Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' ar wefan Powys ac wedi diweddaru eich proffil gyda'ch enw llawn, cyfeiriad a chyfeirnod trethi busnes, byddwch erbyn hyn yn gallu gweld gwybodaeth lawn ar eich cyfrif trethi busnes ar-lein gan gynnwys:
Crynodeb o'r cyfrif
Gweld a llwytho eich bil trethi busnes am unrhyw flwyddyn
y swm nesaf i'w dalu a phryd mae'n ddyledus
dulliau talu
symiau rydych wedi'u talu am unrhyw flwyddyn
manylion y bil
cynllun talu fesul dipyn
gweld a llwytho hysbysiadau adennil
Os yw'r cyfrif mewn credyd - hawlio ad-daliad
Opsiwn ar gyfer bilio di-bapur
Os oes gennych 'Fy Nghyfrif' yn barod, ychwanegwch eich cyfeirnod Treth y Cyngor ac yna atebwch 'Ie' i filio di-bapur.
Os ydych wedi ychwanegu eich cyfeirnod Treth y Cyngor o'r blaen, bydd dal angen i chi fynd i mewn i'ch 'Fy Nghyfrif' a chliciwch yr opsiwn 'Mynd yn Ddi-bapur'.
Pob bil a hysbysiad treth y cyngor ar gyfer unrhyw flwyddyn
Gwybodaeth a dogfennau ar gyfrif budd-dâl tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor.
Os oes gennych fwy nag un eiddo, gallwch ychwanegu cyfeirnodau trethi busnes ychwanegol at Fy Nghyfrif.