyfrif, cliciwch i ddiweddaru eich gwybodaeth yn eich Proffil ac ychwanegwch eich enw a'ch cyfeiriad (gwnewch yn siŵr eu bod yr un fath ag y maent yn ymddangos ar eich bil diweddaraf)
- Yn Fy Nghyfrif, o dan Dreth y Cyngor neu Ardrethi Busnes, cliciwch 'Cofrestru' yna nodwch eich rhif(au) cyfeirnod treth cyngor / ardrethi busnes
- Ticiwch y blwch i optio i mewn ar gyfer bilio di-bapur
- Ni fyddwch yn derbyn biliau papur na hysbysiadau yn y post mwyach. Byddwch yn derbyn e-bost i'ch hysbysu pan fydd bil neu hysbysiad newydd wedi'i gyhoeddi.
- I newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg, yn Fy Nghyfrif, cliciwch ar 'Rheoli fy Nhreth Gyngor' neu 'Rheoli fy Ardrethi Busnes'.
Sut i fynd i'ch cyfrif Treth y Cyngor / Trethi Busnes unrhyw bryd
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif yn https://cy.powys.gov.uk/mewngofnodi.
- O dan Dreth y Cyngor neu Ardrethi Busnes, fe welwch falans eich cyfrif cyfredol. Cliciwch 'Gweld' i weld eich cyfrif llawn ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Mae blynyddoedd blaenorol ar gael - cliciwch ar y flwyddyn
- I weld a lawrlwytho eich biliau a'ch hysbysiadau, cliciwch ar 'Biliau a Hysbysiadau'. Mae hysbysiadau hanesyddol hefyd ar gael. Mae'r rhain wedi'u nodi fel 'Copi' ac mae unrhyw hysbysiadau newydd wedi'u nodi fel 'Newydd'. Pan fyddwch wedi darllen hysbysiad newydd, bydd yn cael ei farcio fel 'Wedi'i weld'
- I newid eich dewisiadau ar unrhyw adeg, yn Fy Nghyfrif, cliciwch ar 'Rheoli fy Nhreth Gyngor' neu 'Rheoli fy Ardrethi Busnes'.
Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor
Os oes gennych gyfeirnod hawlio Budd-dal Tai neu Fudd-dal Gostyngiad Treth y Cyngor sy'n gysylltiedig â'ch enw ar eich cyfrif Treth y Cyngor, gallwch hefyd weld crynodeb a dogfennau eich Cyfrif Budd-daliadau ar-lein ar unrhyw adeg. Cliciwch 'Gweld' o dan yr adran Budd-daliadau.
Beth fyddwch chi'n ei weld yn crynodeb eich cyfrif Treth y Cyngor neu Ardrethi Busnes ar-lein?
