Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwasanaethau Ieuenctid ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd

Gwasanaeth Ymyrraeth Ieuenctid

 

Tîm Gwaith Ieuenctid Ar Wahân

Yn cynnig cefnogaeth un i un i bobl ifanc 16 - 25 mlwydd oed ym Mhowys i gyrraedd eu cam nesaf.

Cyswllt - https://www.facebook.com/DetachedYouthPowys/

 

Gwasanaeth Ieuenctid Mynediad Agored

Mae Tîm Mynediad Agored Gwasanaeth Ieuenctid Powys yn cynnig ystod eang o wasanaethau i bobl ifanc 11-25 mlwydd oed. Cyflwynir y rhain gan dîm ymroddedig o weithwyr ieuenctid sydd â chymwysterau proffesiynol ac ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau led led Powys. Gwirfoddol yw sail y gwasanaeth ac mae iddo natur benagored.

Cyswllt -Helen Quarrell - 07805024126 neu Rhodri Jones - 07909882525

Clwb Ieuenctid Aberhonddu - https://www.facebook.com/Breconyouthcentre/

Clwb Ieuenctid Penrhos - https://www.facebook.com/penrhosyouthclub/

Clwb Ieuenctid Y Drenewyddhttps://www.facebook.com/YouthClub-Newtown-121812497932989/

Clwb Ieuenctid Llandrindod - https://www.facebook.com/Llandod-YouthClub-331272480221703/

 

Young Stonewall

Mae Young Stonewall eisiau grymuso pob unigolyn ifanc, beth bynnag fo eu cyfeiriadedd rhywiol na'u hunaniaeth o ran rhywedd, i ymgyrchu dros gydraddoldeb a thriniaeth deg ar gyfer pobl LGBTQ (Pobl Lesbaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol) ac yn erbyn gwahaniaethu.

Gwefanhttps://www.stonewallcymru.org.uk/cy

 

Cyfiawnder Ieuenctid

Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI) Powys (gan gynnwys Gwasanaeth Atal Cyfiawnder Ieuenctid (GACI)) yn gweithio gyda phobl ifanc 8 mlwydd oed hyd at 18 mlwydd oed sy'n cymryd rhan mewn ymddygiad troseddol neu mewn perygl o ymddwyn yn droseddol. Mae'r bobl ifanc a atgyfeirir at y gwasanaeth yn cael eu hasesu mewn nifer o ffyrdd ac mae hyn yn cynnwys asesiad ar eu 'Diogelwch a Lles'. Rydym yn cynnal nifer o ymyriadau sydd wedi'u hanelu'n benodol at wella iechyd meddwl ac iechyd emosiynol, gan ymgynghori'n gyson ac atgyfeirio at ein Nyrs Glinigol Arbenigol (RMN) sydd ar secondiad. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda gwasanaeth camddefnyddio sylweddau CAIS.  

Lle'r ydym yn arbennig o bryderus am Ddiogelwch a Lles unigolyn ifanc, rydym yn trefnu ac yn Cadeirio Cyfarfod Rheoli Risg amlasiantaethol (RMM) i lunio ymateb a chynllun rheoli risg sydd wedi'i deilwra.

E-bost - youth.justice@powys.gov.uk